Jones, ac arweiniodd syniadau Rhees a Simone Weil ef i ddatgan: "Heb gymdogion ni fedraf fi f'adnabod fy hun fel y gwypwyf pwy ydwyf," ac "Y mae ar bobl dyn angen ei wreiddio mewn pobl".
Ac felly, yng ngoleuni traddodiadau Cristionogol y canrifoedd y darllenai'r meddylwyr cyfoes - Karl Barth, Emil Brunner, Paul Tillich, Dietrich Bonhoeffer, Simone Weil, Ju%rgen Moltmann, Wolfhart Pannenberg, John Macquarrie, Helder Camara, Gustavo Gutierrez ac E. R. Norman.