Y modd o weithredu a ddewiswyd ganddynt i'r gymdeithas oedd cyhoeddi misolyn, yn bennaf i ymgyrchu yn erbyn egwyddor yr eglwys wladol, ond hefyd i hybu achosion radicalaidd yn gyffredinol.
Fy marn i yw mai'r hyn sy'n esbonio amrywiol gyfeiriadau ymchwil y Llyfrau Gleision yw bod y Llywodraeth, a chymryd pethau yn y modd symlaf posibl, yn awyddus i weld sut y gallai hi wella'i gafael ar ymddygiad y Cymry, ond fod Kay-Shuttleworth, ac efallai Symons a Johnson, yn awyddus i ddod o hyd i dystiolaeth ddigamsyniol dros sefydlu cyfundrefn o addysg wladol - ac nid i Gymru'n unig swydd.
Yr oedd y dadleuon yn gwrteithio'r tir a byddai datgysylltu'r eglwys wladol yn tyfu'n brif achos radicaliaeth Gymreig ynddo yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Yn ei ymosodiad ar gyfrol Ellis Annwyl Owen yn y Seren Ogleddol, cyfyngodd ei feirniadaeth i offeiriadaeth yr Eglwys Wladol, gan honni bod trefn yr eglwysi anghydffurfiol yn sicrhau duwioldeb eu gweinidogion hwy.
Credai'r gwirfoddolwyr mai dod ag addysg o dan ddylanwad yr Eglwys Wladol oedd nod y Llywodraeth, tra dadleuai'r garfan honno a oedd yn barod i dderbyn grantiau, fod y Cymry'n rhy dlawd i gynnal eu hysgolion a'u colegau eu hunain, ac y dylid manteisio ar y cymorth.
Dewch gyda mi i gyfnod llawer nes atom, pan oedd adfywiad cenedlaethol Cymru yn hawlio Datgysylltiad yr Eglwys Wladol yn etholiad cyffredinol 1880.
Er gwaethaf yr holl Seisnigrwydd, yr oedd yn yr Eglwys Wladol yn hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf nifer o offeiriaid a oedd yn fawr eu gofal dros y diwylliant Cymraeg ac a ymdrechai i Gymreigio bywyd yr Eglwys.
Am fod Eglwys Loegr yn sefydliad gwladwriaethol Seisnig, ac y rhai a fynnai fod yn angymdeithas sifil Seisnig, ystyriwyd y rhan a fynnai fod yn annibynnol arni, boed y rheiny yn Annibynwyr, yn Fedyddwyr, yn Bresbyteriaid neu'n Grynwyr, yn fygythiad i'r drefn wladol Seisnig, gyda digon o reswm fel y dangosodd Cromwell.
A yn ei flaen i awgrymu mai un ateb i'r dirgelwch yw fod y Llywodraeth yn ystyried Cymru fel maes posibl i leoli cyfundrefn arbrofol o addysg wladol.
Priodolai Burgess hyn yn rhannol i Seisnigrwydd yr Eglwys Wladol ac anallu ei chlerigwyr i bregethu yn Gymraeg, a gwnaeth ei orau i osod clerigwyr Cymraeg eu hiaith mewn plwyfi Cymraeg.
Bu gwrthgymreigrwydd esgobion a phersoniaid yr Eglwys Wladol a'u gelyniaeth i'r Gymraeg yn rhan fawr o'r ddadl o blaid Datgysylltiad, yn rhan hefyd o ddadl y Degwm.
"Pethau celyd a llymion a ddywedid flyneddau yn ol yn y Seren am yr eglwys wladol, ac wele wr Llen tan yr enw 'Gwr lleyg', a ddaeth i'r maes yn rhyfeddol hyf a gorchestol i'w amddiffyn; ond cyn pen hir efe a ddychrynodd ac a synodd, a ofidiodd ac a gywilyddiodd, ac a ddiangodd, gan rym ei wrthwynebwyr, a'r holl edrychwyr yn chwerthin, a'r holl eglwyswyr yn cnoi penau eu bysedd".
Tra oedd un adran ohono yn parhau ar hyd yr un llinellau, gan feddwl yn unig am gryfhau a sefydlogi'r Eglwys Wladol, yr oedd adran arall yn gofyn y cwestiwn, tybed ai Eglwys Loegr oedd y wir eglwys wedi'r cyfan?
Gwadu y cyhuddiad a wnaeth golygydd newydd Seren Gomer; "Egwyddorion ein Cyhoeddiad a gadwyd hyd yma yn ddilwgr", meddai, ond defnyddiodd Seren Caernarfon enghraifft gohebiaeth Hughes ei hun yn Seren Gomer ar fater yr eglwys wladol er mwyn profi ei bwynt: