Roedd gwraig y saer coed wedi cael babi ac roedd weldar y dyn weldio wedi torri ar ganol y job a hwnnw wedi gorfod mynd i John O'Groats i nôl rhyw ddarn iddo.
Roedd o wedi diflannu i rwla, yn mwydro rwbath am droi rhyw feheryn at rhyw ddefaid, dôshio rhyw giât, weldio rhyw fuwch, injectio rhyw dractor a thrwshio rhyw oen.