Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

win

win

Pris potel o win yn gostwng i 5/6 ( 27c ) Marw Winston Churchill, Albert Schweitzer.

Oes gen ti win?" "Oes, dacw fo.

Rhyfedd yr ymgeledd a gafodd dynion drwy'r oesoedd gan y gwragedd: Dyma air o un baraita Iddewig hen, hen: "I bob creadur a arweinir y tu allan i'r porth i farw, fe roddir tamaid bach o fygarogl neu sbeis mewn cwpanaid o win i drymhau a marweiddio'r synhwyrau ......

A beth am 'flas y cynfyd' a 'hen win'?

Ond gadewch inni fod yn onest a ni ein hunain; wedi tynnu corcyn go anodd o botel y mae o yn hytrach na throi dwr yn win.

Ond yn troi'n win blasus - o brynu potelaid gan un o'r hen ddynion wyneb-lledr a mwstas Stalinaidd, gwyn, a chap stabal am ei ben, sy'n eistedd yng nghysgod olewydd efo rhesiad o boteli, heb labelau, ar wal wen isel ger y traeth.

A dod â lliw i undonedd bywyd wnaeth Iesu on'dife, a'r disgyblion, a ffordd rhai a'u gwelodd nhw wedi'r atgyfodiad o ddweud fod colled arnyn nhw oedd dweud, 'Llawn o win melys ydynt'.

Sonia am ddarllen y beirdd Lladin fel gwaith cartref yn ystod gwyliau'r ysgol a phrofi eu 'clasuroldeb dwys', ac wedyn troi at y llyfr Cymraeg newydd, a chael cymaint o bleser ynddo nes gadael 'ei Horas a'i Gatwlws ar y llawr, / Yntau ar newydd win yn feddw fawr'.

daeth y gwas yn ôl ac archebodd y dyn gig oen gyda salad, a photelaid o win coch.

Tywalltodd Gwenhwyfar win iddi'i hun o lestr arian.

Oherwydd y lleidr, rydw i'n gorfod ei brynu fesul casgenaid bellach." ăI'r dim, fe dywalltwn ni win i mewn i'r bibell i weld beth ddigwyddith." Caewyd un pen i'r bibell a gwasgiwyd y gasgenaid gwin i mewn iddi.

archebodd hi hanner potelaid o win gwyn hefyd.

Cyfarfod cadarnhaol â Win Griffiths, Llefarydd y Blaid Lafur ar Addysg yng Nghymru.

Hwyrach yr hoffech gynnwys gwydraid o gwrw, neu win fel rhan o'r cymeriant o galoriau ychwanegol.

Wedi pwyllgor sydyn, penderfynwyd gyrru negesydd at y fyddin oedd ar lawr y dyffryn gan gynnig ychydig gig, ychydig fara, ychydig win ac ychydig olew iddynt.

Gyda'r amlygiad gorau o'r modd yr ymserchai'r abad hwn yn y beirdd yw'r cywydd a ganodd Iorwerth Fynglwyd i ddiolch iddo am rodd o win a dderbyniasai ganddo pan oedd yn glaf.

Rhoddodd Gwenhwyfar ei chwpan win i lawr, ac edrych arno'n ddryslyd.