Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wnaeth

wnaeth

O'i safle saff yn un gornel o'r stafell fe wnaeth ystumiau a oedd yn groes rhwng stumiau babŵn gwyllt a dawns y blodau.

Credant hwy fod yr ymdrech a wnaeth i ddiwygio'r drefn ar fin methu'n llwyr oherwydd ei fod ef yn rhy gaeth i'r hen sustem gomiwnyddol.

Cychwyn sefydliadau crefyddol fel mynachlogydd Celtaidd lle y gellid ymarfer â'r bywyd santaidd a wnaeth rhai o'r penaethiaid hyn.

Dyma'r ymgais olaf a wnaeth yr Eglwys Ladinaidd i dra-arglwyddiaethu ar yr Eglwys Geltaidd a phrofodd yn llwyddiannus.

Roedd en dechraur gystadleuaeth gyda thipyn o record ar ôl helpu ei wlad i ennill Cwpan y Byd a wnaeth ddim byd i dynnu oddi ar ei berfformiad bryd hynny - nar ddawn ar gallu sy gandd fe.

`Gyda phleser,' ebe Harri, `ond i chwi fod yn gyfrifol i mi am ganpunt os digwyddiff rhwbeth iddo.' `Dim peryg,' ebe'r Yswain, ac ychwanegodd, `ond tyrd dy hun efo ni, mi fydd yn dda gen i dy weld yn y cwmni.' Diolchodd Harri iddo, a theimlai yn hynod o hapus fod ei feistr tir wedi ei wahodd i ymuno â'r boneddigion oedd yn myned ar ôl y cŵn ddydd Llun, ac ni wnaeth efe ddim arall bron hyd y dydd penodedig ond ei daclu ei hun a'i geffyl ar gyfer yr amgylchiad.

Lliwiau ffenest siop oedd lliw y cynhaeaf hwnnw, a gwneud y gorau ohono wnaeth yr adar.

Ni wnaeth Sam ond hynny yn unig .

Ond fe wnaeth hi wella a phan glywodd hi na fuasai hi'n medru cerdded ar ei phen ei hun am ddwy flynedd daliodd i fynd i'r ysgol yn y boreau ac i gael ffisiotherapi yn y prynhawniau.

Chwerwi wnaeth perthynas Jason a'i fam.

Fe wnaeth Lloegr wharen well yn erbyn Portiwgal - a cholli.

Tra mae o'n chwarae mae o'n hapus a mi wnaeth o gadw i fynd.

Roedd y cerflun enfawr a wnaeth o dywod yn enghraifft o gynnyrch y cyfnod hwn.

Ond 'wnaeth e mo hynny erioed.

Nid Savarese na Romo ond Morus wnaeth yr argraff fwya ar y Vetch neithiwr.

Cyfuno deunydd a fenthycwyd o'r Brut ac o ramant Ffrangeg, y Merkn en Prose (rhan o Gylch y Fwlgat) a wnaeth awdur anhysbys y testun a adwaenir heddiw fel 'Genedigaeth Arthur', er enghraifft, ac a gadwyd yn llsgr.

Wnaeth hi ddim ennill mewn sioe bysgod, ond fe wnaeth ei phlant yn dda iawn.

Oddiwrth y meirw cododd ef, Ac esgyn wnaeth i nef y nef, Er achub rhai mor wael â ni, A'n codi i'r uchelder fry.

Llongyfarch Joschka Fischer 'am ei waith ardderchog ac am ei weledigaeth' a wnaeth Chirac, gan dynnu blewyn o drwyn Jospin yn gyhoeddus.

Fe glywsoch fod y Cynghorydd Huw Pyrs yn ymfudo i'r America?" "Do." "Wnaeth o ddim byd erioed i haeddu bod ar Gyngor y Dref.

Cofiant y gðr busnes enwog a wnaeth ei ffortiwn drwy wersylloedd gwyliau.

