Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

weinidogaeth

weinidogaeth

Ym mhen tipyn bach ar ôl hyn, yr oedd "yr hogiau% (yr efrydwyr am y Weinidogaeth felly, i ddweud gair o brofiad wrth Fwrdd y Cymun yn y Cyfarfod Misol, a'r seraff duwiol, y Parchedig Gruffydd Parry y Borth Borthygest felly) yn gwrando ar ein tipyn "Profiadau%, Ni chofiaf y nesaf peth i ddim a ddywedais.

Mae gennyf ryw deimlad fod y sawl a oedd am droi ei gefn ar galedwaith y pwll glo a chlawstroffobia'r ffas yn y cyfnod gorthrymus yma yn hanes y glofeydd yn mynd naill ai i'r weinidogaeth neu'n mynd yn dramp.

Y mae ei genadwri, ei weinidogaeth, ei aberth a'i atgyfodiad yn cyffwrdd â holl drigolion y blaned.

A dyna pam y dywedwn ei fod ym mlynyddoedd cynnar ei weinidogaeth yn fath o eni~,ma i lawer, ac edrychent arno â gradd o amheuaeth.

Yna daeth y yr ofalaeth dan weinidogaeth y Parchedig Arthur Jones, pan ymunodd hi a Pentre Llanrhaeadr, y Wern, a'r Glyn.

Er enghraifft, cynghorodd Dr William Davies (a gadwai athrofa Ffrwd Fâl ger Pumsaint), John Williams, mab Brownhill, Llansadwrn, os oedd yn meddwl am weinidogaeth mewn tref fel Llanelli, y buasai yn well iddo fyned i athrofa, ond os oedd yn meddwl am weinidogaeth yn y wlad, nad oedd angen iddo fyned i athrofa o gwbl.

'Roedd yn rhaid i bob ymgeisydd am y weinidogaeth fynd i bregethu ar brawf i rai o eglwysi'r Henaduriaeth.

Yn Ysgol Haf y Weinidogaeth Iacha/ u yn Aberystwyth y gwelais i am y tro cyntaf berson yn cymryd arddodiad dwylo dros berson arall a oedd yn glaf.

Nodwedd arall a berthynai i'w gymeriad a'i gynnyrch oedd cadernid a phendantrwydd, a hyn a wnaeth ei olygyddiaeth, fel ei weinidogaeth, yn rymus ac effeithiol.

Er mai Bedyddwyr oedd teulu tad Euros, dewisodd fynd i'r weinidogaeth gyda'r Annibynwyr, enwad ei fam-yng-nghyfraith a fynychai Gapel Hermon, Treorci.

Mae'n rhaid i fod o'n credu bod y Weinidogaeth 'ma yn beth mawr!

Nid syniad newydd yw fod y weinidogaeth Gymraeg yn y ganrif ddiwethaf wedi ymffurfio'n ddosbarth o arweinwyr cymdeithasol: rhyw aristocratiaeth newydd yr oedd y werin yn tynnu'i chap iddi.

Efo Mr a Mrs Roberts yn Park Street y lletywn, a'm cydletywr oedd Elfed Davies, bachgen ifanc a oedd â'i fryd ar y weinidogaeth.

Rhyw fath o flwyddyn brawf oedd hon ar ei allu academaidd a'i addaster i'r weinidogaeth.

Er gwaethaf y gwahaniaeth pwyslais rhwng traddodiad y Dwyrain Uniongred, â'i sôn mynych am lygredigaeth a marwolaeth, â'r Gorllewin Catholig â'i sôn yntau am bechod ac euogrwydd, 'roedd yr eglwys gynnar yn un yn ei dealltwriaeth o weinidogaeth Crist fel aberth drud a offrymwyd i Dduw er mwyn cyflawni iachawdwriaeth dyn.

Y flwyddyn ganlynol yn Ysgol Haf y Weinidogaeth Iacha/ u yn Aberystwyth, cymerais fendith dros ferch bedair ar ddeg oed a fu'n dioddef ers rhyw ddeng mlynedd gan ffurf ar y cryd cymalau a enwir ar ôl Syr George Frederic Still - y gŵr a wnaeth ymchwil yn y maes hwn - yn Salwch Still.

Plethu'r ddau ddiwylliant a'r ddwy iaith i'w gilydd, yn ei fywyd personol, yn ei weinidogaeth, yn ei fywyd cyhoeddus ac yn ei ysgrifeniadau a wnaeth Elfed.

Bu rhai ysgolheigion yn barod i haeru mai Selot, cenedlaetholwr Iddewig, oedd Iesu, a'i fod yn barod, yn enwedig tua diwedd ei weinidogaeth, i ddefnyddio nerth braich a chyllell i ryddhau ei wlad o afael Rhufain.

Ychydig a ddeallwn i am Y Weinidogaeth Iacha/ u yr adeg honno.

Wedi fy mendithio, fe'm cysegrais fy hun i helpu gwaith y Weinidogaeth Iacha/ u yng Nghymru.

Dichon nad yw awyrgylch y cyfnod presennol yn fanteisiol i ennill rhagor o ieuenctid i fod yn ymgeiswyr am y Weinidogaeth.

