Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wledig

wledig

Ar hyd y blynyddoedd, fe fu sawl sgandal o'r fath - Beddau'r Proffwydi gan WJ Gruffydd yn amau moesoldeb ambell flaenor; y gerdd Atgof gan Prosser Rhys yn awgrymu fod perthynas hoyw yn bosib yn Gymraeg ac awdur Saesneg fel Caradoc Evans yn ennyn melltith am weddill ei oes oherwydd ei bortread di-enaid o'r gymdeithas wledig, grefyddol, Gymraeg.

I ychwanegu at y dryswch, y mae mwy o Saeson yn flynyddol yn prynu siopau yn y Gymry wledig, yn cadw tai bwyta a gwestai, yn sefydlu meysydd carafanau a chrochendai.

Hyd yn hyn mae'r gyfres wedi teithio i bob cwr o Gymru ac wedi trafod yr holl bynciau llosg syn corddi y Gymru wledig ar Gymru drefol.

(b) Dyluniad Cartrefi yng Nghymru Wledig Astudiaeth Ymchwil y Cyngor Cefn Gwlad CYFLWYNWYD adroddiad y Prif Swyddog Cynllunio y derbyniwyd yn ddiweddar gopi o'r adroddiad uchod gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru gyda chais am sylwadau'r Cyngor arno.

Nid oes le i gredu i'r un gof wneud ffortiwn ariannol, ond cafodd y rhan fwyaf ohonynt fwynhad yn eu gwaith drwy wasanaethu'r gymdeithas wledig yn ufudd ar bob adeg.

Yn groes i'r gred boblogaidd, mae'r defnydd a wneir o ysgolion cynradd gan y gymuned wledig yn isel iawn.

BYDD Bwrdd Datblygu Cymru Wledig, mewn cydweithrediad a Chymdeithas Pêl-droed Ysgolion Cymru, yn noddi Gŵyl gyntaf Cwpan Cymru Wledig Ebrill nesaf.

Cenedl fach iawn wledig oedd Cymru, yn meddu ar ychydig o gannoedd o filoedd o boblogaeth yn unig, heb brifddinas debyg i Gaeredin neu Rennes a feddai ar seneddau y pryd hynny, neu Ddulyn a gâi senedd am gyfnod yn y ganrif nesaf.

Os ydych yn byw mewn ardal wledig, efallai y byddwch am weithio yn eich tref leol.

Nid maestref oedd Penrhosgarnedd ei ieuenctid, ond cymuned wledig, amaethyddol gan fwyaf, a'i bywyd yn troi o gwmpas gwaith y tymor, addoldy, ffair, a phlas Y Faenol.

Gwrthodwn yr honiad na all ysgol wledig fach fod yn ysgol dda o ran yr addysg a gynigir.

Mae hyn oll yn dod yn fater brys iawn erbyn hyn oherwydd - cyn diwedd 1999 - mi fydd yn rhaid i bob ysgol wledig (yn ôl statud) ffurfio ei Bwrdd Llywodraethol unigol.

Dros y blynyddoedd, mae llawer wedi gadael y dref fechan wledig yma ar gopa'r bryn ac wedi clywed am yr holl gyfoeth, yr holl fyw braf a'r holl hwyl sydd yna i'w gael yn y ddinas.

A Light on the Hill - Helen Griffin a Nia Roberts Gyda'r actores Nia Roberts, a gafodd ei henwebu am Oscar, ymdriniodd Bogdanov ag argyfwng Cymru wledig mewn modd sensitif.

Mae Cymdeithas yr Iaith hithau yn y broses o wneud arolwg o'r posibiliadau ledled Ceredigion a Chaerfyrddin gan ddanfon holiadur (mwy cynhwysfawr nag eiddo Cyngor Ceredigion) at lywodraethwyr pob ysgol wledig yn y ddwy sir.

Ac mae Cyfeillion y Ddaear a Chyngor Diogelu Cymru Wledig hefyd wedi beirniadu'r cynllun adnewyddu am nad yw yn cynnwys unrhyw waith insiwleiddio a bod y tai yn colli cymeriad oherwydd y defnydd o pebl dash a ffenestri plastig gwyn.

