Gellwch gerdded yn hawdd o aber yr afon Ogwr ar hyd y traeth am tua dwy filltir a hanner nes cyrraedd Trwyn y Witsh dan Gastell Dunraven.
Mae'r clogwyni ger Trwyn y Witsh yn werth eu gweld oherwydd mae'r haenau o garreg galch a siâl Lias yn llawn o ffosiliau Gryphea yn ogystal ag amonidiau a nautiloidiau.