Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

welw

welw

Edrychai'r Gors Las yn welw iawn yn ei llewyrch, yn welw ac yn beryglus - yn ddigon peryglus i unrhyw un gredu iddi lyncu hofrennydd mawr i'w chrombil i ddiflannu am byth yn ei llysnafedd gwyrdd ac yn ei mwd melyn.

Anodd gweld a y'ch chi, fois, yn welw ai peidio!

Safodd Alun ar ei draed a'i wyneb yn welw a doethineb llawer hŷn na'i oed yn ei eiriau.

Yr oedd wyneb Dei yn welw erbyn hyn a'i awydd i ymuno â'r criw wedi ei dymheru gan bryder gwirioneddol.

Am iddo grwydro cymaint i bregethu, a phregethu weithiau bedair-a phum gwaith y dydd, y rhwygwyd y wedd ar Harris onid oedd yn welw a rhychlyd ei wyneb yn ddeg ar hugain oed.

O, 'roedd o'n hen gynefin a chroeawu y rhyw deg i'w gartref yn Lerpwl ac yno gallai drafod merched, boed briod neu weddw, cystal â'r dyn drws nesa' - ond welw enaid cwbl ddieithr iddo yn ei groesawu i'w gartref newydd yn Nefoedd y Niwl.

Ni ddywed y ferch ifanc ddim, ac fe sylwai'r gyrrwr natur welw iawn y ferch, yn llwydaidd a blinedig.