Nid oedd prinder wicedwyr da - bechgyn fel Keith Andrew, Bob Taylor, Jimmy Binks a JT Murray - ac o ran gallu yr oedd David yn cymharu'n ffafriol iawn â hwy.
Pan oeddwn yn fyfyriwr treuliwn oriau meithion yn gwylio Morgannwg yn chwarae ar Faes Sain Helen, Abertawe, a chan mai batiwrwicedwr digon trwsgl oeddwn i y pryd hwnnw arferwn ganolbwyntio fy sylw ar arddull David Evans a'i gymharu â wicedwyr dawnus eraill.