Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

welais

welais

Y mae'r sylwadau a wnaf i gyd oddi ar a welais ac a ddysgais gan y ddau saer coed y soniais amdanynt.

'Do, fe welais Jonathan,' ochneidiodd Mathew, 'ond mae gen i newydd enbyd.' 'Mae wedi marw,' casglodd Non yn dawel.

Welais i erioed ddyn wedi suddo i anobaith mor ddifrifol o'r blaen.

Pan es i lawr yr ardd ddoe mi welais fod pethau'n dechrau rhyw ymsymud o'u trwmgwsg fel y goeden Forsythia a oedd yn gawod o flodau melyn a'r rheini yn disgleirio yn haul oer y prynhawn.

Ni welais i fy hun ddim o'r gwaith tyllu hefo llaw, felly rhaid bodloni ar hanes a glywais gan yr hen bobl, ac o bosib fod rhai yma heno sy'n gyfarwydd â'r gwaith ac y cawn dipyn o'r hanes ganddynt hwy ar y diwedd.

Wrth gwrs ei fod o yn y Beibl, ond mi welais i beth hefyd mewn stori sentimental yn 'Woman's Own' dro 'nôl, a mwy fyth wrth wrando ar gaset "Hwyl yr ŵyl" gan y Mudiad Ysgolion Meithrin.

Welais i erioed y fath beth cyn hynny.

Ni welais erioed deulu yn canlyn John ond ymgeleddai rhywun ef yn aml o barch i'w deulu mae'n siwr.

Ond yn anffodus wrth gwrs, nid cynt o'n i wedi dechre cymryd diddordeb ac mi welais i fod y Bryndir wedi ymwagio.

Ni welais i erioed gyfeiriad at gloddio am lo yn yr ardal a, hyd y gwn, nid oes yna unrhyw dystiolaeth fod glo i'w gael dan y ddaear neu ar y brig yno.

Ni welais mohono wedyn.

"Ar ôl i mi wybod i sicrwydd nad oedd neb yn y plas mi chwiliais y lle'n fanwl, a welais i'r un cŷn."

Dywed: 'Wedi tipyn o ymholi cefais y llyfr cyntaf, llyfr du welais yn y cyfarfodydd lawer gwaith.

O'r hyn a welais i yng ngogledd Irac, er hynny, defnyddio'u sgiliau, eu cryfder corfforol a'u hyfforddiant didostur i wneud gwaith dyngarol yr oeddent - a'i wneud yn dda.

'Rwan 'ta, Owain, beth am ganu "Dacw Mam yn Dwad" i Guto i basio'r amser nes inni gyrraedd y caffi?' Roedden nhw wedi canu 'Dacw Mam yn Dwad' dair gwaith a 'Mi welais Jac-y-Do' ddwywaith pan welodd Carol yr arwydd oedd yn datgan fod y gwasanaethau nesaf ymhen deunaw milltir.

Roedd gan y Gweinidog -- dyn clen of nadwy -- enw Cymreigaidd iawn ond doedd ganddo ef na'i braidd (a welais i) fawr o Gymraeg.

Welais i erioed iâr-fynydd ar yr ucheldiroedd hynny.

tegeirian mwyaf arbennig a welais yma yw tegeirian y gwenyn Ophrys apifera.

Er mai Mi Welais Long yn Hwylio ydy teitl y llyfr, nid llongau'n hwylio yw canolbwynt y stori.

Cefais fynd i weithdy Ray Jones pwy ddydd ac fe ryfeddais at yr hyn a welais.

Pentref bychan yr anghofiodd twristiaeth amdano yw Susauna ei hun: dau deulu o bobl ddieithr a welais hyd yn oed yn rhan isaf y cwm.

Lle digon diffaith oedd Nant y Gors a'r sôn oedd mai crafu bywoliaeth a wnâi Ham, ond ni welais i erioed neb hapusach.

Gorsaf tref cefn gwlad oedd hi ac ni welais ynnau yno o gwbwl, er mae'n siŵr fod yna ystafell yno a oedd fel arsenal.

Un annibynnol iawn ydoedd, ac ni welais ef yn torri gair â neb o'r gweithwyr ar wahân i Phil.

Welais i 'rioed mohonot ti ar hast i fynd i wers o'r blaen 'Mynd i weld Dai Togs ydw i, ynglŷn â'r gêm rygbi 'na

Rwy'n cofio'r sgwlyn yn dweud wrthym eu bod yn rhoi sgwaryn o bren am wddf plant a glywid yn siarad Cymraeg yn rhai o ysgolion newydd yr ardal ond welais i neb yn cael y gosb honno, beth bynnag oedd hi.

Codais a mynd i'r gwastadedd, ac yr oedd gogoniant yr ARGLWYDD yn sefyll yno, yn union fel y gogoniant a welais wrth afon Chebar, a syrthiais ar fy wyneb.

Nefoedd o le i naturiaethwyr porcyn y blynyddoedd diwethaf yma hefyd, medda nhw ynte, welais i yr un eto!

Ni welais neb yn y dref a chanddo gysylltiad â Chymru.

Yr wyf wedi dweud mewn pennod flaenorol na welais gyffelyb Abel am adnabod calon dyn.

Wel, mi ddilynais o i'r ynys, a phan welais i o'n mynd i'r plas roeddwn i'n.teimlo'n hollol sicr mai yno roedd Eds, a rhai eraill am a wyddwn i.

