Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wau

wau

Dyna fe, ddarllenydd - yn llafn main, tal, teneu, gwledig, - mewn gwisg ddiaddurn a digon cyffredin yn dyfod trwy ddrws y capel - am dano y mae coat winlliw o frethyn gwlad wedi ei wau yn lled fras, a hono wedi gweled ei dyddiau goreu; ac oblegid ei fod wedi tyfu ar ol ei chael, edrychai yn fer a chwta - gwasgod o stwff ac un rhes o fotymau yn cau i fynu yn y glos am ddolen ei gadach India oedd yn dorch am ei wddf - llodrau o ffustian rhesog; a phar o esgidiau mawrion cryfion, gyda dwbl wadnau am ei draed, wedi eu pedoli yn ol ac yn mlaen; a'u llenwi â hoelion, ac ymylau hoelion y rhesau allanol yn amgylchu ymyl y gwadnau, fel y gallesid tybio y buasai eu cario yn ddigon o faich i unrhyw ddyn, heb sôn am gerdded ynddynt.

Erbyn iddo gyfansoddi Meini Gwagedd, ac yntau yn ei weithiau diweddarach wedi pwysleisio gallu'r ewyllys ddynol, roedd wedi dechrau gweld mai hanfod bywyd yw'r ffordd y mae'r elfennau gwahanol wedi'u cyd-wau ynddo.

Weithiau gwnâi rhywun rhyw sylw ffraeth, megis, "Mae'n siŵr dy fod wedi nyddu digon o edafedd i wau siaced am y byd erbyn hyn, Morfudd!" A'i hateb yn ddieithriad fyddai, "Rhyw ddydd, Mr Jones, pan ga'i weill!" A chwyrli%ai'r olwyn bren yn fwy penderfynol fyth.

Dyma frawddeg gyntaf Enid Baines 'Roedd ymddiried y dasg o sgrifennu hanes bywyd Arthur Rowlands i mi fel gofyn i un na lwyddodd i wau jersi blaen fynd ati i wau un fair-isle.

Cyfuniad yw o ddeialog naturiol, ymson a llafarganu, sydd yn galluogi'r awdur i dynnu sylw yn barhaus at y ffordd y mae agweddau gwahanol ar fywyd ei gymeriad yn cyd-wau a chyd-daro.

Ceisiodd wau ei ffordd drwy'r dyrfa a'r ceffylau, a chyhyrau'i freichiau'n dyheu am roi'r gurfa.

Arddull ystwyth yw yn anad dim a'i hystwythder yn galluogi'r awdur i ddangos profiad dyn fel symudiad parhaus, rhwng elfennau sydd yn parhaol ymdorri ac yn cyd-wau.