Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

welwyd

welwyd

Fe welwyd eisoes mai dim ond y Marchogion, o'r darnau mawr, sy'n gallu symud cyn symud Gwerinwr neu Werinwyr.

Doed o hyd i ol ei traed her creigiau Trwyn yr Wylfa drannoeth, a darganfuwyd ychydig o datws yma ac acw, ond ni welwyd byth mo'i chorff.Dyna un rheswm dros i Mam gasau'r mor.

Ond rhaid rhoi'r clod i ddinas arall ymhell tu allan i Gymru am greu y Cloc Blodau cynta oll a welwyd erioed ym Mhrydain.

'Welwyd dim byd,' cywirodd y ficer ef.

A dyna a welwyd yn y daflen y flwyddyn wedyn - Alwyn Hughes Thomas, Tan'rallt .

Welwyd erioed gynifer o Gymry yn dadlau eu hachos yn Nulyn.

Mae'n anodd gweld y gwahaniaeth rhwng athroniaeth 'Get on your bike' Norman Tebbitt a'r canoli di-bendraw o ddiwydiant a welwyd yn y blynyddoedd wedi'r rhyfel.

Ni welwyd erioed amgueddfa mor lliwgar, y waliau yn ddu a llif-oleuadau bach yn goleuo'r cesys, rhai yn ymwneud â blynyddoedd y rhyfel fesul blwyddyn ac eraill yn trafod hysbyseb unigol, OXO, Ovaltine, Rinso ac yn y blaen.

Sylfeini, meddai, na welwyd nemor ehangu... nac adeiladu gwirioneddol arnynt hyd yr ugeinfed ganrif.

Ond erbyn gweld nid yr hyn a welwyd ar y teledu oedd y pâr od yn ei feddwl ef ond y deuddyn , Judy a Richard eu hunain.

Edrychodd rhai ar yr enwau a welwyd ar restr aelodau'r byrddau rheoli a oedd yn mynd i drefnu a chynnal y diwydiant drostynt hwy - y glowyr.

Un bore Gwener fe welwyd Jim yn crymu o dan bwysau cant o lo ar ei ffordd i gwt glo Ty'r Ysgol yn ystod arddangosiad celfydd i ni'r plant gan y prifathro o grefft taflu lasso.Bu'r demtasiwn yn ormod i'r gwr o Batagonia.

Ni chlywyd utgorn ac ni welwyd cledd.

Fe welwyd un ddrama, sef Y Tŵr, ar lwyfan yn ogystal a theledu.

A dyna'r olwg olaf a welwyd arni.Diflannodd, ysywaeth,am byth.

Yr elfen newydd a welwyd yn ystod cyfnod Jacob oedd ei fod ef ei hun, fel golygydd, yn manteisio ar dudalennau'r cylchgrawn i amddiffyn, neu ymosod os byddai galw, heb ofni cael ei ddal yng ngwe ffyrnig dadl.

'Roedd y bardd yn cydnabod oes y 'never had it so good' yng nghanol y pumdegau pan welwyd y pum miliwn o setiau teledu ar aelwydydd Prydain yn dyblu mewn degawd, a phan ddaeth y car yn hanfod yn hytrach nag yn foethusrwydd.

Achosodd yr hyn a welwyd fel brad ar ran yr SPD loes mwy personol i Schneider hefyd.

Fodd bynnag, rhaid bod yn reit ofalus wrth dderbyn hyn, gan fod economi Cymru yn dechrau adfywio o sylfaen cryn dipyn yn is, ac ni welwyd effeithiau'r twf i unrhyw raddau o werth yng Ngogledd Orllewin Cymru.

tybed a fydd yr ysbryd prydeinllyd a gafwyd gan chwaraewyr cymru yn ennill y dydd ar draul medr dechnegol fel a welwyd gan y tîm o'r cyfandir?

Waeth befo eu bod yn torri'r gyfraith: oni welwyd ambell Seneddol yn ymlafnio'i orau rhy las wrth geisio chwarae'r gem yn ol rheolau hunangar ei feistres?

Ac wele, yn agwedd Williams at lenyddiaeth, yr un hawl arloesol ag a welwyd yn ei a~wedd at ei ~refydd.

Yn ei ffurfiau cynharaf mudiad yn galw am grefydd ddyfnach, am hunan-ddisgyblaeth llymach ac am fywyd moesol ar lefel uwch nag a welwyd yn y Brifysgol er dyddiau John Wesley ydoedd.

