Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wenu

wenu

Safai, a'r crwt bach yn gorffwys ar ei chlun, i wylio Dai Mandri'n gweithio ar ddarn o haearn, heb yngan gair ac heb wenu, fel pe bai Hadad yn greadur ar wahân.

Harris, fe gofir, oedd y gŵr gofnododd yn ei ddyddlyfr fel y bu iddo unwaith bron ildio i'r demtasiwn i wenu!

Ac mae'n siŵr gen i fod fy niffyg ymateb i wedi tarfu mwy nag un er fy mod i'n gwneud ymdrech i wenu, o leiaf, rhag ymddangos yn dwp.

Dechreuodd wenu a chwerthin yn isel.

Ar fore fel heddiw, mae'n bosibl y bydd sawl un wedi cael tro trwstan, neu o leiaf wedi cael achos i wenu oherwydd rhywbeth mwy digri nag arfer.

Daeth yr haul o rywle i wenu'n braf wrth i'r ddau gyrraedd Pwll Mawr.

"Mae hwn'na'n licio'r haul hefyd," meddai wrth Sandra, gan wenu.

'Dydw i erioed wedi gallu chwerthin am ben campau unrhyw glown a 'does yna'r un slepjan (mae'n ddrwg gen i, Syr Wynff a Plwmsan) na phei gwstard wedi gallu gwneud imi wenu hyd yn oed.

Wedyn dyma nhw'n mynd adre ar y bws ac roedden nhw'n dal i wenu'n braf.

Cyfeillion agos yn unig, ebe Glenys, fel petai'n gallu darllen ei feddwl, gan droi atynt i gyd yn eu tro i wenu arnynt a'u derbyn i gylch ei chyfeillgarwch.

Daeth ato'n llawen gan wenu a chusanu Idris yn groesawus.

Tabledi Gwneud-chi-wenu. Detholiad o gerddi wedi eu golygu gan Myrddin ap Dafydd.

Fel tae o 'rioed wedi sefyll ar lwyfan !" Fel'na bydd hi pan fyddwch chi am iddyn nhw fod ar eu gora, cysurais hi, gan wenu, "Mae'r actorion diarth na'n 'u gwneud nhw 'n nerfus." Gwelwn Enoc yn symud yn ôl a blaen wrth waelod y llwyfan, yn chwifio'i freichiau.

Rwyn siwr y gwnaiff fy nghyfeillion yn yr Alban faddau imi am wenu wrth ddarllen am y llanast canlyniadau arholiad a fu yno yr wythnosau diwethaf.

Pan ddaeth yr amser inni symud fe ddigwyddodd rhywbeth sy'n peri imi wenu heddiw wrth gofio amdano.

A dyna'r dyn ieuanc yn ymestyn tros gwr y sêt lle roedd Hugh Evans ac yn gofyn yn lled ddistaw i'r ddynes ieuanc: 'Wyt ti am weiddi heno?' Troes hithau tan wenu, ac ateb: 'Ydwyf, os wyt ti am wneud.' Daeth y pregethwr i mewn, dechreuodd bregethu.

Gwelwodd, ond llwyddodd i wenu gwên fenthyg tra chwaraeai ei fysedd yn ddi-baid â'r beiro arian a'r pad ysgrifennu oedd o'i flaen ar y ddesg.