Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wisg

wisg

Rwy'n joio perfformio, a rhan o hynny yw gwisgo lan a 'neud y colur, ac o'n i'n joio chwilio am wisg a 'neud y colur dros ben llestri, oedd e'n hwyl."

Cyfres o bedair pennod awr o hyd fydd Y Wisg Sidan gyda Betsan Llwyd yn brif gymeriad.

Yn ei ddicter a'i wylltineb, tynnodd y crwydryn gyllell o'i boced i drywanu Idris ond torrodd honno'n ddarnau pan darodd yn erbyn y wisg ddur a oedd o dan ddillad Idris.

Ymhlith ei nodweddion y mae'r ffaith ei fod yn teimlo mai ef yw seren y gêm ac o ganlyniad mae'n sicrhau bod ei wisg bob amser yn drwsiadus.

“Fy nghof cynta pan yn blentyn oedd gweld fy nhad yn ei wisg llongwr,” meddai Hywel, a fagwyd ym Môn.

Gan hynoted oedd ei oslef a chan mor arbennig oedd ei arddull, ac, ar un adeg, gan mor unffurf oedd ei wisg - crys coch a siwmper goch (ni hoffai siwt) - a chan ei fod mor gaeth i'w bibell a'i sbectol, yr oedd yn wrthrych parod i'r parodi%wr, er gofid mawr i'w fam, ac, weithiau, iddo ef ei hun.

"Dygwch allan y wisg oreu, a gwisgwch am dano ef." Well done, yr hen father: mi gurswn i gefn o cawswn i afael arno fo).

Mae'r beiddgarwch mynegiant hwnnw yn bwydo ar feiddgarwch y meddwl, ac fel arall; a phan ddown wyneb yn wyneb a'i gwaith hi, ni allwn ond dilyn o hirbell, a chydnabod arucheledd y wisg a'r cynnwys fel ei gilydd.

Clymwyd y wisg yn dynn i'w gorff gan wasgod glaerwen â botymau aur arni.

Y broses allblygol; rhannu doniau â chefn gwlad; adlewyrchu'r goludoedd a fuasai'n hanfod ei gyff ei hun ac a ddangosai y 'mawredd a chymeriad' a feithrinai ' o gadw tŷ gwedi y tad': y nodweddion allblygol hynny a roddai ystyr i fywyd yr uchelwr; hebddynt ni allai ei gyfiawnhau ei hun yng ngolwg ei geraint, ei gymdogaeth, na'r wladwriaeth a roesai iddo wisg gydnabyddedig ei statws gweinyddol.

Ceir enghraifft o hynny ym Muchedd Padarn lle y dywedir fod Arthur yn eiddigeddus o wisg arbennig a oedd gan y sant ac yn ceisio ei dwyn oddi arno trwy drais.

Cymer hefyd ychydig bach ohono a'i glymu yng ngodre dy wisg.

Un arall o dy griw di yn y lle 'ma, yn 'i wisg botyme gloywon a'i allweddi mawr ar gadwyn...

Fe ddaw ei eiriau am y rhan o wisg pen Rhiannon a ddylasai guddio'i hwyneb ag adlais o gynghorion Tertullian ar wisg gwragedd, a llenni'n arbennig, a hefyd o eiriau canon y chweched ganrif sy'n gorchymyn i wragedd clerigwyr wisgo llenni.

Tyrd yma am funud." LLanc ifanc, tlodaidd ei wisg, oedd Aled Owen, yn edrych yn dal am ei fod mor denau.

Gwisgai'r briodferch wisg laes wedi ei hardduno a les a pherlau, roedd ei phenwisg o flodau lliw gwyn ac eirin gwlannog, ac roedd yn cario torch o flodau amrywiol ac eirin gwlanog.

Ers rhai wythnosau mae'r hen blasdy yn cael ei defnyddio i ffilmio cyfres wedi ei seilio ar nofel Y Wisg Sidan gan Elena Puw Morgan.

Edrychodd yn syn ar ei wisg.

Rhaid i'm henaid noeth, newynllyd Gael yn fuan dy fwynhau; Rho dy wisg ddisgleirwen, olau, Cuddia'm noethni hyd y llawr, Fel nad ofnwyf mwy ymddangos Fyth o flaen dy orsedd fawr.

Meddyliwch am siopwr; rhyw olwg lwyd, eiddil sydd arno, neu weinidog, rhyw olwg barchus yn ei wisg

Ond yn suth ar ol gorffen Y Wisg Sidan bydd cwmni arall o Gaernarfon, Ffilmiau'r Nant, yn symud yno i ddechrau ar y gwaith o baratoi cyfres arall ar gyfer sianel pedwar.