Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wirfoddol

wirfoddol

Ni allai Ffredi gredu bod y doctoriaid coch yn gweithio'n wirfoddol i'r chwilod, er mwyn i'r rheini gael byw mewn plasdy moethus.

Croesdoriad yn cynrychioli nifer o asiantau oedd yno: awdurdodau addysg, adrannau gwasanaethau cymdeithasol, colegau addysg bellach, colegau hyfforddi, y cyfryngau, maes Cymraeg i Oedolion, y sector wirfoddol, cymdeithasau rhieni.

Mae hon yn fforwm i'r sector wirfoddol drafod gyda chynllunwyr gwasanaethau.e.e.Mae Fforwm Plant a Theuluoedd Gwynedd yn mynd o nerth i nerth fel grwp lobio, ynghyd a cheisio clustnodi'r angen am wasanaethau a hyfforddiant nas darperir gan y sector statudol.

Amlygwyd eto y diffygion yn neddf 1993 - sef nad ydi hi ddim yn rhoi statws swyddogol i'r iaith Gymraeg (sy'n golygu ei bod yn colli allan ar grantiau allweddol o Ewrop), ac nad ydi'n delio gyda'r sector breifat na'r sector wirfoddol.

Cyn i Gyngor Henoed Gwynedd sefydlu'i annibyniaeth, sefydlwyd canolfan ddydd wirfoddol yn Nyffryn Ardudwy, gwnaed ymchwil i'r angen am ganolfannau dydd eraill yn Arfon, a chyd-weithiwyd a'r WRVS er sefydlu gwasanaeth siopa i'r henoed yn Arfon.

Cysylltodd yr Awdurdod Iechyd a ni ynglyn a mewnbwn y sector wirfoddol i rai o'u Paneli Hybu Iechyd.

Llwyddwyd i gael cynrychiolaeth wirfoddol ar yr Uned Archwilio Annibynnol.

CYHOEDDI PAPURAU NEWYDD YNG NGHYMRU gan Beti Jones: Menter gwbl wirfoddol yw pob papur bro, ac amrywiant dipyn o ran maint, arddull a fformat.

Eleni etholwyd tri chynrychiolydd o'r sector wirfoddol ar y Pwyllgor Cyd-Ymgynghorol.

Dylid trafod gydag adrannau eraill o'r cyngor, asiantaethau a'r sector wirfoddol sut y gellir gwneud y defnydd helaethaf o adeiladau ac adnoddau ysgolion i wasanaethu'r gymuned.

I'n cenhedlaeth ni yng Nghymru, sy'n rhoi bri ar ryddid pobl i wneud fel y mynnont mewn materion moesol, y mae bron y tu hwnt i ddirnadaeth sut y gallai corff o bobol fabwysiadu'n wirfoddol gyfundrefn sy'n ymddangos i ni'n orthrymus.

Cynhaliwyd cyfarfodydd i edrych ar ddyfodol y sector wirfoddol yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol, ac yn arbennig felly, y mudiadau hynny a gyllidir trwy strategaeth sirol.

Cyfrifiad cwbl wirfoddol yw hwn ac mae'r Gymdeithas yn galw ar i bobl ddychwelyd y ffurflenni gan ofyn am rai dwyieithog.

Dechreuodd hefyd weithio'n wirfoddol gyda 'Tyrfa'r Merched', a oedd yn rhan o'r Genhadaeth Gristnogol.

Sut oedden ni'n mynd i fynd o'i chwmpas hi, yn wirfoddol neu dalu rhywun am wneud.

Yn drydydd, trwy gynnull gweithwyr prosiectau amrywiol y sector wirfoddol fel ag a wneir ym Meirionnydd.

Mewn oes pan nad oedd hanner poblogaeth Cymru yn mynychu na chapel nac eglwys, meddai ef: '...' Gellid dadlai mai nai%vete/ a barodd iddo wrthod derbyn yr un ddimai goch o arian y wladwriaeth i gynnal ysgolion yng Nghymru, a breuddwyd gwrach oedd disgwyl i enwadau, yr oedd eu culni a'u heiddigedd o'i gilydd yn ddihareb, ymuno'n frwd â chynllun a fyddai'n cymell gwerinwyr tlawd i gyfrannu swllt y pen bob blwyddyn yn enw addysg grefyddol wirfoddol.

Ymgyrchwr diflino ydoedd - dros amryw byd o achosion, gan gynnwys masnach rydd, dirwest, heddychiaeth, addysg wirfoddol, cymdeithasau dyngarol ac Ymneilltuaeth radical.

Gwendid o fewn pob menter wirfoddol yw y gall y diddordeb bylu ar ol y brwdfrydedd cyntaf, a chlywid y wireb honh yn aml yn nyddiau sefydlu'rpapurau bro cyntaf.

Un o'r rhain oedd ysgol Bryncroes ym mhen draw Llyn a chau fu raid i'r ysgol honno er gwaethaf ymdrechion caled a gweithredu tor-cyfraith pan feddiannwyd yr ysgol a'i rhedeg yn wirfoddol.