Bob dydd, fe welais i bobl yn marw o newyn ac o flinder oherwydd eu gorweithio.

Mawr fu y tynnu coes ar lawer amgylchiad, ond ni welais ef erioed yn colli tymer er i'r tynnu coes fod bron yn greulon weithiau.

Yr un llong ydy hon a'r llong welais i yn fy mreuddwyd.

A do, mi welais y gair annibynniaeth yn cael ei ddefnyddio wrth ddisgrifio'r ffrwgwd.

Mewn pentref pysgota o'r enw Cojimar, ger Havana, roedd yna eisoes un o'r tai bwyta pysgod gorau a welais yn y byd.

O ganlyniad ni welais y tu mewn i'r neuadd honno nes bod y rhyfel drosodd.

Welais i ddim mo lefel y dþr cyn ised yn Llyn Llydaw ers tro byd, roedd llathenni o dir sych rhwng y cob a'r llyn.

Yna, mi welais am beth roedd o'n disgwyl .

Welais i 'rioed ferch â chymaint o "awydd" â'ch Rhian chi.' 'Caea dy geg, y mochyn!' Ymsythodd Dilwyn wrth droi at Gary a chau'i ddyrnau ar ei lin.

Roedd hi ryw natur bagio oddi wrtha i, a bagio wnaeth hi nes y cymerodd hi wib yn y diwadd am y cefn, a welais i byth mohoni hi.

Rhaid bod y pensaer hwnnw wedi gwneud cryn arian wedi hynny ond yr oedd yn ddigon tlawd pan welais ef yn ei henaint am y tro cyntaf a'r olaf.

Welais i mohono fo .

Mae'r presennol yn brysur tu hwnt, ac yn yr orsaf rheilffordd ac yn y cyfan o'r man siopau a stondinau a hofelau a thryciau a rickshaws a sgwteri a chysgwyr a thacsis o'i chwmpas hi, mae'r peth tebycaf a welais i erioed i ddinas ganol-oesol yn byw a bod o'm blaen.

oedd iechyd Anti yn fregus braidd, ond ni welais hi erioed yn ei gwely.

'Roedd hi'n edrych felly pan welais i hi, ond wnes i ddim ymyrryd, roedd yn well gen i adael llonydd iddyn 'nhw."

Welais i mohono fyth wedyn.

Cors anferth yn llawn anifeiliaid gwyllt, a thir brown cochlyd na welais liw tebyg iddo erioed.

Fe ges i fraw pan welais eich gwely chi'n wag..." Hyd hynny, roedd hi wedi meddwl mai ei gweld hi ar y traeth a wnaeth, ar ôl mynd i'r feranda o'r ystafell fyw.

Cadwodd ei air, a daeth â pheth o'r bwyd hwn imi dair gwaith i gyd, ac yna collais olwg arno ac ni welais ef byth wedyn.

Rydych chi'n llawer rhy ifanc i briodi, o ran hynny rydych chi'n llawer rhy ifanc i ddyweddi%o." "Bobol bach rydych chi'n hen ffasiwn Mam." "Efallai mod i, a welais i ddim byd o'i le mewn bod felly chwaith.

Y troeon hynny, welais i neb erioed mor fwriadol greulon; wn i ddim a oedd hi'n mwynhau'r peth hyd yn oed..." "'Eisiau bod yn ffrindiau' - Anita fach, elli di ddim gweld pa mor greulon oedden ni?

Dyma a welais i yn yr ogof: Roedd ei thu mewn fel rhyw fath o glai o liw arian.

Y llun gyda'r mwyaf rhyfeddol a welais i mewn papur newydd yn ddiweddar ydoedd un o Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin, yn reslo braich gyda merch ifanc o'r enw Yulia Beganova yn ystod rhyw ymweliad gwleidyddol neui gilydd.

Welais i erioed mohono fo fel hyn o'r blaen." "Hoffech chi i mi sgwrsio gydag o am funud?

UN O'R golygfeydd mwyaf erchyll a welais oedd gweld Windscale o ben mynydd Scafell yn Ardal y Llynnoedd.

Ac mi welais innau enghraifft arall o ddiflaniad sifalri wrth i ddau gi fynd i yddfai gilydd ar un o feysydd hyfryd Caerdydd y bore o'r blaen.

Ni welais erioed dorf mor ddig.

Pan welais Mrs Thatcher y bore wedyn yr oedd ei gwallt yn edrych yn ysblennydd a meddyliais fod yn rhaid fod popeth wedi gweithio allan yn iawn.

Byddai wedi bod yn braf cael cipolwg ar eira llynedd, ond rwy'n falch na welais i'r caws o fola ci!

Yna wrth i'r golau tanbaid lifo i mewn fe welais amlinell lori'n gwegian dan ei llwyth o sachau a dynion arfog yn syllu'n herfeiddiol ar bawb a phopeth.

Welais i erioed y fath ddarpariaeth gyflawn ac effeithiol ar gyfer newyddiadurwyr tramor.

Mi ellwch ddychmygu fy nghyffro pan welais i Twm Dafis yn cychwyn allan tua hanner nos ac yn mynd i ben y boncen acw sydd yng nghae pellaf Cri'r Wylan.

Dyma Jini yn mynd yn ddwfn i boced ei sgert ac yn tynnu allan lyfr bach, bach - y llyfr lleiaf a welais i erioed.