Ar yr un noson cafwyd Arthur C Clarke - A Man Before His Time lle bu henadur ffuglen wyddonol yn siarad am ei fywyd, ei waith ar proffwydoliaethau a wnaeth - gan gynnwys dyn yn cerdded ar y lleuad.

Yn ystod ei gyfnod yn y fyddin, fodd bynnag, mae'n disgrifio un weithred arwrol a wnaeth pan yn croesi Môr India.

Datblygu o'r coed cyntefig yma, efo'i dail fel nodwyddau a'i ffrwythau yn foch coed, wnaeth y coed llydan eu dail.

Colli wnaeth y Kurdiaid; yn wir, dyna fu eu hanes erioed.

Gwrthod caniatâd i'r cynghorwr gobeithiol a wnaeth y Pwyllgor Gwaith; yr oedd y rhan fwyaf o'r aelodau'n pallu credu na ddeuai'r cynghorau i wybod mai oddi wrth y Blaid y daethai'r cynllun, ac felly tybient fod cystal i'r Blaid fynnu clod cyhoeddus am gyflwyno cynllun pwrpasol, er na ddeuai dim budd o'r cyflwyno.

Roedd hen dwnnel tanddaearol, gannoedd o droedfeddi islaw, wedi mynd â'i ben iddo a'r tri thŷ uwchben a fu'n gartrefi, efallai, i rai o'r coliars a wnaeth y twnnel, wedi disgyn yn domen flêr o gerrig a fframiau ffenestri, ac yn lle chwarae bendigedig i blentyn wyth oed.

Canu can y cor a wnaeth Elfed, a gwneud hynny'n argyhoeddiadol urddasol; a gosododd ei batrwm yn gynnar.

Dŵad ymlaen ata' i wnaeth hi ar ddiwedd sesiwn o Taro i Mewn yn Festri Salem, un bore Mawrth, i ddiolch am y cwmni a'r gymdeithas gan ychwanegu, ar yr un gwynt, na ddaru hi ddim deall gair o'r Myfyrdod Cymraeg.

Nid bywyd ynysig ar wahân i'r boblogaeth ehangach yw gwleidydda yma, yn rhannol efallai am nad symud yma a wnaeth yr aelodau mwyaf gweithgar.

Dyna wnaeth iddo fe ddwgyd pethe ambell waith, i ddial arnyn nhw, a gweithio siape arnyn nhw trwy'r ffenestri ...

Roedd gêm gyfartal yn ganlyniad teg ac o leia wnaeth Abertawe ddim colli am y pedwerydd tro yn olynol.

Fe wnaeth e ddinistrio'r gêm - dim gadael iddi lifo o gwbwl.

Dim ond gwrando ar Mr Blair yn y gynulleidfa wnaeth yr Ysgrifennydd Tramor, Robin Cook.

Ef a wnaeth y rhan fwyaf o'r gwaith o ddiwygio iaith y Beibl Cymraeg cyn cyhoeddi argraffiad 1620 ohono yn dilyn cyfieithiad cyntaf Morgan.

digwydd taro yn fy mhen i wnaeth y syniad pan oedden ni y tu allan.

Ac felly o dipyn i beth mi wnaeth yr sefyllfa argraff arna i.

Roedd y tric hwnnw wedi gweithio o'r blaen ond heddiw wnaeth o ddim ond peri i Guto ac Owain floeddio'n uwch.

Yr hyn a wnaeth yr arbenigwyr hyn oedd darganfod y ffyrdd gorau i "ddatblygu% ein darnau ar y cychwyn - er mwyn trefnu ein hymosodiad ar y Brenin, tra ar yr un pryd yn diogelu ein darnau ein hunain gan gynnwys y Brenin, wrth gwrs, rhag perygl.

Y peth cyntaf wnaeth o oedd mynd i faes awyr.

Beth felly wnaeth ennyn eich diddordeb chi yn yr iaith?

