Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

welid

welid

Erbyn hyn y mae'r tybio hwn yn peri i mi ymwaradwyddo, ond, o'i drin yn fanylach fe welid gormod o'm diffygion i.

'Teimlem', meddai OM Edwards ymhellach, 'mai da fyddai cymdeithas hollol amholiticaidd a dienwad, cymdeithas fechan, i ymddifyrru gyda llenyddiaeth Gymreig, ac i gyfarwyddo pob dyfodiad o Gymro welid yn Rhydychen'.

Teimlem mai da fyddai cymdeithas hollol amholiticaidd a dienwad, cymdeithas fechan, i ymddifyrru gyda llenyddiaeth Gymreig ac i gyfarwyddo pob dyfodiad o Gymro welid yn Rhydychen.

Er mor gyffredin yw cynnwys rhai o'r tudalennau, ni ddioddefodd erioed oddi wrth y ffasiynau o gyfraniadau otograff a welid o bryd i'w gilydd fel y byddai gennym ni yn nyddiau ysgol.

Ni welid fy nhad fyth yn yr ysgol Sul yn y Cei.

Y tu ôl i'r ymdriniaeth â sefyllfa deuluol y Gŵr a'i ferched y mae gweledigaeth dreiddgar debyg i'r hyn a welid yn gweithio yn nofelau Zola, neu'r brodyr Goncourt.

Ar rai adegau o'r flwyddyn, ni welid un arlliw o Doctor Jones yn y broydd.

NI welid mohono'n plymio'n acrobatig, yn bloeddio'n uchel ac yn mynd dros ben llestri er mwyn tynnu sylw ato'i hun (fel y gwneir heddiw, gwaetha'r modd).

Honnai mai'r Ymofynnydd oedd achos cryfaf yr Undodiaid yng Nghymru, ac os y collid ef na welid atgyfodiad mwy.

Ac nid mamau yn unig - ond tadau yn ogystal, arferiad na welid mohono ym Morgannwg y dauddegau.

Ni welid Elyrch Gwyllt yn taro heibio ychwaith, ond crewyd pyllau a chorsydd ar y porfeydd.

Ar wahân i rai ceir Ladas, a oedd yn gyfyngedig yn bennaf i swyddogion y llywodraeth, ceir Americanaidd o'r pumdegau a welid ar y ffyrdd.

Dechreuodd fyfyrio ynghylch arwyddocad enwau megis Bod Drudan a Myfyrion, ac am yr olion hynafiaethol a welid yno ac yng Nghaer Leb ac y tybid eu bod yn feddrodau ac yn allorau'r hen grefydd.

Er hynny, digon o waith fod y Gymdeithas wedi cyflawni'r ail ddiben y sonia OM Edwards amdano, sef 'cyfarwyddo pob dyfodiad o Gymro welid yn Rhydychen, oblegid er bod rhai o'r aelodau, ac OM Edwards yn arbennig yn eu plith, wedi ceisio gwneud hynny, ni wnaeth y Dafydd fel cymdeithas nemor yn y cyfeiriad hwn, a hynny, mae'n debyg, oherwydd mai cymdeithas fechan y bwriadwyd iddi fod, ac mai cymdeithas fechan fu hi ar hyd y blynyddoedd cynnar, beth bynnag am y blynyddoedd diweddarach.