Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

werin

werin

Mae'r bryddest hon yn enghraifft arall o Gwlt y Werin, ac yn arwydd hefyd o dwf Sosialaeth yn y cyfnod.

Talodd y gyfres Cyngherddau Gwerin deyrnged i'r traddodiad canu gwerin yng Nghymru gan gynnwys y triawd poblogaidd Plethyn ymhlith llu o grwpiau eraill tra cafwyd darllediadau helaeth o Gwyl Werin y Cnapan, un o uchafbwyntiaur calendr o wyliau.

Dywedodd Thomas Sebastian Price o Lanfyllin mewn llythyr Lladin yn 1700 fod y Gymraeg erbyn hynny wedi peidio â'i harfer oddieithr gan y werin iselradd.

Cofiaf gael un 'wers' trwy ddysgu tôn a geiriau cân werin yn dechrau 'Pegi Bach a aeth i olchi', a'r drychineb ofnadwy iddi orfod mynd adre i nôl y sebon a chanfod pan ddychwelodd fod y dillad wedi diflannu gyda'r llif.

Fel Crwys, gwelai Sarnicol, hefyd, gartrefi'r werin yn gaerau diddanwch a meithrinfeydd mawredd.

Canys trasiedi eironig a chwerw yw Prifysgol Cymru, ffrwyth pennaf deffroad cenedlaethol y werin Gymreig a Chymraeg.

Gyda golwg ar y tair stori a leolir ym Morgannwg, straeon am gyfnod y Streic Fawr yng nghanol y dauddegau ydynt; ac yn un ohonynt, sef yn 'Gorymdaith,' teflir cip yn ôl ar y cyfnod yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan ddaethai hen dadcu a hen famgu Bronwen i'r cymoedd am y tro cyntaf, 'wedi teithio mewn cert o Sir Gaerfyrddin.' Un o ferched Arfon oedd Kate Roberts wrth gwrs - ni chaiff neb anghofio mai yno y'i maged: Arfon (fel y gwelsom) oedd y magned a'i tynnai hyd yn oed ar ei gwely angau - a chan mor gysa/ ct a thriw y portreada hi fywyd y werin-bobl a drigai yno, ei llenyddiaeth hi yw'r nesaf peth at hanes cymdeithasol bro'r chwareli a luniwyd erioed.

Jones, fe grewyd ...rhwydwaith mawr o gwynion yn erbyn eglwys a landlord a gwladwriaeth, a theimlai'r werin mai teulu'r tarddu o'r un gwreiddyn oedd y tri ac mai eu cynnal eu hunain yn erbyn llafurwr neu amaethwr oedd swydd waelodol y tri.

Bu amser, yng nghyfnod deffroad y werin rhwng 1860 a 1890, y buasai'n ymarferol sefydlu'r Gymraeg yn iaith addysg a'r Brifysgol, yn iaith y cynghorau sir newydd, yn iaith diwydiant.

Ni all diweddglo'r bryddest ond peri meddwl nad oedd Crwys mor sicr o deilyngdod dyfodol ei werin ag ydoedd o'i gorffennol.

Nid yw'n ddamweiniol mai yng ngwledydd mwyaf amlieithog Ewrop y datblygodd yr unbeniaid goleuedig eu cynlluniau uchelgeisiol am addysg gyffredinol i'r werin.

Fe roddai darlun fel hwn flewyn o chwaeth i gegin lom Nefoedd y Niwl a thestun siarad am fisoedd i werin ddiniwed Bol y Mynydd.

Talodd y gyfres Cyngherddau Gwerin deyrnged i'r traddodiad canu gwerin yng Nghymru gan gynnwys y triawd poblogaidd Plethyn ymhlith llu o grwpiau eraill tra cafwyd darllediadau helaeth o Gwyl Werin y Cnapan, un o uchafbwyntiau'r calendr o wyliau.

Teimlid bod yr Eglwys (er gwaethaf eithriadau megis 'yr hen bersoniaid llengar') wedi ymbellhau oddi wrth y werin Gymraeg, ac felly bod talu degwm i gynnal y sefydliad eglwysig yn anghyfiawn.

