Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

weithgareddau

weithgareddau

Ddydd Sadwrn diwetha' fe ddaeth criw o artistiaid proffesiynol ac aelodau o'r cyhoedd i'r Prom yn Aberystwyth i ferfio talpiau o sebon - un o weithgareddau dathlu dengmlwyddiant Cymdeithas Gymraeg y Celfyddydau Gweledol, Gweled.

Daeth ugain o gynrychiolwyr o ganghennau CYD a Merched y Wawr at ei gilydd i dysgu am weithgareddau newydd i gynorthwyo dysgwyr i ymdoddi i'r gymdeithas Gymraeg.

Ateb y Beibl yw, i wasanaethu Duw ac i'w ogoneddu yn ein holl weithgareddau.

Mae hi'n bwysig am ei bod yn ddogfen ddelfrydol o weithgareddau Waldo yn ei swydd o fardd gwlad.

Llunio adroddiad blynyddol ar gyfer yr Adain, yn amlinellu'r gwariant, yn refeniw ac yn gyfalaf, ar gyfer gwahanol weithgareddau'r Adain.

O fewn dyddiau fe ddeuthum i adnabod nifer o hogiau drwy weithgareddau'r clwb rygbi ac mae amryw yn dal i fod yn ffrindiau agos hyd heddiw.

Mae'n briodol efallai edrych yn ôl at weithgareddau'r gorffennol.

Mae pob un o aelodau'r Pwyllgor Rheoli'n wirfoddolydd di-gyflog, a dirprwyir cyfrifoldeb am weithgareddau dydd-i-ddydd y Gymdeithas i Drefnydd a thim o staff.

Mae rhyw gynllwyn anymwybodol i yrru i'r ymylon weithgareddau diwylliannol nad ydynt yn deillio o'r canolfannau pwysig dylanwadol hyn.

Dywed ei gydletywr ym Mangor, Ithel Davies, fod Sam, hyd yn oed yn ei ddyddiau coleg, yn anfon adroddiadau am weithgareddau'r coleg i'r Guardian a'r Post a'r Western Mail.

Argymhellir y diffiniad canlynol ar gyfer dibenion y papur hwn, sef bod archaeoleg môr yn wyddor, lle cyfunir sawl disgyblaeth gan geisio cynyddu ein gwybodaeth am weithgareddau morwrol dyn drwy archwilio gweddillion llongau a safleoedd tanfor.

Byddai yno gystadleuthau o bob math yn cael eu gosod: ysgrifennu traethawd, darn o farddoniaeth, limerig, darllen darn o ryddiaith - "heb ei atalnodi%, darllen solffâ, cân werin ac adrodd "stori fer" a llawer o weithgareddau eraill.

Dros y blynyddoedd aeth baich gofalu am weithgareddau drama'r Eisteddfod yn gynyddol drymach a theimlodd Emyr Jenkins, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod ar y pryd, y dylid ysgafnu rhyw gymaint ar lwyth gwaith ei Drefnwyr yn y De a'r Gogledd.

Yr ydym felly, yn ogystal â darparu rhaglen lawn o weithgareddau i hybu'r Gymraeg yn y gymuned, mewn cydweithrediad ag awdurdodau ac asianteithiau eraill, yn weithgar ym meysydd datblygu'r economi, gwella'r amgylchfyd a thai a chynllunio.

Enghraifft nodedig o'r cychwyn hwn yw'r rhwydwaith papurau bro sy'n britho Cymru heddiw ac sy'n cynnal yn eu sgîl weithgareddau niferus ac amrywiol a phob un ohonynt yn hybu Cymreictod.

Felly mae'n bwysig sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei defnyddio yn gyson ac yn naturiol ar gyfer pob gweithgaredd a phob busnes dyddiol drwy gyfrwng: - gwasanaeth bore a chyhoeddiadau'r dydd, - rhaglen o weithgareddau cymdeithasol yn cynnwys clybiau adloniadol ac allgyrsiau fel gwersylloedd yr Urdd, Eisteddfodau, gwyliau sgio a thramor, ayb.

Yn ystod y cyfnod yng nghanol fy mywyd (hyd at fy nhridegau hwyr) golygai hyn fy mod yn hepgor llawer o weithgareddau oedd yn golygu llawer o gerdded neu os oedd fy arafwch yn amharu ar y gweithgarwch.

Yn ystod fy nhri mis cyntaf yn BBC Cymru, gwnaeth ystod fawr o weithgareddau argraff dda iawn arnaf.

Etholwyd ef yn ddiacon yn Eglwys Annibynnol Pendref, ac ymddiddorai yn holl weithgareddau'r capel.

Amrywiol Weithgareddau

Prin y gallodd ei gorff bregus ymdopi â mân weithgareddau'r ogof erbyn hyn.

Lle bo ansawdd y dysgu'n dda, bydd disgyblion o'u gwirfodd yn siarad gyda hyder; yn cymryd rhan weithredol mewn amrediad o weithgareddau llafar sy'n cynnwys cyfathrebu ffurfiol ac anffurfiol.

Trwy ystyried holl weithgareddau disgwyliedig y busnes, a'u heffaith ar ei sefyllfa, gellir gwneud amcangyfrif o'r canlyniadau ym mhob adran ac o'r busnes yn ei gyfanrwydd.