Ni allaf sôn am sefydlu Canolfan y De heb gyfeirio at brofiadau arbennig iawn a gefais fy hun wrth ymwneud â'r Weinidogaeth Gyfryngol ac â'r Crist presennol - profiadau sydd wedi cyfoethogi fy mywyd ysbrydol.

Ond yr hyn a'm tarawodd i, a'r tafod yn y boch, oedd: os yw merched sydd yn bwriadu mynd i'r weinidogaeth yn fwy tebyg i ddynion, ac i'r gwrthwyneb, yna beth felly yw'r anhawster ynglyn ag ordeinio gwragedd yn yr Eglwys Anglicanaidd?

Fel myfyrwyr eraill am y weinidogaeth, disgwylid iddo helpu capeli o gwmpas Aberystwyth ar y Sul, ac yn wir fe ddibynnai am ei gadw ar yr hyn a delid iddo.

Bu'n fyfyriwr disglair yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ac oddi yno aeth i Goleg y Bala i baratoi ar gyfer y Weinidogaeth.

Cofiwn hefyd mai galwedigaeth ansefydlog oedd y weinidogaeth yn y cyfnod hwn, yn enwedig i'r sawl nad oedd ganddo ffynhonnell arall o incwm i'w gynnal ef a'i deulu.

Edrychodd arnaf dros 'i sbectol a dechrau holi, 'Beth wnaeth ichwi feddwl am fynd i'r weinidogaeth?

Cyn bo hir, deuai natur yr offeiriadaeth, ac yn y pendraw - wrth iddo weld y gwahaniaeth rhwng rhai o'r eglwysi ymneulltuol a'r eglwysi Catholig yn mynd yn fwyfwy aneglur - natur y weinidogaeth hefyd, yn ganolog i'w athrawiaeth.

Mi basiais, er gwaethaf Madam Wen, a derbyniwyd fi'n ymgeisydd am y weinidogaeth.

Ofnwn fod Rhagluniaeth wedi dweud yn eglur nad oeddwn i fynd i'r coleg, ac os felly ei bod yn dweud ychwaneg sef nad oeddwn i bregethu; oblegid dywedasai Abel wrthyf fwy nag unwaith na ddylai un gŵr ieuanc yn y dyddiau goleuedig hyn feddwl am y weinidogaeth os nad oedd yn penderfynu treulio rhai blynyddoedd yn yr athrofa; a thybiwn y pryd hynny fod yn amhosibl ymron i Abel gyfeiliorni mewn barn.

Bara beunyddiol pob ymgeisydd am y weinidogaeth oedd sicrhau cyhoeddiadau ar y Suliau.

Mae o'n torri 'i galon dy fod ti'n cefnu ar y Weinidogaeth.

Meddai, Newyddion da'n unig sydd gan Weinidogaeth yr Efengyl.

Gwell gan Cullmann beidio â sôn am Iesu fel 'Selot' ond dywed fod ei holl weinidogaeth mewn cysylltiad parhaus â Selotiaeth, mai hon oedd cefndir ei anturiaeth ac mai fel Selot y cafodd ei ddienyddio.

Nid oedd rhaid pryderu am lanw'r pulpud a'r weinidogaeth - roedd y rhai ifainc ar gael i godi baner y Ffydd a'i chario ar flaen y gad.

A chyda naw o ymgeiswyr eraill fe'm derbyniwyd i'r coleg hwnnw i baratoi at y Weinidogaeth.

Y naill oedd y lleihad mewn ymgeiswyr am y Weinidogaeth a'r llall oedd prinder arian.

Y mae yna rai sydd wedi derbyn graddau prifysgol am lawer iawn llai nag a gyflawnwyd gan Huw Jones - bachgen o Fôn yn wreiddiol a fu am ddeng mlynedd yn was ffarm cyn troi at y weinidogaeth.

UN o'r bobol bwysicaf ym mywyd pob myfyriwr am y weinidogaeth a phob gweinidog hefyd, ers talwm, oedd y dyn llyfr bach.

Yr oedd wedi treulio pedair blynedd ar hugain yn y weinidogaeth cyn derbyn gofalaeth Gymraeg, ac yn Llundain, nid yng Nghymru, yr oedd honno.

Y naill oedd bod y golomen yn mynegi'n ddiriaethol ddyhead dwfn a fuasai yn fy enaid am amser maith i helpu gwaith y Weinidogaeth Iacha/ u yng Nghymru.

Ar ôl imi basio arholiad y Bwrdd Ymgeiswyr am y Weinidogaeth, 'roeddwn i'n meddwl bod fy holl ofidiau ar ben, oherwydd tasg go fawr oedd arholiad y Bwrdd.

Dechrau'r Weinidogaeth yng Ngalilea

I'r Weinidogaeth y'm galwyd.

Dywedais wrtho Ef nad oeddwn am gefnu ar Y Weinidogaeth Iacha/ u ond byddai'n rhaid imi wneud oni chawn esboniad.

A dyna pryd y dysgais i fod het a gwasgod yn bethau hanfodol angenrheidiol i bob ymgeisydd am y weinidogaeth.