Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

werthfawrogiad

werthfawrogiad

Hysbyswyd yr aelodau fod Eira Jones wedi ymddeol o'r Ganolfan Gynghori fis Rhagfyr, a bod y Cadeirydd wedi anfon gair o werthfawrogiad y Ganolfan ati am ei dyfalbarhad am yr holl flynyddoedd.

Yn hanesyddol ac yn gwbl ddigynsail, mae arweinwyr y tair carfan wleidyddol ar Gyngor Sir Gâr wedi uno trwy anfon llythyr ar y cyd at Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn condemnio ein beirniadaeth ar Brad Roynon, prif weithredwr y cyngor, ac yn pledio am werthfawrogiad o bolisi iaith y Cyngor.

Yn hanesyddol ac yn gwbl ddigynsail, mae arweinwyr y dair carfan wleidyddol ar Gyngor Sir Gâr wedi uno trwy ddanfon llythyr ar y cyd at Gymdeithas yr Iaith yn condemnio ein beirniadaeth ar Brad Roynon (Prif Weithredwr y Cyngor), ac yn pledio am werthfawrogiad o bolisi iaith y Cyngor.

Ymateb cyntaf i eiriau fel llyfrau, ffynhonnau, dysgawdwyr a goleuadau yw un o werthfawrogiad; mae llyfrau yn cyfoethogi dyn, ffynhonnau'n ei adnewyddu, dysgawdwyr yn ehangu'i wybodaeth, goleuadau yn ei arwain yn y tywyllwch.