Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wfftio

wfftio

Am chwerthin ac wfftio fu wedyn, rhai'n methu cael eu gwynt bron, wrth feddwl am y ffasiwn beth!

Mi gewch chi eu cyfarfod ill dau ar y diwadd." Dipyn o gawdel oedd yr ymarfer, fel y disgwyliwn, a chlywn Menna'n wfftio'r actorion.

Fe gododd hen ddadl arall ei phen yn Somalia - lle bydd un garfan yn cyhuddo gohebwyr o ymhyfrydu mewn dangos lluniau o ddioddefaint a'r llall yn wfftio'r syniad fod rhaid amddiffyn y gwylwyr rhag ambell i wirionedd yn enw chwaeth.

Mae Ysgrifennydd Cyffredinol NATO, yr Arglwydd Robertson, wedi wfftio honiadau bod cynlluniau'r Undeb Ewropeaidd i greu eu llu milwrol eu hun yn tanseilio dyletswyddau a dylanwad NATO.

Y peth ydw i'n geisio'i ddweud ydi hyn: petawn i wedi mynd yn dwrne, neu yn athro, neu yn ocsiwni%ar, mae'n eitha posib y buaswn innau heddiw ymhlith y nifer fawr sy'n wfftio at y syniad o ysbryd, da neu ddrwg, ac at unrhyw fath o fodau sy'n gallu camu nôl ac ymlaen o'r byd yma i'r byd tu hwnt i'r llen.