* trefnu rhaglen sy'n cynnwys amrywiaeth o weithgareddau ar gyfer y lleoliad.

Yn amadawiad Mr HS Roberts collodd Llanfairfechan un o'i chymeriadau mwyaf lliwgar a diddorol, gwr ag yr oedd ei ddiddordebau yn cyffwrdd y rhan fwyaf o weithgareddau y cylch.

Y tiwtoriaid oedd Chris Reynolds a Gwynfa Adam, a gofalwyd am weithgareddau'r trydydd grwp a threfniadau gweinyddol y cwrs gan y Swyddog Cyswllt.

Fel llenyddiaeth a chelf, mae seryddiaeth yn ychwanegu at gyfoeth ein bywydau, yn ateb ein cwestiynau am y sêr a'r bydysawd, ac fe'i hystyrir yn rhan annatod o weithgareddau gwlad waraidd.

Yn gyntaf disgwylid iddo sicrhau bod holl weithgareddau drama yr Eisteddfod yn cael eu cynllunio a'u trefnu'n effeithlon ynghyd â gofalu am yr elfen Gymraeg o 'dramaffest', gþyl flynyddol Cymdeithas Ddrama Cymru.

Gallwn yn awr edrych yn frysiog ar y prif weithgareddau y paratoir cyllidebau ar eu cyfer.

Yr oedd mathau arbennig o weithgareddau yn y cylch diwylliannol wedi eu gosod cryn bellter oddi wrth y gweithgareddau economaidd cychwynol.

Rhoddir cyfleoedd i ddisgyblion gymryd rhan gyflawn mewn amrywiaeth o weithgareddau llafar gan ddod ar draws amrediad eang o lenyddiaeth a thestunau eraill, gan gynnwys deunydd gyda dimensiwn Cymreig.

Yr her i bob un ohonom wrth daflu'n rhwyd ymhellach, a thrwy wneud hynny herio rhai confensiynau ceidwadol Cymreig, yw ceisio cyrraedd y grŵp sylweddol hwn o Gymry Cymraeg a cheisio denu eu cefnogaeth yn araf bach i weithgareddau ac adloniant yn yr iaith Gymraeg.

Mae adran Newyddion a Materion Cyfoes BBC Cymru yn parhau i ddarparu rhaglenni a dadansoddiad cynhwysfawr o'r Cynulliad Cenedlaethol ac o weithgareddau yn San Steffan.

Mae hefyd yn rhestru cerddoriaeth a chanu ymhlith ei weithgareddau hamdden gan ei fod yn gyn-gadeirydd côocirc;r cymysg Godre'r Garth ac yn aelod o Barti'r Efail, parti cerdd dant sy'n cyfarfod yn Efail Isaf.

Y mae'r mudiad wedi bod ynghlwm â nifer o weithgareddau pwysig a phoblogaidd gyda'r aelodau, na ellir eu cynnwys o dan deitlau penodol, a rhain, yn anad dim arall, sy'n dangos mor eang yw gorwelion y mudiad.

Mae'r CD-Rom yn cynnwys 40 o weithgareddau ar lefelau gwahanol.

WYTHNOS YR AMGYLCHEDD Dechreuodd Cyngor Bwrdeistref Taf Ela/ i nifer o weithgareddau ailgylchu yn ystod Wythnos yr Amgylchedd cyntaf y cyngor ar ddiwedd mis Medi.

Heblaw unigolion a theuluoedd fe ddaeth newydd-ddyfodiaid eraill i'n mysg yn ail chwarter y ganrif hon, sef y mudiadau newydd fel Sefydliad y Merched a Chlybiau'r Ffermwyr Ifainc, Cymdeithas y Capel, Dosbarth Allanol y Coleg a llawer o weithgareddau eraill a alluogodd y plwyf i ennill y lle blaenaf mewn cystadleuaeth sirol ar weithgarwch ardal wledig.

(i) Bod y Cyngor newydd yn datganoli cyn gymaint â phosibl o'i weithgareddau i swyddfeydd rhanbarthol.

Ac oherwydd y tywyllwch a ddeddfwyd fel rhwystr i awyrennau bomio'r gelyn, ni fu'n bosibl i rai o hoelion wyth yr enwad ddod yno i roi eu sêl a'u bendith ar weithgareddau'r dathliad.

Ni allai CYD ddarparu rhaglen mor gyflawn o weithgareddau yn yr ardal hon heb weithgarwch y Swyddog Cyswllt.

Diolch i bawb a fu'n gwylio'r drysau ac hefyd i Ken Davies am recordio'r holl weithgareddau ar d‘p.

A chyn hynny, mae swyddfa Plant Mewn Angen BBC Cymru yn eiddgar i glywed am yr holl weithgareddau codi arian sydd yn cael eu cynnal ledled y wlad..

Fel bod y problemau arbennig sydd yn wynebu ieuenctid heddiw yn cael eu datrys ac fel bod mynegiant mwy positif ac adeiladol o'u dyheadau, eu hofnau a'u hansicrwydd yn cael ei ddarparu, braf fyddai meddwl y gallasai pob Cyngor Bwrdeistref a Dosbarth yng Nghymru benodi Swyddog ieuenctid i fod yn gyfrifol am weithgareddau'r grŵp oedran hwn.