Rhyw las gole oedden nhw, bob amser fel pe baen nhw'n sbio trwyddoch chi, a phan fydde fe'n wherthin - a phur anamal fydde hynny - fedrech chi byth deimlo'i fod e o ddifri.
Yn un peth, fe ddechreuodd wherthin llai, ond plentyn 'i mam oedd hi wedi bod eriod, achos roedd 'i thad wedi marw cyn iddi hi ddechre'r ysgol, ac ma'n rhaid 'i bod hi'n gwbod bo'i mam yn colli tir wythnose cyn iddi farw, yn enwedig gan iddi hi gal ergyd ysgafn ar 'i chalon yr union wythnos y daeth Madog i'r pentre.