Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

washington

washington

Beth am yr adegau eraill pan ofynnwyd imi dreulio cyfnodau yn Washington, yn benodol pan gafodd Ronald Reagan, George Bush a Bill Clinton eu hethol yn arlywyddion.

Yn ôl Fidel, mae defnydd yr alltudion o enw Marti yn gyfystyr ag enwi puteindy ar ôl George Washington.

Clywais i fy nhad yn dweud ei fod wedi anfon gair at ddyn o'r enw Rhisiart Roberts yn Washington ynghylch cael gwaith iddo yno.

Gallai neidio o'i gar yn Washington gan ysgwyd dwylo a chusanu babis gystal ag unrhyw arlywydd Americanaidd.

phan welsant ar etholiad y `Rail-splitter o Illinois' [Abraham Lincoln], ys gwelid ef, fod tebygolrwydd y buasent hwy bellach yn colli llyw y peiriant o'u dwylo, gadawsant Washington mewn dicter a soriant - wedi moni: symudasant gyda'i gilydd i ganolbarth gwlad y cotwm; yna sefydlasant ym Montgomery, prifddinas y dalaith hon, a gosodasant i fyny lywodraeth fawr o'r eiddynt eu hunain, ac etholasant cotton planter o dalaith Mississippi yn ben arnynt - `yn engineer in chief' - i redeg y peiriant.

Dehongliad John Griffiths oedd eu bod nhw wedi symud i'r De i geisio torri'n rhydd am eu bod nhw'n colli eu grym traddodiadol yn Washington ac Efrog Newydd.

Yn ei gerdd 'Washington ', mae Gerwyn Williams yn mynd â ni yn ôl at un o'r golygfeydd mwyaf dychrynllyd a welwyd yn yr ugeinfed ganrif.

A dywed sylwebyddion y gallai'r mater gael ei setlo yn y llys ucha, Y Llys Goruchaf yn Washington.

O gamu ymlaen i Eisteddfod Genedlaethol Nedd ym 1994, mae Gerwyn Williams yn un o gerddi'r dilyniant 'Dolenni' hefyd yn sôn am un o ddelweddau mwyaf dychrynllyd rhyfel Fietnam yn ei gerdd 'Washington'. Mae'n mynd â ni yn ôl at y llun o'r ferch fach Phan Thi Kim Phuc yn ffoi, dan lefain, o gyfeiriad ei phentref, ac yn rhedeg yn noeth, a llosgiadau'r napalm i'w gweld ar ei chroen.