Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wireddu

wireddu

Gan na wyddom beth oedd maint odid un o'r argraffiadau sy'n cario'i enw ef a'i gydweithwyr, nid oes modd inni wireddu'r hawl hon.

Dilynodd The Man Who Jumped to Earth yr anturiaethwr 61 mlwydd oed Eric Jones o Dremadog i Venezuela wrth iddo wireddu breuddwyd oes i neidio o Raeadrau Angel sy'n 3,212tr o uchder.

Syndod i BW oedd sylweddoli faint o griw oedd angen ar gyfer y "Royal Charter" i wireddu ei freuddwyd o lwyfanu'r ddrama.

os am wireddu hyn bydd yn rhaid i'r tîm ennill mwy o bwyntiau oddi cartref nag a wnaed rhwng awst a'r dolig.

Mae'r flwyddyn 2000 yn 600 mlwyddiant ymgais Owain Glyn Dðr i wireddu ei dair breuddwyd fawr dros Gymru, sef Prifysgol, eglwys annibynnol a senedd i Gymru.

Disgrifir hefyd drefniadaeth y Cyngor Llyfrau o safbwynt system ddosbarthu a grantiau cyhoeddi a chynigir rhai egwyddorion fel sail i weithredu yn y dyfodol a model o system i wireddu'r egwyddorion.

Fe ddylai pobl sydd am i ddatganoli gael ei estyn a'i wireddu weld y potensial sydd gan ddeddfu o blaid y Gymraeg i osod cynseiliau deddfu mewn meysydd eraill.

Mae gwaith aentio Gwynedd ap Tomos wedi dod yr un mor adnabyddus a phoblogaidd erbyn hyn â'r gwaith arloesol y mae hi a'i gŵr Dafydd ap Tomos wedi ei wneud ac yndal i'w wneud i wireddu'r breuddwyd o greu yr oriel ym Mhlas Glyn-y-Weddw.

Fodd bynnag, nid yw'r Awdurdod, hyd yma, wedi defnyddio posibiliadau anferthol Technoleg Wybodaeth ar ei staff ei hun, ac mae angen o hyd am wireddu hyn o fewn yr Awdurdod.

Yn wir, gellid ystyried sicrhau adnoddau digonol i wireddu'r strategaeth hon yn her ychwanegol ynddi ei hun.

I wireddu hyn mae ganddi'r peirianwaith i drefnu hyfforddiant a chyrsiau a fyddai'n arwain yn uniongyrchol at berfformiadau a chystadlaethau.

Bydd penodi gweithiwr prosiect i ddatblygu cyfleoedd i wirfoddoli yn sbardun sylweddol i wireddu'n amcanion dan y pennawd yma.

Heb os nac onibai fe welwn yn fuan broffwydoliaeth arweinyddion Undeb y Glowyr yn cael ei wireddu, gyda mwy a mwy o weithfeydd yn cau am nad ydynt yn ddigon 'Proffidiol'.

Er bod job hir a digalon o'i flaen o, mi fydda fo wedi hen orffen ymhell cyn i ddymuniad y sloganwr gael ei wireddu.

Bob wythnos pan ychwanegai'r ugain ceiniog a gâi yn bres poced at y swm oedd yno eisoes, teimlai fod ei freuddwyd ychydig bach yn nes at gael ei wireddu.

Roedd pawb yn weddol siwr y gallai Gary wireddu'i fygythiad, gyda help ei dad.

Cafodd y sgiliau technegol a fu ynghlwm wrth wireddu'r project hwn - gan gynnwys golygfeydd cyffrous y naid ei hun - ganmoliaeth ar bob lefel.