A wna'r Iaith Gymraeg yn unfraint â'r Iaith Saesneg ym mhob agwedd ar Weinyddiad y Gyfriath a'r Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru.
Yn fy marn i, pe ceid unrhyw fath o hunan-lywodraeth i Gymru cyn arddel ac arfer yr iaith Gymraeg yn iaith swyddogol yn holl weinyddiad yr awdurdodau lleol a gwladol yn y rhanbarthau Cymraeg o'n gwlad, ni cheid mohoni'n iaith swyddogol o gwbl, a byddai tranc yr iaith yn gynt nag y bydd ei thranc hi dan Lywodraeth Loegr.