Os oedd y dorf yn ffyrnig, yna ffars a gafwyd yn y Cyngor ei hun wrth i'r cynghorwyr weiddi ar draws ei gilydd ac i'r offer cyfieithu anghyfarwydd gael ei ddefnyddio am y tro cyntaf fe ymddengys.
Tra oedd pawb arall yn dilyn y llwybr tro am y capel, byddai Nan, gynted ag yr oedd hi drwy'r giât, yn rhuthro ar draws y gwelltglas, gan weiddi dros ei hysgwydd, 'Unionwch ffordd yr Arglwydd'.
Fel yr oedd hi, bu ond y dim iddi fynd i gefn rhyw fws wrth weiddi ar ei meibion yn y drych yn hytrach nag edrych ar y ffordd.
Ni feiddiai weiddi, hyd yn oed pe gallai.
NEIDIWCH!' Roedd yn rhaid i'r hyfforddwr parasiwt weiddi am fod peiriant yr awyren yn rhuo cymaint.
Mae'n troi i'th wynebu a gweli ei fod wedi torri ei law chwith i ffwrdd yn llwyr - dyna a ddigwyddodd ar ôl i ti weiddi.
Yr hyn yr wyf fi'n ei gofio orau yw fod Dafi'r Foel wedi mynd lawr bob cam i Aberteifi i weiddi dros Richards ond cafodd ergyd galed ar steps y Neuadd, a phrysurodd hynny ei ymadawiad o'r ardal.
Deffrôdd y gelyn mewn dychryn i glywed gwŷr Gideon yn dynesu gan weiddi 'Cledd yr Arglwydd a Gideon'.
Gan weiddi a chwifio'i freichiau, ymbiliodd dros y miloedd o Kurdiaid a fyddai'n marw oni châi'r lluniau eu dangos yn y Gorllewin.
Dychwelodd, gan weiddi dros y ffens oedd yn ein gwahanu fod yr awdurdodau'n mynnu tâl o gan doler cyn caniatĐu iddi groesi.
Toc dyna'r dyn ieuanc yn rhoi gwawch uchel: 'Diolch, etc.' Ac ymhen ychydig neidiodd y ddynes ieuanc i fyny gan weiddi a churo ei dwylo a chicio'r sêt, nes daeth rhywrai i fynd â'r ddau aflonyddwr allan i ddod atynt eu hunain.
Wedyn ar arwydd yr oeddynt i dorri allan i weiddi Halelwia nes bod y cymoedd a'r bryniau'n atseinio gan eu bloedd.
Y mae'r distawrwydd di-sūn yn gwasgu ar y carcharor nes ei yrru i weiddi a llefain.
'Wel i chdi, fel ro'n i'n mynd i weiddi 'we' dyma hi'n gwichian.
Owain Goch!" Er ei bod yn teimlo y carai gael rhyw lwyfan mawr i sefyll arno tua Phumlumon, 'i fedru gweiddi yn erbyn pob anghyfiawnder', dywedai ei greddf wrthi nad llwyfan i weiddi ohono oedd y stori fer.
Yna dechreuais weiddi ac hyd yn oed sgrechian, ond yr hyn a weithiau fel brec arnynt oedd llond ceg o Gymraeg na fuaswn yn ei defnyddio'n gyhoeddus adre!
A dwi'n amau dim bod coelio hynny yn beryclach na chyfarfod DML ar noson dywyll wrth weiddi nad oes angen Cymdeithas yr Iaith bellach.
Ni allai weiddi rhagor.
Er i rywun yn y cwmni weiddi ar i bawb sefyll yn ei unfan, dechreuodd hi chwalu'i ffordd drwy'r boblach gan faglu ar draws traed hwn a hon ac arall wrth iddi ei theimlo'i hun yn cael ei thynnu ato fel at fagnet.
Wedyn 'fyddai dim taw ar ei chwerthin a'i weiddi a'i frolio am y castiau roedd o wedi eu chwarae ar y ffarmwr hwn a'r ffarmwr acw o fan yma i Groesoswallt ac ymhellach.
O neidio i'r car at Redwood neu weiddi ar ôl Hunt doeddwn i ddim wedi eistedd i lawr a meddwl am hyn yn ofalus, ddim yn yr achos penodol hwn.
Gafaelai'r rhew am ei gorff yr un fath â phawen arth wen yn glynu mewn morlo bach "Helpwch fi, ffrindiau annwyl, helpwch fi!' Ceisiodd Alphonse weiddi, ond syrthiodd yn llonydd ar y ddaear.
~ iolen stopiodd i herio'r hen gyfeillion a orweddai yno trwy weiddi 'Dowch allan rwan os ydach chi isio paffio efo fi fel roeddach chi'n gneud erstalwm!
Hoffai weiddi o bennau'r tai, meddai, 'mai anaml y cyferfydd y ddwy ddawn yn yr un person.' Mewn nofel, fel gyda'r stori fer, credai Kate Roberts mai rhywbeth a ofalai amdano'i hun oedd techneg, cyn belled â bod gan yr awdur rywbeth i'w ddweud, er iddi fynnu nad oedd hynny'n caniata/ u blerwch arddull.
A dyna'r dyn ieuanc yn ymestyn tros gwr y sêt lle roedd Hugh Evans ac yn gofyn yn lled ddistaw i'r ddynes ieuanc: 'Wyt ti am weiddi heno?' Troes hithau tan wenu, ac ateb: 'Ydwyf, os wyt ti am wneud.' Daeth y pregethwr i mewn, dechreuodd bregethu.
Galwai yma yn aml iawn a chan fod Edward yn defnyddio'r baco main arferai weiddi lathenni cyn dod i'r golwg, "Ydi'r hen faw hen faco 'na gen ti?" Llanwai ei getyn ar unwaith a châi flychiad o fatsys i geisio ei thanio gan ddefnyddio iaith nas defnyddid yn yr un Seiat ar ôl pob methiant.
Deuai'r rhan fwyaf o'r sŵn o un o'r ddwy stafell, yn weiddi a chwerthin a hynny'n gymysg ag ambell bwt o gân yn cael ei tharo mewn gobaith a chlecian achlysurol dominôs ar fwrdd.