Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wleidyddiaeth

wleidyddiaeth

'Y wleidyddiaeth ddim yn uniongred.'

Fe wyddai gystal â neb am wleidyddiaeth, ac y byddai Genoa o bryd i'w gilydd yn cyflawni rhyw gamwri yn y rhyfel masnach â Fenis, ac y byddai'r elynddinas honno yn ei thro yn gwasgu ar ei chynghreiriaid er mwyn gwneud pethau'n anodd i'w ddinas enedigol yntau.

Wrth edrych yn ôl byddaf yn aml yn rhyfeddu at fy hyfdra a'm digywilydd-dra'n mentro mynd allan i annerch ar wleidyddiaeth.

`Cael ysgwyd llaw â 'nghefnder yn ei gegin ei hun'; sgrifennu am arferion byw yr Americanwyr cyffredin; `cael cyfle hefyd i ysgwyd llaw â rhai o'i ddynion cyhoeddus'; rhoi blas o wleidyddiaeth a pholisi; `gweled hefyd rai o olion y galanasdra ofnadwy diweddar'; fel newyddiadurwr o'r iawn ryw, cyfleu rhywfaint o gyffro'r funud.

Dydi Dei Bach ddim yn rhy hoff o agwedd Rhodri at wleidyddiaeth.

Ceisia gyfleu ei deimladau i aelodau eraill y grūp ond eu hunig ymateb yw mynnu bod yr amser am emosiwn heibio ac mai'r hyn sydd ei angen yn awr yw strategaeth a chanllawiau pendant ac astudiaeth o wleidyddiaeth, nid datganiadau o dristwch neu ddicter na hyd yn oed o lawenydd.

oherwydd y drwg mawr a all ddigwydd i lenyddiaeth o'i throi hi'n israddol i wleidyddiaeth a phroblemau politicaidd, megis pwnc yr

Yr oedd y ddau ddirprwy swyddog arall, JE Daniel ac Ambrose Bebb, yn fwy profiadol ac yn gallach, a gwnaethant un peth a ddangosodd fwy o syniad am wleidyddiaeth ymarferol nag a oedd yn gyffredin yn y Blaid yn y cyfnod hwnnw.

Prin oedd gwybodaeth y rhan fwyaf am wleidyddiaeth gymhleth y Dwyrain Canol, ond nhw, nid yr academyddion na'r diplomyddion gartref oedd ar yr union adeg hynny yn newid y darlun.

Ond am wleidyddiaeth gyfoes dywedodd Lingen mai Saeson o Loegr a ddygai bob cyffro gwleidyddol i'r meysydd glo Cymreig, a dyna ragweld y Seisnigo ar y mudiad Llafur a oedd i ddwyn Keir Hardie o Glasgow i fod yn arweinydd y Cymry.

Golwg ar wleidyddiaeth a hunaniaeth genedlaethol yr Eidal.

Hanes dylanwad y blaid ar wleidyddiaeth yr ugeinfed ganrif.

Nid oeddwn erioed wedi dweud gair ar wleidyddiaeth yn gyhoeddus.

Does arna i ddim isio bod yn unben a 'does arna i ddim isio gweld neb arall yn un chwaith, felly mi gadwa i hynny o wleidyddiaeth sy' gen i i fi fy hun.

Mae pob math o bynciau yn cael sylw ar y rhaglen - chwaraeon, cerddoriaeth, gwyddoniaeth, ysgol, yr amgylchedd, straeon doniol a thrist, a hyd yn oed wleidyddiaeth weithiau.