Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

weiran

weiran

Rhyw fath o syrcas oedd yna heddiw 'ma, a dyn yn hongian yn y to, ar ddim byd ond weiran bach dena' dena', mor dena' fel na fedra neb ei gweld hi, bron iawn.

Bachodd blaen ei welinton yn y weiran lefn a oedd wedi tyfu mor naturiol â dail tafol o'r ddaear dan ei thraed!

Roedd o'n mynd i drwshio to sinc y tŷ gwair a syrthiodd hefo'r daeargryn dwytha a chlirio'r nialwch o fieri, weiran-bigog, prenia, heyrs a blerwch yn y gadlas.

Os ydych chi yn nôl o eich hunan gewch chi letric sioc ac wedun fyddwch chi wedi marw ac nath hi ddweud dim chwara hefo barcud wrth y weiran na cicio pêl i mewn i'r twll yn yr lon pan mae dyn Manweb yn gweithio neu gewch chi eich lichio ym mhell i ffwrdd ac wedun cafodd pawb bresant; gan Paul de-Waart.

Un o'r lluniau mwyaf tirweddol yn yr arddangosfa yw Yr Allt lle mae cae yn y blaendir mewn gwyrdd golau a du, a ffens a weiran bigog yn rhedeg o flaen y llun i fyny'r ochr gydag ymyl y lôn.