Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

weision

weision

Rhagdybiai y diwygiadau hyn rwydwaith o weision suful ar y raddfa ranbarthol a digonedd o ŵyr yn y pentrefi a fedrai ddarllen gorchmynion yr awdurdodau ynghylch iechyd, amaethyddiaeth a phethau 'buddiol' eraill.

Roedd y cyfreithiau Cymreig yn gorchymyn i weision y brenin godi naw tŷ, gan gynnwys neuadd, ystafell wely, cegin, capel, ysgubor, odyn, ystabl, bragdy a thŷ bach, ar gyfer eu harglwydd.

Trefnai orchwylion ei weision ac arolygai ei gyfrifon yn bersonol.

Ar ddiwedd y dydd yr oedd swper i'r helwyr yn y Bedol, ac anfonodd yr Yswain un o'i weision i'r Wernddu gyda chenadwri at Harri am iddo ddyfod i'r swper yn ddi-ffael.

Mae'n siwr na fynnai iddynt fyned i'r gwaith glo i golli eu bywydau fel eu tad a'u brodyr, ac nid yw'n debyg y byddai gwaith fferm wedi apelio atynt fel plant tref, hyd yn oed pe na bai ganddi hi wrthwynebiad Mari Lewis i'w phlant fynd yn weision ffermydd: fe gofiwch na welodd honno yn ei bywyd bobl mor ddi-fynd 'a'r gweision ffarmwrs yma', na phobl a llai o'r dyn ynddynt.

Er bod y byd amaeth yn cychwyn ar gyfnod o newid mawr, gyda'r defnydd a wneid o beriannau wedi lledaenu er mwyn lleihau'r angen i fewnforio bwyd yn ystod y Rhyfel, gan arwain yn anochel at leihau'r nifer o weision a weithiai ar ffermydd a pheri i'r Llywodraeth ddarparu prisiau sefydlog am gynnyrch fferm, cyflwyno portread eithaf rhamantaidd o fyd yr amaethwr a wnaeth Geraint Bowen.

Rydym ni i gyd wedi cael llond bol ar y brenin a'i weision pwysig yn ceisio rheoli'r Eglwys yng Nghymru.

Wedi i'r undebwyr nodi eu hatebion ar bapur, croesodd un o brif weision suful y Bwrdd yr heol i Downing Street, i hysbysu'r Prif Weinidog am safbwynt yr undebau.

Tystiai Capten Napier, Goruchwyliwr yr Heddlu ym Morgannwg, y gwyddai am weision a morwynion yn cysgu yn yr un ystafell.

Ai un o weision Medrawd wedi'i anfon i' holi?

Yn weision i'r Llywodraeth newydd, roedden nhw'n eiddgar i fod yn help.

Yng nhgwrs yr achos hwnnw bu raid i Forgan gyfaddef ei fod yn mynd o gwmpas gyda dagr neu bistol dan ei gasog rhag ofn i Evan Meredith a'i bliad ymosod arno, a'i fod hefyd unwaith wedi rhoi a 'little flick or pat upon the chin or cheek' i'w fam-yng-nghyfraith pan oedd hi'n annog ei weision i ymosod ar rai Evan Meredith; ond fe wadodd yn bendant holl gyhuddiadau mwy sylweddol Meredith, a'm barn i am eu gwerth yw ei fod wedi ymddwyn trwy'r holl helynt gyda chryn ymatal a graslonrwydd, er ei bod yn gwbl amlwg hefyd fod elfen gref o ystyfnigrwydd yn perthyn iddo.

Yn ogystal â meibion a merched ffermydd, ymunodd nifer o weision hefyd, rhai ohonynt yn aelodau gwirioneddol werthfawr.

faint o ddefaid oedd gan Richard Nannau, Cefndeuddwr, a faint o weision oedd gan Robert Fychan, Caerynwch.

Nid oedd cymaint â hynny o enwau glowyr yno, nid oedd neb o deulu Nant y Gro, dim un o deulu'r Culheol ac Oakvilla a Thre'r Gât, ond roedd yna enwau dwbwl baril, enwau gyda Syr ac Arglwydd o'u blaen ac ni chollodd yr un o weision y Powell-Dyffryn, a'r Amalgamated Anthracite gyfle i fod yn aelod o'r Byrddau rheoli.