'Roedd Pengwern yn ŵr tra defosiynol; cadwai y morning watch a pherthynai i gadwyn weddi oedd yn estyn i bellafoedd India.
Roedd merch yn eistedd ar fainc ac wrth imi ofyn a oedd ganddi newid o ddeuswllt, dywedodd Brynle, 'He wants to watch trains.' Gyda gwên arbennig i mi, rhoes y ferch bedair ceiniog imi a dweud, 'There you are dear, you go and watch your trains,' fel petai'n ansicr o'm hoed.