Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wddf

wddf

Fydd y prop, David Whittle, ddim yn chwarae eto yn y gystadleuaeth ar ôl cael anaf i'w wddf yn ystod y gêm yn erbyn Seland Newydd.

Mae'r rhan fwyaf ohonon ni wedi gweld ffilmiau arswyd lle mae dyn gorffwyll, yng ngolau'r lloer, yn gafael yn ei wddf, yn gwneud synau sy'n awgrymu ei fod ar fin tagu ac yn troi yn ...

Mewn cyfnod llai llwfr efallai na fyddai galw ar y golygydd i 'estyn allan ei wddf' drwy fentro dangos ochr.

Rwyt ti'n mynd i ffermio!" Rhuthrodd ato a lapio'i breichiau am ei wddf.

Dyna fe, ddarllenydd - yn llafn main, tal, teneu, gwledig, - mewn gwisg ddiaddurn a digon cyffredin yn dyfod trwy ddrws y capel - am dano y mae coat winlliw o frethyn gwlad wedi ei wau yn lled fras, a hono wedi gweled ei dyddiau goreu; ac oblegid ei fod wedi tyfu ar ol ei chael, edrychai yn fer a chwta - gwasgod o stwff ac un rhes o fotymau yn cau i fynu yn y glos am ddolen ei gadach India oedd yn dorch am ei wddf - llodrau o ffustian rhesog; a phar o esgidiau mawrion cryfion, gyda dwbl wadnau am ei draed, wedi eu pedoli yn ol ac yn mlaen; a'u llenwi â hoelion, ac ymylau hoelion y rhesau allanol yn amgylchu ymyl y gwadnau, fel y gallesid tybio y buasai eu cario yn ddigon o faich i unrhyw ddyn, heb sôn am gerdded ynddynt.

Cynorthwywyd ef i ddod allan o'r ffos gan Ernest a'r bonheddwr ieuanc, ac wedi iddo ddod ato'i hun cafodd fod ei geffyl gwerthfawr wedi torri ei goes, ac ebe Ernest: `Wel, wel, mae'r cwbl drosodd efo fo; gadewch i ni ei roi allan o'i boen,' a chan dynnu ei gyllell allan, torrodd y brif wythi%en yn ei wddf, a gwaedodd yr anifail yn fuan i farwolaeth.

Bu'r cyhuddiad hwn fel maen melin am wddf Ferrar trwy'r blynyddoedd dilynol er iddo fynnu'n gyson mai llithriad gan ei ganghellor ydoedd.

Estynnais wddf y botel iddi ac elguro.

Mae'n llawer rhy hawdd cael benthyciad y dyddiau hyn, a dyw'r sawl sy'n rhoi'r arian yn aml iawn ddim yn poeni os bydd y ddyled yn faen melin am wddf rhywun, ac yn eu harwain i ddyfroedd dyfnion.

Gafaelodd yn Gary gerfydd ei wddf a'i wthio yn erbyn un o waliau'r toiled.

Rwy'n cofio'r sgwlyn yn dweud wrthym eu bod yn rhoi sgwaryn o bren am wddf plant a glywid yn siarad Cymraeg yn rhai o ysgolion newydd yr ardal ond welais i neb yn cael y gosb honno, beth bynnag oedd hi.

Ni sylwasai Gemp arno'n codi fel cysgod o fôn y llwyn drain, y peth cyntaf a wybu, meddid, oedd gafael Vatilan am ei wddf.

Gwnaeth yr hen gi ffyddlon sŵn crio yn ei wddf.

Os lleddaist yr helflaidd rwyt yn cymryd y Dorch Aur oddi am ei wddf a'th saeth o'i gorff cyn ailddechrau ar dy daith.

Lledodd hanner gwên bryderus dros ei wyneb, a chliriodd ei wddf.

Bachu llun o Margaret gyda llo oedd yn gorwedd yn ddi-hid ar y llethrau a chloch am ei wddf.

Dro arall mae tarw'n penderfynu dianc a'r gynulleidfa yn gofod codi a rhedeg i lechu y tu ôl i'r cerbyd agosa nes bo'r gwarchodwyr yn cael gafael ar y rhaff sydd am wddf yr anifail ac weithiau gael eu llusgo cyn cael rheolaeth arno.

Am wddf pob un yr oedd cadwyn â loced fawr arni ar ffurf colomen wen.

O dan ei wasgod ddu, agored, ymchwyddai ac ymostyngai crymder cawraidd, ac yr oedd uwch ei wddf digoler lawer gên.

Gwnaeth Joni ei wddf yn dew fel gwddf hipopotamws, a'i gorff yn fain fel corff jira/ ff.

Rhaid i mi, bob amser, ofalu bod aerwy neu raff am wddf y fuwch cyn mentro i ddal ei phen.

Cerddais i wddf y Pwll Defaid yn ofalus.

Amneidiodd yr hen ŵr, fel pe bae ei wddf yn ofnus o bwysau ei ben.

Ond i un yng Nghymru sydd â'i fryd ar lenora, y mae hi'n faen melin am ei wddf.

Gallaf weld darlun ohono yn fy meddwl pan oedd yn ugain mlwydd oed, yn ddyn ifanc talgryf, cymesur, a'i wddf praff nid fel llinyn rhwng y corff a'r pen, ond yn estyniad cadarn o'r corff.

Ac yna, y mae Wiliam yn rhoi ei gôt uchaf amdano, a'i het galed am ei ben, ac yn lapio crafat mawr ddwy-waith am ei wddf; yna yn cymryd gafael yn y fasged a orffwysai fel tynged ar ben y bwrdd mawr er y noson cynt, yr un fasged ag a ddawnsiai wrth ochr y frêc bedair blynedd cyn hynny, ac a welwyd yn cychwyn Owen i'r Coleg.

Yna teimlodd ei freichiau'n cael eu rhwygo oddi ar wddf y llipryn o'i flaen.

"Bombacha% a "boots" duon, cot dywyll, het ffelt ddu a hances sidan wen am eo wddf.

Rhai blynyddoedd yn ôl fe gafodd claf yn yr ysbyty boen a thrwch o bothelli ar ochr chwith ei wddf yn ymestyn i'r fraich, a'r ymddangosiad yn nodweddiadol o'r Eryrod.

Roedd Hywel wedi ei wisgo mewn sgarlad, gyda ryfflau gwynion am ei wddf a'i addyrnau.

Gobeithiai a gweddi%ai y torrai ei wddf cyn machlud haul.

Llifai dagrau o'i lygaid wrth iddo sôn am ei natur radlon a hapus ac rwyf yn sicr i'r un lwmp ddod i wddf pob aelod o'r gynulleidfa wrth inni sylweddoli faint o feddwl oedd ganddo ohoni.

Daeth rhywbeth fel cyfog i'w wddf a bron a'i dagu.

Fe ddaw ato'i hun a dweud wrthyt mai dau o Farchogion y Goron Dân a ymosododd arno a dwyn ei arian, ond methiant fu eu hymgais i gipio'r Fodrwy a gariai ar gadwyn arian o gwmpas ei wddf.

Syrthiodd ar y llawr gan afael yn ei wddf.

Gadawodd Ramprakash sesiwn ymarfer ar ôl anafu ei wddf.

Yr oedd hynny'n ddigon, ond pan edliwiodd hwnnw iddo ei gysylltiad â'r Blaid Lafur a'i waith ynglŷn â'r Undeb methodd gan Wiliam ddal, a neidiodd i'w wddf.