Deffrodd yr ymgyrch deimladau dwfn trwy Gymru oll, lawn cymaint yn yr ardaloedd diwydiannol ag yn y Gymru wledig.

Cymuned o bobl wledig oedd hi, heb sefydliadau, a chyn bo hir heb noddwyr i'w diwylliant.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi anfon llythyr heddiw at y Prif Ysgrifennydd, Rhodri Morgan yn cyhdo'r Cynulliad Cenedlaethol o fradychu'r Gymru wledig trwy eu penderfyniad i wrthod apel rhieni Bwlchygroes Sir Benfro, i gadw eu hysgol ar agor.

Fodd bynnag, mae'n hanfodol bod sector y amaethyddol yn parhau yn gadarn a llewyrchus, nid yn unig fel un'r prif ffynonellau incwm, ond hefyd fel ffactor i gynnal y boblogaeth wledig gynhennid, cadwraeth y tirwedd ac i sicrhau parhad hunaniaeth diwylliannol a ieithyddol ardal y Parc.

Amhosibl anghofio, mor gariadus-fanwl a naturiol yw'r darlun a roir yma o fywyd diflanedig Ceredigion wledig, mai profiad yr awdur yw deunydd y ddrama-gerdd.

Mae yna gydweithio rhwng y colegau, yr adran addysg o'r cyngor sir a'r gerddi er mwyn creu swyddi ac mae hynny yn beth da i ardal wledig, meddai'r Cynghorydd Huw John.

Nid fod Judith yn dioddef gormod o segurdod, er iddi gyfaddef fod y ffaith iddi fyw yn Arfon wledig, mor bell o brysurdeb cyfryngol y brifddinas, yn eithaf llestair.

Heblaw unigolion a theuluoedd fe ddaeth newydd-ddyfodiaid eraill i'n mysg yn ail chwarter y ganrif hon, sef y mudiadau newydd fel Sefydliad y Merched a Chlybiau'r Ffermwyr Ifainc, Cymdeithas y Capel, Dosbarth Allanol y Coleg a llawer o weithgareddau eraill a alluogodd y plwyf i ennill y lle blaenaf mewn cystadleuaeth sirol ar weithgarwch ardal wledig.

Fe'i ganwyd yn y tridegau yn nhalaith wledig La Rioja, yn fab i fewnfudwyr o Syria.

Yna'r tir yn y pellter yn ddim ond golchiad fflat o rug porffor, ond y blaendir yn wyrddach ac wedi ei rannu'n ddau gan lon wledig, droellog, a dim ond twts o waith brwsh yn awgrymu'r llwyni a'r glaswellt.

Testun can Glynne Davies oedd dadfeiliad y gymdeithas wledig honno y canodd beirdd y ganrif ddiwethaf iddi.

Heb gymoedd glo a gweithiau'r Deheudir troesai'r dylifiad pobl o Gymru wledig yn dranc i'r Gymraeg megis y bu'r newyn yn Iwerddon yn dranc i'r Wyddeleg.

Mae lefel yr ymlyniad yn amrywio e.e. ym 1987, bu bygythiad i gau Ysgol Llanfihangel-ar-Arth (a leolir yng nghanol pentref nad sydd ag unrhyw neuadd arall) ac hefyd Ysgol Penwaun (a wasanaethai ardal wledig wasgarog). Achubwyd y naill a chaewyd y llall.

Yr oedd rhyw angladd mewn cymdogaeth wledig fel Cwm-garw y pryd hwnnw, lle'r oedd y tai yn anaml, yn beth i sôn amdano, ond heddiw dyma angladd cymydog, angladd perthynas, angladd hen ddyn yr oedd y gymdogaeth yn ei barchu a'i anwylo, - angladd ewyrth Richard Cwm- garw, yn codi o'r tŷ o fewn lled dau gae i'n tŷ ni.

Ar ôl mynd heibio i Lanafan Fawr mae'n werth oedi peth a throi i'r chwith ar hyd y ffordd gul wledig i ben uchaf Cwm Chwefri.

Mae ein hanghenion ni yng Nghymru - ac yn enwedig yn y Gymru wledig gyda llawer o ysgolion bychain - yn gwbl wahanol.