Prin y gwelwyd y fath wamalu a bradychu safonau gwâr ag a welwyd yn ymddygiad pobl fel Kinnock, Abse, George Thomas, Donald Coleman ac Ifor Davies y pryd hwnnw.

fe welwyd ymroad hyfforddwyr ac ymateb aelodau.

Ni welwyd y fath undod cenedlaethol yn ein hamser ni.

Roedd y doniau a welwyd yn y ganolfan nos Wener yn rhyfeddol.

Mae'r heddlu'n awyddus i siarad â gyrrwr Mercedes âr llythyren gorfrestru M welwyd yn yr ardal ar y pryd.

Er y cymylau cyson fe welwyd haul ar fryn yma ac acw, ac er y dirwasgiad hirhoedlog cafwyd llwyddiant a chynnydd yma o fewn yr eglwys yn Seilo a hefyd o fewn yr eglwys yn y byd.

Un o englynion Talwrn y Beirdd ydi o þ Beddargraff Clown' þ O'n gþydd fe lwyddai i guddio þ ei henaint dan wên ei gellweirio: ond ei wedd ddi-fwgwd o a welwyd awr ffarwelio.

Fe welwyd siaradwyr gwir ddawnus yn datblygu i ddod yn siaradwyr o fri ar lwyfan: Daw enwau fel Geraint Lloyd Owen a Derfel Roberts i'r meddwl o blith y bechgyn, a Meinir Hughes Roberts (Jones gynt) ac Eirlys Jones Davies (Lewis gynt) o blith y merched.

Parhaodd Mansfield ar y blaen am awr cyn i Gaerdydd sgorio cystal gôl ag a welwyd ar Field Mill.

Mae nifer y copi%au llawysgrif o'r ddau destun hyn, ac eraill ar yr un thema, yn dyst i boblogrwydd eithriadol chwedlau'r Greal yn Ffrainc yn ystod y drydedd a'r bedwaredd ganrif ar ddeg, ac yn ystod y ddwy ganrif hynny hefyd fe welwyd tuedd - bron na allwn alw'r peth yn ffasiwn - i gyfieithu gweithiau llenyddol o'r Ffrangeg i ieithoedd brodorol eraill gorllewin Ewrop a'r tu hwnt, a'r Gymraeg yn eu plith.

'Roedd yr awdl yn sôn am oes aur celfyddyd a gwarineb, ond ar ddiwedd y Rhyfel dechreuad yr Oes Oer ac nid yr Oes Aur a welwyd yn Eisteddfod Rhosllannerchrugog.

O ganlyniad i'r trafodaethau hynny daeth i'r casgliad fod llawer mwy o ddarllen a meddwl o ddifrif o du'r ifanc yn y Lluoedd Arfog nag a welwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Hon oedd blwyddyn 'gaeaf yr anniddigrwydd' pan welwyd biniau sbwriel yn ymgasglu ar y strydoedd, ysbytai yn gwrthod cleifion, toriadau yng nghyflenwad bwyd a phetrol, miloedd ar y clwt ac ambell enghraifft o dorrwr beddau yn gwrthod agor beddau.

Cyffyrddir yn ogystal a strategaethau dysgu gwahanol megis "hunan addysgu cynhaliol," trefnu nodiadau a'u symleiddio ar gyfer plant a phroblemau iaith sydd yn benodol i un pwnc; agweddau cyffredinol a welwyd wrth arsylwi mewn ysgolion sydd yn fwy eang eu hapel ac yn berthnasol i unrhyw athro.

Mae'r daflen grynodeb yn cynnwys crynodeb o'r graddau a roddwyd ar gyfer yr holl wersi a welwyd, a sylwadau ar safonau cyrhaeddiad, ansawdd y dysgu, ansawdd yr addysgu a ffactorau cyfrannol, a dylai gynnwys, lle bo hynny'n briodol, farn ar gyfraniad amlwg y pwnc tuag at hyrwyddo'r dimensiwn Cymreig a chyflwyniad themâu trawsgwricwlaidd.

Ond yn yr achos arbennig yma fe welwyd yn dda i ychwanegu pwt o hanes trwy ddweud fel y byddai Laura Richards lawer gwaith yn cyrchu gyda'i chymdogesau ar Ddydd yr Arglwydd i chwarae gyda'r delyn; yr oedd yn cofio cadw ffeiriau llestri pridd ym mhorthladd Nefyn a chwarae y Bowl Haf'.' Trwy holi'r Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan cefais wybod mai ar y cyntaf o Fai y chwareuid y `Bowl Haf'.

Bydd yr unedau'n cyflwyno'r arferion dysgu da a welwyd ar waith yn ystod cyfnodau o arsylwi yn yr ystafell ddosbarth ac yn adeiladu ar y dadansoddi a ddigwyddodd fel rhan o ymchwil a oedd yn cyd-redeg a'r gwaith.

