Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wlyb

wlyb

Yr oedd ei flew o'n wlyb, fe deimlwn hynny drwy'r sanau.

Byddai'n demtasiwn i chwi sefyllian yno nes bo llech y preseb yn wlyb lân, a'r tafod chwilgar garw yn hel y gronynnau o flawd a gollasid ar lewys eich siaced.

Pob man yn wlyb heno er bod y glaw wedi diflannu ers oriau.

Taranau yn Ionawr, blwyddyn wlyb.

Mae llawer rheswm rhag i dwll 'fynd allan'; o bosib fod y fuse wedi torri, neu ei fod yn wlyb ac felly yn araf iawn yn llosgi, neu efallai nad yw'r ddau ddyn wedi ei osod mewn cyffyrddiad â'r powdr.

"Tynnwch y siwt wlyb 'na ar unwaith," meddai, gan daflu'r gŵn ati.

Rywfodd, gallaf fu nychmygu fy hun yn awr yn sefyll yn reit ofnus o flaen y sbectol hynny mewn un o'i lysoedd yn Aberdar neu Ferthyr - am resymau amlwg efallai - ac yntau'n syllu'n ddigon llym ac eto'n eironig chwareus ar y fath ffigur llipa, ac ar ol tawelwch hir go arwyddocaol yn ebychu'n wlyb i ganol fy llygaid - 'Eilradd, ai e?' Oedd roedd yn bryd i mi ostwng pen ryw ychydig.

Mae gan Gymru hinsawdd arforol gyda gwyntoedd gorllewinol yn dod â glaw ym mhob mis o'r flwyddyn, ac yn aml meddylir am Gymru fel gwlad wlyb.

"Pam oedd golwg mor ofnadwy ar 'nhad, gyda'i jersi yn wlyb ac yn dyllau i gyd?

Yr oedd yn Nadolig sobor o wlyb ac oer, pistyllai'r glaw trwy'r dydd ond nid oedd arwydd o'r hyn a fawr ofnir yma, sef eira.

Angharad fach yn fyw i gyd ac yn chwerthin a dotio, a phawb yn wlyb doman.

Roedd ei geseiliau'n socian a'i lawes yn wlyb diferyd.

Pan straffagliais allan o'r dŵr fel chwiadan wlyb a drewdod y mwd yn fy ffroenau, yn y pellter, newydd ymddangos o'r coed, sleifiau Talfan a'i griw, a'i wn yn hongian dros ei ysgwydd.

Mae'n bwysig i mi beidio â cholli gobaith." Ond y foment y dechreuodd ei galon godi, teimlodd rywbeth fel braich hir wlyb yn cau am ei wddw.

Roedd yna hen frawd o'r plwy yn agor ffos lled ddofn mewn cae go wlyb.

Ac yn wahanol i'r ynysoedd bychain a oedd yn wlyb a chorsiog, mae'r darn hwn o dir yn hollol sych.

"Dyna pam yr oedd tyllau yn eich jersi felly," meddai Louis, "ac yn wlyb gan y poer yn disgyn o geg Rex."

Pan yn wlyb credir bod asbestos yn ddiogel ond achosir problemau pan mae'n sych a ffibrau'n cael eu chwythu yn yr awyr.

Ond roedden nhw'n methu'n lan a deall pam roedd y Romans clyfar yma yn molchi a mynd i byllau nofio mor aml a hithau mor wlyb bob dydd.

Roedd yr awyr yn fyglyd, yn wlyb a llaith ac yn llwythog gan aroglau gorfelys tegeiriannau trofannol yn eu blodau.

Oherwydd eu tueddiad i fod yn wlyb ac asidig mae cyfran uchel o briddoedd Cymru yn addas ar gyfer tyfiant porfa arw neu barhaol yn unig.

Wannwl dad, rwyt ti'n wlyb soc, fachgen, cer i'r cefn i dynnu'r hen garpiau gwlybion yna oddi amdanat mewn dau funud, mi gei di ddigon o dyweli yn y cwpwr cynnes, dyna chdi.

Un noson gwthiodd moryn ddrws ei ystafell yn agored pan oedd yn ei wely nes yr oedd yn wlyb domen.

Ond pan fo'r ddraenen wen yn wych hau dy had boed sych neu wlyb." Mewn geiriau eraill mae'n iawn i beidio rhuthro i hau nes bo'r ddraenen wen yn ei blodau ond mae hynny ymhell i ffwrdd eleni.

Dwi'n wlyb at fy nghroen ac mae'r carpiau bratiog yma sgynnai'n llac amdanai, yn da i ddim yn erbyn yr oerfel sy'n gafael ym mêr fy esgyrn, waeth gen i pa mor hudol bynnag ydyn nhw, ac mae hi'n mynd yn hwyr.

Roeddent yn loyw wlyb rhwng ei gwefusau main, gor-dyn.

Pan ddaeth y ddarlith i ben hanner awr yn ddiweddarach, yr oeddem ni i gyd yn wlyb at ein crwyn!