Tua'r Nadolig, gan nodi'n fanwl y dydd o'r mis, wedi iddi nosi ac i'r sêr ddod i'r golwg, aeth i weirglodd Ty'n y Gilfach, gan ddwyn polyn gydag ef, a gosododd y polyn mewn llinell unionsyth â simnai y tŷ a rhyw seren sefydlog yn y gogledd.
Ac i baradwys wen brenhines y weirglodd y camasom o'r tywyllwch.
Ymhen wythnos neu ragor, elai i'r weirglodd, a hi yn nos a'r sêr yn y golwg, a byddai raid symud cwrs ar y polyn i'w gael ar linell y simnai a'r seren.
Codasai'r lleuad mewn awyr serog, glir, a helpai'r gwynt ei llewyrch gwan i symud y cysgodion rhyfedd yng ngodre'r winllan ac ar y weirglodd las.
Ac ymhen y flwyddyn i'r diwrnod yr oedd wedi amgylchynu tŷ Ty'n y Gilfach hefo'r polyn, a dod yn ôl i'r weirglodd, yn union i'r fan lle y dechreuodd ei gylch flwyddyn yn ôl.