Eu prif nod yw cyflwyno'r arferion dysgu llwyddiannus a da a: i.welwyd gan athrawon Gwynedd wrth arsylwi ii.gyflwynwyd trwy ffrwyth ymchwil a phrosiectau eraill yn y Gymraeg a'r Saesneg yn y gorffennol, a hynny mewn dull hylaw a hawdd ei stumogi.

Bu'r hanner canrif diwethaf yn gyfnod pan welwyd cyfres o chwyldroadau rhy niferus i'w henwi i gyd.

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol Hon oedd blwyddyn 'gaeaf yr anniddigrwydd' pan welwyd biniau sbwriel yn ymgasglu ar y strydoedd, ysbytai yn gwrthod cleifion, toriadau yng nghyflenwad bwyd a phetrol, miloedd ar y clwt ac ambell enghraifft o dorrwr beddau yn gwrthod agor beddau.

Yr enw arnyn nhw ydi ffolliaid ac ni welwyd erioed rai yn Ynysoedd Prydain o'r blaen.

Ac yna, y mae Wiliam yn rhoi ei gôt uchaf amdano, a'i het galed am ei ben, ac yn lapio crafat mawr ddwy-waith am ei wddf; yna yn cymryd gafael yn y fasged a orffwysai fel tynged ar ben y bwrdd mawr er y noson cynt, yr un fasged ag a ddawnsiai wrth ochr y frêc bedair blynedd cyn hynny, ac a welwyd yn cychwyn Owen i'r Coleg.

Ni welwyd Mary Yafai fyth wedyn.

Fe welwyd eisioes fod Cymru ar y cyfan yn wlad fynyddig, gwlyb a chyda priddoedd gwael.

'Roedd y bryddest yn cyfeirio at y dioddef a welwyd ar fwrdd y Sir Galahad, ac yn gresynu fod pobl o'r un hil, o Gymru ac o Batagonia, yn tanio ar ei gilydd.

Mae'n amlwg i'r protestwyr godi ofn ar y cynghorwyr ac fe welwyd newid cyfeiriad a phwyslais.

Yn ei gerdd 'Washington ', mae Gerwyn Williams yn mynd â ni yn ôl at un o'r golygfeydd mwyaf dychrynllyd a welwyd yn yr ugeinfed ganrif.

Creodd y bryddest hon gryn drafodaeth oherwydd ei bod yn cyfleu safbwynt gwahanol i'r safbwynt a goleddai gwrthwynebwyr y mewnfudo i gefn gwlad Cymru a welwyd ers yr Ail Ryfel Byd.

Hyd yma, y datblygiad mwyaf cyffrous a welwyd ym maes cynllunio ieithyddol yw'r mentrau iaith.

Erbyn hyn fe welwyd ffrwyth y brotest arwyddion ffyrdd wedi i'r Llywodraeth gytuno i osod arwyddion dwyieithog, Yn y gerdd hon nid gofyn 'paham yr anniddigrwydd' y mae'r bardd, ond edmygu gwydnwch y protestwyr yn hytrach.

Dydw i ddim yn mynd i sôn am wendidau ond rhaid imi ddweud taw tipyn o siom oedd ffilmiau byrion Gwobr DM Davies, gan y gwneuthurwyr ffilmiau ifainc (pobl ifainc sy'n gwneud ffilmiau - nid ffilmiau ifainc) â chysylltiadau â Chymru (ac eithrio un ffilm a welwyd nad oedd ei gwneuthurwr ag unrhyw gysylltiad â Chymru o gwbl a bu'n rhaid ei ddileu o'r gystadleuaeth).

Ar lawr y dyffryn, ar ochr y ffordd, roedd y bwthyn bach rhyfeddaf a welwyd erioed - y waliau wedi'u gwneud o fara brith, y to o fara ceirch, a'r ffenestri o siwgwr candi.

Cerddodd ymaith, ac ni welwyd mohono gan neb na chynt nac wedyn.

Bu Martyn Morris yn amlwg droeon, ond ni welwyd cymaint o Emyr Lewis (Emir oedd ei enw bedydd yn y rhaglen, gyda llaw) yn yr hanner cyntaf, ond fe daclai Marc Perego cyn galeted ag arfer.

Ni welwyd unrhyw gerdyn yn eu plith a stamp tramor arno, gan i drefniadau'r sawl a arfaethasai fwrw'u gwyliau ym Majorca fynd i'r gwellt trwy fethiant alaethus y cwmni gwyliau.