Nid syniad newydd yw fod y weinidogaeth Gymraeg yn y ganrif ddiwethaf wedi ymffurfio'n ddosbarth o arweinwyr cymdeithasol: rhyw aristocratiaeth newydd yr oedd y werin yn tynnu'i chap iddi.

Byddai yno gystadleuthau o bob math yn cael eu gosod: ysgrifennu traethawd, darn o farddoniaeth, limerig, darllen darn o ryddiaith - "heb ei atalnodi%, darllen solffâ, cân werin ac adrodd "stori fer" a llawer o weithgareddau eraill.

Roedd y werin wedi darganfod llawer ffordd o ddangos eu hatgasedd tuag at fyddin y Senedd a'r ffordd fwyaf effeithiol oedd yr ymgyrch gan y gofaint i'w gwneud hi bron yn amhosibl i gael eu meirch wedi eu pedoli.

Pwysleisia Angharad Dafis yn ddiddorol iawn mai: Diben creu Wil James yw dangos na ellir chwalu'r hen drefn a chreu trefn newydd sosialaidd o fewn i'r werin ei hun.

A mynnai gadw hen gysylltiad y Brifysgol â'r werin.

Pobl fel hyn oedd arwyr y werin - doedd fawr bwrpas bellach cael athro coleg neu weinidog yr efengyl.

Yng nghefn ei feistres roedd Pyrs yn lladmerydd rhyddid i'r werin bobl.

Roedd llawer iawn o fân ladrata, anwiredd, twyll, meddwdod a diogi ymysg y werin bobl fwyaf annysgedig, nad edrychent ar y rhain fel pechodau o gwbl.

Meddai Henry Rees yn y nofel: 'Yng Nghymru heddiw dyma'r alwedigaeth uchaf oll, ac y mae'r werin yn gwybod hynny.

Yr oedd i lwyddiant diwydiannol yr Wyddgrug, fel i lwyddiant diwydiannol rhai o drefydd Deheudir Cymru, ei broblemau, a daeth tonnau'r llanw Seisnig cyntaf i effeithio ar y werin Gymreig dros Glawdd Offa, er bod hwnnw wedi ei godi ganrifoedd lawer ynghynt.

Faint o'r werin hon sydd heddiw yn derbyn 'propaganda' toreithiol y cyfryngau (ac yn hyn o beth mae Radio a BBC Cymru wedi bod ar eu huchelfannau) sydd yn barod i grogi ei harweinydd Arthur Scargill o'r 'Gibbett' agosaf?

A rhaid oedd canolbwyntio ar ddal sylw'r werin, digon gelyniaethus ac anghwrtais yn aml, a oedd yn gwrando.

Os nad oes tanciau dwr parhaol ar fwrdd eich carafan (a dim ond yn y rhai mwyaf a drutaf y mae'r rheini), yna bydd raid i chi ymuno a gweddill y werin i gario'ch dwr iddi, a chario'r dwr wast yn ol i'r draen pwrpasol.

Lladdent werin yr Almaen yn nhân y gwlad garwch gwneuthur a feginid gan y wasg felen, y tabyrddau a'r rum.

Dyna'r drwg.' 'Ydy hyn yn wir ledled y byd?' 'Ychydig iawn a wyddon ni'r werin am weddill y byd.

Yng ngallu grymus ei chof yr oedd Sarah Owen yn ymgysylltu â'r werin Gymraeg cyn i honno fynd i ysgolion Griffith Jones, Llanddowror, ac yng nghyfoeth lleferydd ei thafod, yr oedd yn uno treftadaeth hen ddiwylliant Twm o'r Nant â diwyllinat newydd Charles o'r Bala.

Wfftia (yn gwrtais iawn) Paul Bourget, 'un a gododd o'r werin, yn ceisio cyfyngu hawliau'r bobl, ac yn lladd ar y gyfundrefn addysg a'i manteision a fu'n achos mawr o'u llwyddiant eu hunain'.

