Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

welai

welai

Ni welai hon fod eisiau newid dim ar yr Eglwys - dim ond gorfodi pawb i gydymffurfio.

Perthynai'r ddwy, yn eu ffyrdd gwahanol, i fudiad llenyddol pur boblogaidd yn Ffrainc tua dechrau'r drydedd ganrif ar ddeg: mudiad a welai ar y naill law ymgais i gysylltu'r chwedl Arthuraidd (cyfraniad mwyaf Cymru i ddychymyg Ewrop, o bosibl) â chyfnod y Testament Newydd a sefydlu'r Greal Sanctaidd yn un o brif themâu llên Ffrainc, a mudiad a oedd yn dyst ar y llaw arall i symud pendant oddi wrth yr hen arfer Ffrengig o gyfansoddi naratif ar fesur ac odl i lunio stori%au rhyddiaith.

A bydd eisiau iddo egluro llawer iawn o bethe, y cwch a phopeth." Ni welai'r plant bod dim byd ar goll.

Tybed na 'welai' y bardd hefyd y caledi a'r dioddef oedd ynghlwm wrth y llafurio am gyflog bychan, i chwarelwr, ac elw mawr, i berchennog?

Yn Y Bibyl Ynghymraec fe welai yn Gymraeg amlinelliad o'r hanes a groniclir yn y Beibl, a hwnnw wedi ei ragflaenu â chyfieithiad llythrennol o'r bennod gyntaf o Genesis.

Cerddodd yn araf i gyfeiriad y cwt mawr a welai yn y pellter.

Ymhell cyn diwedd y pumdegau hen-flinasai Saunders Lewis ar y diffrwythdra a welai ef yng ngwleidyddiaeth Cymru.

Ni welai Rhigyfarch lygedyn o obaith o gyfeiriad yr uchelwyr na'r arweinwyr o achos darostyngwyd y gorau a'r mwyaf urddasol ohonynt yn daeogion.

Yr oedd hyd yn oed yr ychydig wylanod a welai ar y cei yn swatio yn eu cwman heb ddim i'w cynhyrfu o'u diflastod.

I ddiflannu fel na welai neb o byth.

Aflwyddiannus byddai'r flwyddyn honno i'r sawl welai ysgyfarnog neu bioden yn croesi eu llwybr a hynny cyn deuddeg o'r gloch y prynhawn.

Llond dwrn yn unig a welai Gymru yn erbyn cefndir o athroniaeth Gristnogol am ddyn a chymdeithas.

Pe bai hi'n mynd yn dwll arno a gorfod mynd i gartre' henoed, ni welai yn ei fyw pam y dylai dalu mwy yno am ei fod wedi cadw rhyw geiniog neu ddwy.

Doedd dim byd newydd yn y stori; roedd Lloyd wedi clywed ei thebyg, a'i gwell, droeon o'r blaen, a gan mai ychydig o destun sbort a welai ef mewn ymddygiad meddwon, beth bynnag, roedd wedi hen golli diddordeb ynddi.

Wrth gwrs, ni welai ddim - dim ond gorwel llwyd, ansicr, ac ymchwydd ewynnog y tonnau cecrus.

Ni welai ddim ar y dechrau.

I mi nid ymddangosai un amser yn balchi%o yn ei rinweddau ei hun; ond pan welai'r rhinweddau hynny yn disgleirio hyd yn oed mewn graddau llai yn eraill, tywynnai ei wyneb gan ddedwyddwch.

Wyt ti'n clywed?" Cododd ei lais am na welai Wil yn gwneud unrhyw osgo i ufuddhau.

Pan âi â Mali i'r parc am dro yn y bygi ar fore Sadwrn, er mwyn i Mam gael llonydd i lanhau, byddai'n gwneud ffrindiau â phob ci a welai.

Rhedodd hithau â'r lamp ar y bwrdd, ac erbyn mynd yn ôl ni welai ddim ond dau gysgod megis wrth y llidiart, ac un yn gweiddi "Gest ti hi?" wrth ymbalfalu.

Pe bai rhywun yn cyfieithu llyfrau plant Selina Chonz o'r Romaneg i'r Gymraeg, fel y gwnaed i lawer iaith arall, fe welai'r Cymry gymeriad y tai hyn drostynt ei hunain yn narluniau Alois Carigiet o gartrefi Uorsin a'i ffrindiau.

Fedrai Ynot Benn ddim aros y dydd pan welai Affos y Brenin yn gosod carreg sylfaen y Casino Newydd a'r ddau fwldoser mwya'n y byd o bobtu iddo, yng nghanol y Lotments.

Er hynny pan âi'n fain arno yntau am ddefnyddiau i lanw cyfrol, ni welai ddim o le mewn dwyn eiddo beirdd a llenorion eraill.