Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

weithiai

weithiai

Pan weithiai ar y meysydd a dyfod chwant bwyd arno cyn amser cinio neu amser te, ysmygai sigaret i leddfu'r chwant.

Yng nghwrs y blynyddoedd fe gostiodd ffortiwn i'w saethu, ei raffu a'i lanhau er mwyn sicrhau diogelwch y dyniori a weithiai yn yr ugeiniau o fargeinion o'i ddeutu ac o tano.

Fel eraill a weithiai yn y maes hwn, sylweddolai fod cyswllt amlwg rhwng troseddu a bod yn ddigartref.

Clywais ewythr o gipar yn dweud fel y bu i ryw hogyn a weithiai gydag o ddal ffwlbart mewn magl gwningod.

Roedd paratoi ar gyfer 'powdwr mawr' yn fusnes costus iawn oherwydd byddai'n rhaid cludo popeth o werth i bellter diogel, a byddai'n rhaid i bawb a weithiai yn y ponciau islaw adael eu bargeinion nes byddai'r saethu drosodd a'r goruchwyliwr a'r arbenigwyr wedi eu bodloni ei bod yn ddiogel iddynt ddychwelyd.

Bu'n bnawn gwerth chweil gyda'r tri gŵr da, yn olrhain hanes 'Chwarel Bryn', y cymeriadau a weithiai yno, y teuluoedd oedd yn byw o gwmpas, ynghyd a thrafod nodweddion y tirwedd a'r ardal.

Doedd dim modd iddo wybod y byddai'n rhaid iddo erlid rhywun yn y car, ond fe gofiai o hyn ymlaen - pe bai'n byw trwy hyn oll - i fynd â char manual gydag ef pan weithiai ar 'op'.

Nid oedd gan y llawfeddyg a weithiai yno unrhyw gymwysterau arbennig ynglŷn â llawfeddygaeth yr abdomen ond mentrodd arni ac fe ddarganfu delpyn caled ym mhancreas y claf.

Penderfynwyd fod yn rhaid saethu a rhoddwyd gorchymyn i bawb a weithiai yn y bonc islaw i adael eu bargeinion.

Er bod y byd amaeth yn cychwyn ar gyfnod o newid mawr, gyda'r defnydd a wneid o beriannau wedi lledaenu er mwyn lleihau'r angen i fewnforio bwyd yn ystod y Rhyfel, gan arwain yn anochel at leihau'r nifer o weision a weithiai ar ffermydd a pheri i'r Llywodraeth ddarparu prisiau sefydlog am gynnyrch fferm, cyflwyno portread eithaf rhamantaidd o fyd yr amaethwr a wnaeth Geraint Bowen.

I'r ychydig a weithiai yn y Blaid, wrth gwrs, yr oedd ei helynt a'i delfrydau yn llanw eu bryd yn llwyr o ddydd i ddydd.

'Dyna ddigon rwan,' meddai eu mam, mewn llais a weithiai bob tro yn achos Emyr.

Gwyddent yn iawn beth oedd ystyr y corn yn canu i ddweud fod diwrnod gwaith ar ben, ac mae cof o hyd am geffyl a weithiai yn Chwareli'r Oakeley, pan ollyngid ef o'r tresi ar ganiad y corn, yn mynd ar hyd rhan o'r chwarel a thrwy y Lefal Galad, yna dilyn Llwybr y Ceffylau oedd yn mynd dros geg y Twnnel Mawr, i lawr i'r ffordd fawr ac i'w stabl yn y Rhiw ac at y minsiar heb neb wrth ei ben i'r dywys.

Ni chlywais i'r un gof gwlad grynhoi llawer o gyfoeth, er ei fod, ar y cyfan, yn un o'r rhai a weithiai galetaf o bob dosbarth o weithwyr.

Cofiaf fynd i Landudno, i gyfarfod unwaith a neb ond Elwyn Roberts, a weithiai yn y banc yno ar y pryd, yn bresennol.

Wrth drin y deunydd hwn yr oedd yn medru ymarfer crefft y nofelydd yn feistrolgar, ond hyd yn oed yn y fan hon fe weithiai o dan un anfantais fawr.

Ceir hanes gweithgareddau diweddaraf Mynydd Parys yn yr Oriel gydag eitemau o offer y mwynwyr a dillad arbennig y "copor ladis" (sef y merched a weithiai dan amodau dychrynllyd yn y gwaith) wedi eu gosod ymhlith samplau o gerrig mwynol o'r mynydd.

Un cymeriad nodedig o linach y Plemings oedd Francis, saer maen a weithiai yn y chwarel.