Faint o werin Cymru sydd erbyn heddiw, wedi naw mis o streic gan yr 'arwyr' hyn yn eu gweld fel 'Arwyr glew erwau'r glo'?

Dyna a amcanai ei wneuthur yn Cymru, a'r cylchgrawn hwn oedd penllanw pob ton - Stephen Hughes, Griffith Jones, Thomas Charles - a symudodd y werin yn nes at hafan gwybodaeth.

Daliodd i'w olygu hyd ddiwedd ei oes, a daliodd i ysgrifennu ar gyfer y werin yr oedd ganddo ddarlun mor ddelfrydol ohoni yn ei galon.

'Roedd awdl Eifion Wyn yn seiliedig ar Gwlt y Werin.

Er eu bod wedi rhyddhau'r werin o grafangau creulon y Khmer Rouge, collfarnwyd Fiet Nam gan y Gorllewin am ymosod ar wlad arall.

Rhoes llyfr fel Rebecca Riots (David Williams) gyfle iddo dynnu sylw at gyfraniad Thomas Emlyn Thomas, y gweinidog Undodaidd o Gribyn, a'r gŵr a fu'n 'rebel dros ryddid y werin'.

Ond hwyrach mai'r hysbyseb gwaetha un dros roi grym yn nwylo'r werin yw'r portread ci%aidd a gawn o Wil James.

Ni chafodd ef weledigaeth y dynion hyn ar bwysigrwydd ysgolheictod, ac ni chawsant hwythau ei weledigaeth ef o'r werin.

Yr oedd yn un o'r ychydig ysgolheigion proffesiynol a oedd yn adnabyddus i'r werin-bobl.

Ond yn yr achos arbennig yma fe welwyd yn dda i ychwanegu pwt o hanes trwy ddweud fel y byddai Laura Richards lawer gwaith yn cyrchu gyda'i chymdogesau ar Ddydd yr Arglwydd i chwarae gyda'r delyn; yr oedd yn cofio cadw ffeiriau llestri pridd ym mhorthladd Nefyn a chwarae y Bowl Haf'.' Trwy holi'r Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan cefais wybod mai ar y cyntaf o Fai y chwareuid y `Bowl Haf'.

Siop y Werin.

Ymysg rhai o'i ddilynwyr parodd hyn ddifri%o ysgolheictod, a rhoi pris nas haeddai ar gyraeddiadau'r werin; clywir eco o hynny heddiw hyd yn oed.

Mae Zulema a'i dillad, gemau a phersawr drud, a moethusrwydd y plant Carlitos a Zulemita, yn wrthun i'r werin dlawd.

Y werin yw ei brif ddeunydd: hi hefyd a rydd iddo ei werthoedd.

Trawsant ddawns werin nwyfus Pwt ar y Bys.

Cryfder arweinwyr Llanfaches oedd eu dawn cyfathrebu â'r werin.

Yr oedd mewn Protestaniaeth gymhelliad cryf iawn i anrhydeddu'r werin byth ar ôl i Martin Luther esbonio arwyddocâd Offeiriadaeth yr Holl Saint.

Yn yr orsedd hon eglurodd Iolo Morganwg beth oedd pwrpas Beirdd Ynys Prydain, sef adfer cerdd dafod, y cyfrwng, meddai, a ddiogelodd y Gymraeg rhag llygru, a hyrwyddo'r mesurau rhydd i hyfforddi'r werin.

Cystadleuaeth y "Gân Werin i rai mewn oed".

Ys dywed Kenneth Morgan, "...(a dynnwyd o'r werin)'." I'r gweithwyr, bu capeli ymneilltuol am dair neu bedair cenhedlaeth yr hyn yw clybiau ein cyfnod ni iddynt.

Dathlodd Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan 50 mlynedd, a nodwyd yr achlysur ar BBC Radio Wales yn y rhaglen What About The Gardens?

Sylla'n hy i fyw llygad y camera, gan hudo sylw y gwylwyr, yn union fel petai'n Rasputin y drefn gomiwnyddol - 'guru' gorffwyll sy'n ceisio elwa ar hygoeledd y werin.

