Os mai gloddesta a gwario ydi'ch Nadolig chi, does 'na, a fydd 'na byth ronyn o wirionedd yn yr haeriad bod natur yn gallu dathlu hefyd.
Breuddwyd Iolo oedd sefydlu cymdeithas a fyddai yn hollol agored i bawb a fynnai chwilio am wirionedd crefyddol, heb ofyn am unrhyw amlyniad i gredo na dogma.
Yr oedd mawr angen am wneud hynny, yn nhyb Llwyd a'i gyd-Gymry gwlatgar, oherwydd yr ymosod o'r newydd yn yr unfed ganrif ar bymtheg ar wirionedd yr hanes gan Williams Camden a'r Eidalwr Polydore Vergil yn arbennig.
Ar hyn o bryd, ym Mhrifysgol Llundain, cynhelir arbrofion ar lygod i geisio darganfod a oes wirionedd yn yr honiad.
Materion du a gwyn - o gyfeiliornad neu wirionedd - ydoedd y rhain i Hugh Hughes, a materion cwbl ddiriaethol hefyd.
A sawl gwaith rym ni wedi gwrthod credu newyddion da, ac eto'n rhyw hanner gobeithio fod rhywfaint o wirionedd ynddynt.
Y mae gweddill sylweddol iawn yng Nghymru na phlygodd i dduwiau poblogaidd ein cenhedlaeth ac a arhosodd yn ffyddlon i wirionedd yr Efengyl.
Y mae ef wedi awgrymu fod arwyddocâd dyfnach i ddarlun y Bucheddau o Arthur, ac o bosibl elfen o wirionedd hanesyddol.
Fe gododd hen ddadl arall ei phen yn Somalia - lle bydd un garfan yn cyhuddo gohebwyr o ymhyfrydu mewn dangos lluniau o ddioddefaint a'r llall yn wfftio'r syniad fod rhaid amddiffyn y gwylwyr rhag ambell i wirionedd yn enw chwaeth.
Ond, rhywfodd mae yna rywbeth yng nghefn fy meddwl sy'n gwrthod derbyn nad oes hedyn o wirionedd yn y stori, ac rwy'n dal i led-gredu bod rhai dihirod a ddygodd gar yn y Drenewydd tuag ugain mlynedd yn ôl wedi cael yfflon o sioc wrth fynd i chwilio'u hysbail...!
Poeni'r oedd hefyd, fel y cyfeddyf yn ei hunangofiant ac fel y tystia dyneiddiaeth amrwd y fersiwn cyntaf o 'Iesu Grist', am wirionedd y ffydd Gristnogol.
Cafodd ein pobl ddigon o rybuddion ar lafar ers blynyddoedd beth yw'r pris y mae'n rhaid ei dalu am gefnu ar Dduw a'i wirionedd.
Ond ceir rhai agweddau yn y dehongliad offeiriadol sy'n pwysleisio ambell wirionedd pwysig arall:
Rwy'n cofio dysgu yn yr ysgol mai 'byr yw dydd a dyddiau Chwefror', a meddwl heddiw na ddywedwyd mwy o wirionedd mewn cyn lleied o eiriau, erioed.
Canodd yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol i wirioneddau, ac efallai fod mesur ymateb ambell ddarllenydd i'w farddoniaeth yn dibynnu ar ei allu i ymateb i wirionedd fel y cyfryw.
A daeth i ddeall ymhen hir amser nad oedd deddfau prynu a gwerthu mewn ffeiriau Cymreig yn cynnwys cymaint o wirionedd, nac mor bendant, ag egwyddorion rhifyddiaeth.
A chyn dechre pregethu yn yr eglwys gyntaf dvma fe'n hongian y cadach coch ar fraced y lamp wrth ben y pulpud, a phob tro yr oedd am bwysleisio rhyw wirionedd yn ei bregeth, dywedai, gan bwyntlo at y cadach coch bob tro, 'And that's as true, brothers and slsters, as my lunch is in that handkerchief!' Yr oedd rhai o stori%au difyrraf Waldo yn ymwneud â'i deithiau yn b Iwerddon.
Holodd Ali yn drylwyr, ond prin y teimlai iddo gael gair o wirionedd ganddo.
O gwmpas gweddi, bwyd a Beibl, cafwyd myfyrio uwch yr angen i frwydro dros wirionedd ond hefyd i geisio cymod.