Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

weinidogion

weinidogion

a ydych am ddweud wrthynt eu bod i fynnu cael gan y gelyn y mesur iawn o gyfiawnder i'w gwlad, a bod cael mymryn yn rhagor na hynny yn eu gwneud, o fod yn weinidogion cyfiawnder, yn weithredwyr gormes a chamwri ?...

Dilynais gyfarwyddiadau Bryn Roberts pan osododd ef ei ddwylo ar fy mhen a phump o weinidogion eu dwylo ar fy nghefn.

Yn yr osgordd hon o weinidogion digwyddodd fod un gŵr a fu'n arwr mawr i mi oherwydd iddo beri imi yn gynnar iawn yn fy oes nychu am fedru creu fel y gallai ef.

Yn niffyg hynny, rhagwelodd y dydd pan fyddai'r to iau o weinidogion yn dihuno ryw fore i ganfod nad oedd ganddynt eglwysi o gwbl a dim gafael ynddynt:

Methodistiaid yn caniatâu i ferched fod yn weinidogion.

siaradai llawer o wy ^ r amlwg prydain yn gyhoeddus yn erbyn rhyfel ac ar un adeg dywedodd un o weinidogion y llywodraeth mai angen, newyn, haint a marwolaeth yw rhyfel.

Efallai bod hyn yn esbonio paham yr oedd cynifer o weinidogion yr achosion ymneilltuol yn nyffryn Aman a'r cylch yn ystod y cyfnod cyn-ddiwydiannol yn wŷr di-goleg.

Aeth yno i Salonica ym Macedonia gyda'r uned Gymreig arbennig o'r 'Royal Army Medical Corps (RAMC).' Corfflu Meddygol oedd hwn 'ar gyfer gweinidogion a darpar-weinidogion, myfyrwyr diwinyddol ac eraill o dueddiadau heddychlon a ddymunai wasanaethu yn y Rhyfel Mawr heb orfod trafod arfau.' Ond, a dyfynnu unwaith eto o'r cofiant: 'Hyd yn oed cyn iddo gyrraedd pen y daith, yr oedd Dei Ellis yn dyheu am ddychwelyd i Gymru.

Ar adegau eraill, does yna ddim amheuaeth fod y gwrthbleidiau wedi rhoi corcyn ym mlaen y baril wrth danio at weinidogion fel Peter Walker neu, am gyfnod, David Hunt.

Rhoddodd yr argraff - yn annheg efallai - fod un o weinidogion tramor gwledydd Prydain mor anymwybodol o sefyllfa'r bobl hyn ag yr oedd Marie Antoinette pan awgrymodd y dylai trigolion di-fara Paris fwyta cacennau.

Derbyniai nawdd gan amryw o wŷr mawr y cyfnod, a'r rheini'n weinidogion dylanwadol yn ddieithriad, megis Thomas Rees, Abertawe, W.

Ffurfio'r mudiad 'Adfer'. Methodistiaid yn caniatâu i ferched fod yn weinidogion.

Ef a'i gyd-weinidogion oedd 'cyfarwyddwyr y bobl, chwedl yntau, a'u dyletswydd, fel cynrychiolwyr y grefydd honno a oedd, yn eu golwg hwy, wedi achub y Cymry rhag tywyllwch yr oes o'r blaen, oedd goleuo'u cydwladwyr.

Bu'r un mor barod i daro cleddyf â gweinidogion Ymneilltuol, a chyd- weinidogion o fewn ei fudiad ei hun.

Roedd ganddo'r ddawn ryfeddol i weld a gwerthfawrogi cymeriad, a marwgofion anfarwol yw'r rhai a ysgrifennodd am weinidogion fel Jenkins, Llwyn; Lewis Williams, Cilie a Gwilym Evans, Llandysul.

Y mae gennym nifer cynyddol o weinidogion - yn arbennig ymhlith y genhedlaeth ifanc - sy'n dwyn tystiolaeth gyson i ras Duw.

Gyda'r ychwanegiad hwn i ddilyn: 'Gellwch chi gwisgo'ch crys cyn mynd allan.' Wrth chwarae pêl-droed gyda thîm eithaf truenus o egin-weinidogion yng Ngholeg y Bala, cefais ddolur llym tua gwaelod fy nghefn.

Câi ef nifer o weinidogion i gydweithio wrth fendithio'r claf.

'Cwota' ar laeth a 'chwota' o Weinidogion - am fod gormod o'r naill a phrinder o'r llall.

Rhoes arweinwyr y genedl, yn lleygwyr ac yn weinidogion, eu hegni gorau glas i sefydlu cyfundrefn addysg Saesneg drwyadl ym mhob rhan o Gymru o'r ysgol elfennol hyd at golegau normal a thri choleg prifathrofaol, a Siarter Prifysgol i goroni'r cwbl.

Drwy gydol y blynyddoedd hyn yr oedd sir Fynwy yng nghanol tanbeidrwydd y dadlau; a hynny, nid yn unig oherwydd maint y boblogaeth, ei symudolrwydd a'r broblem fawr o ddarparu addysg ar ei chyfer, ond hefyd oherwydd presenoldeb carfan gref o weinidogion amlwg a llafar iawn eu barn.

Buasai'n dda gennyf gael barn onest un o'i gyd-weinidogion ar gyflwr ac ansawdd ei feddwl."

Ond dyma beth sydd wedi fy syfrdanu - dau o weinidogion y goron yn haeru ar y teledu fod mwyafrif poblogaeth y deyrnas yn ei erbyn.

Casglodd ynghyd nifer o weinidogion o'r enwadau gwahanol, gan gynnwys Caledfryn a Christmas Evans, yn ogystal â Hughes a lleygwyr eraill er mwyn penderfynu ar yr hyn y dylid ei wneud.

Ond wedyn, nid oedd fawr alw amdanynt gan fod digon o weinidogion ar gael.

A hynny heb fod ganddynt weinidogion i'w harwain.

Erbyn iddo gynyddu digon, fe lifodd y rhwydweithiau darlledu mawr i'r wlad a phan ddangoswyd eu lluniau, am y cyntaf wrth gwrs, fe roddwyd proc reit egr i weinidogion tramor y byd.

Agorwyd cronfa i helpu'r rhai a adawyd yn weddwon ac yn amddifaid, gan weinidogion y dref, yn eu plith y Parch Roger Edwards, Y Parch Owen Jones (Meudwy Môn) a'r Parch Thomas Jones, awdur Y Noe Bres.

O ganlyniad, yr oedd yna bedwar ar bymtheg o Weinidogion, yn ogystal â dau neu dri athro yng Ngholeg Y Bala.

Cafwyd areithiau 'grymus a hyawdl' ganddo ef, a chan nifer o weinidogion lleol, gan gynnwys Nefydd o'r Blaenau, a'r Parchedig J.