Wrth sbio ar ei choesau hirion daeth i'w feddwl bwt o hen gân werin yr arestiodd o rywun am ei chanu rywdro:

"Cyfres y Werin" oedd ei lyfrau.

Yn Nhwrci a Rwsia yr oedd y werin bron yn gyfan gwbl anllythrennog; dim ond ychydig o ysgolion mynachaidd a gafwyd, ac ysgolion Koranaidd lle dysgai'r plant ddarllen y Koran heb ei ddeall.

Ymhen dwy filltir a hanner mynd heibio i Dy'n-pant, cartref Evan Jones yr hynafiaethydd a roddodd gymaint o hanes yr ardaloedd hyn ar gof a chadw (Ceir casgliad ardderchog o'i lawysgrifau yn Amgueddfa Werin Cymru).

Mae Cymdeithas Ddawns Werin Cymru yn elusen gofrestredig, a'i hamcanion yw addysgu'r cyhoedd yng nghelfyddyd dawnsio gwerin.

ARWYR GLEW ERWAU'R GLO 'Caner, a rhodder iddo - glod dibrin Y werin a'i caro: Nydder y mawl a haeddo I arwr glew erwau'r glo.'

Ef yn anad neb a roes bwys ar "y werin" yng Nghymry.

Ac i fod yn hollol onest, faint ohonom ni'r 'werin' gyfoorddus, hunan gyfiawn sydd a'r syniad lleiaf o achosion y streic andwyol hon?

Ni ellid amau dilysrwydd ei ddisgrifiadau o amgylchiadau byw y werin, gan fod arolygwyr eraill yn eu cadarnhau: yn wir, fel y cawn weld, byddai'r adroddiadau eraill yn dyfnhau'r argraff fod y bobl yn gwbl amddifad o gyfleusterau cymdeithas.

Ond pwysicach na'i arddull na'i ffydd yn y werin oedd naws neu dymer ei ysgrifeniadau.

'Rhoes ei geiniog brin at godi'r coleg' er mwyn i'w fab ei hunan beidio â medru nac iaith ei dad nac ystorïau'i dadau na gwybod dim am 'adlais cerddi ei ieuenctid pell'. Mynych y dywedwyd mai'r gwahaniaeth rhwng colegau Prifysgol Cymru a phrifysgolion dinasoedd masnachol a diwydiannol Lloegr yw mai meistri masnach a diwydiant a greodd y sefydliadau Seisnig ond ceiniogau'r werin a gododd golegau Cymru.

Hwyrach mai fi y'n methu, ond ni chofiaf glywed dim yn cael ei ddweud mai hen gân werin ydoedd yn mynd nôl i'r cyfnod pan fyddai menywod yn golchi dillad yn yr afon, ac mai pwrpas y gân oedd cael hwyl.

Ond fe fu adegau yn ystod y can mlynedd o amgau cyfreithiol gan ŵyr ariannog, pan wrthwynebai'r werin unrhyw awdurdod a ddygai'r 'comin oddi ar yr ŵydd.' Felly y cyflwynir yma'r Sais Bach ,mewn sawl delwedd, a Jennings fel gŵr a gafodd gam.

Un tro, mi wnes i stori dramor yng Nghymru - yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan.

Y mae'r Eglwys Gristionogol ym mhob cyfnod yn talu pris uchel am golli cysylltiad â'r werin ac yn arbennig felly pan fo gofynion parchusrwydd yn peri condemnio gweithwyr eiddgar yn unig am nad ydynt yn cydymffurfio mewn iaith, ymddygiad a gwisg â'n safonau artiffisial ni.

Cadwyd y digwyddiad yn fyw yng nghof y werin o genhedlaeth i genhedlaeth nes mynd yn rhan o'i stori dros byth.

Mae'r adran hon o'r gystadleuaeth wedi ei eangu, eleni, i gynnwys cân gelf, cân werin yn ogystal â Lieder Almaenig.

Roedd gan werin y Cardis lawer disgrifiad carlamus o'r ddyfais newydd hon.

ai stori werin yw hanes y Bnr Porter hefyd?