Ennill am yr eildro yn unig yn y Cynghrair wnaeth Glyn Ebwy neithiwr.

Os nad oes, mae o leiaf dwy ffactor y gellir eu hystyried:- (a) Mae'r hyn a wnaeth, wedi ei wneud pan oedd yn blentyn y byd hwn, yn ddieithryn i wladwriaeth Israel Duw, ac o dan lywodraeth tywysog llywodraeth yr awyr.

Ennill wnaeth y pencampwyr, Manchester United, 2 - 0 ar faes Celtic yng ngêm dysteb capten ac amddiffynnwr y clwb o'r Alban, Tom Boyd.

Pleser i'r gof hefyd ddydd y tynnu oedd fod popeth a wnaeth yn gweithio er daioni.

I gymharu â siroedd Penfro ac Aberteifi, ym Morgannwg roedd llawer o'r plant yn llai na phum mlwydd oed, a'r plant dros ddeg yn llawer prinnach, am fod cyfle ganddynt i fynd i weithio yn y gweithfeydd, a dyna a wnaeth i Lingen gefnogi nid yn unig ddeddfwriaeth yn erbyn gadael i blant bach weithio, ond hefyd i roi pwys ar ganolbwyntio ymdrechion i gael ysgolion babanod yn yr ardaloedd diwydiannol.

Fe'i cefais yn ddyn hawdd i weithio iddo ond gadael a wnaeth, a hynny er mwyn mynd at waith arall.

Yr Athro Brekham, pennaeth Sefydliad Bywydegol yn Vladiuostok, a wnaeth rai o'r arbrofion cynharaf.

Ond cofiaf yr un mor dda hefyd sylwi mai gwrando'n astud ar ei gap¨en wnaeth lan.

Rwan dyma ddod wyneb yn wyneb a'r doctor, ond chwarae teg iddo, wnaeth o ddim ond curo'n brest ni.

Beth a wnaeth John Jones?

Deil y Deon Church na wnaeth codi cofeb y merthyron fawr o wahaniaeth iddo ymledu yn Rhydychen ac yn y wlad oddi allan.

Ni wnaeth dim gynaint o ddifrod ar y ddaear â newyn a phrydferthwch.

Dros nos yr oedd gan Hendry fantais o 6 ffrâm i 2 a pharhau wnaeth ei feistrolaeth dros Hunter y bore yma.

Wnaeth e mo'i brifo ond doedd e ddim yn dyner chwaith.

Yn wyneb hyn, gellir ond diolch i'r drefn mai nid yr hyn a wnawn ni sydd yn ein gwneud ni'n seintiau, ond yr hyn a wnaeth Crist drosom ni.

'Roedd angen ennill y cwpan arnon ni i gael rhywbeth o'r tymor ond wnaeth hynny ddim digwydd.

Er bod Mr Parri flynyddoedd lawer yn hŷn, wnaeth o ddim anghofio unwaith!) Ar ddechrau pob cyfarfod, byddem yn cael paned o de i'n cynhesu ni ar ôl cerdded i lawr yma drwy'r gwynt a'r glaw.

A chlywed am yr hwch a'i pherchennog wnaeth o, ar y cynta', yn hytrach na'u gweld nhw, ac o ganlyniad, bu'n rhaid i'r ddau duthio ar ôl y bus am gryn hanner canllath neu well cyn cael mynediad iddo.) Gwaith digon dyrys oedd cael hwch i ddal bus o dan amgylchiadau cyffredin ond pan oedd honno â'i hanner ôl wedi'i glymu mewn bag peilliad roedd y gorchwyl yn anos fyth.

Mae yn siwr na wnaeth fy argymhelliad ansicr yn oriau mân y bore ddim llawer o ddrwg i'r un o'r ddau felly.

Ymdrechion meistrolgar fel yna wnaeth yn sicr ei fod yn fwy poblogaidd oddi cartref nag yn ei wlad ei hun.

Roedd ef yn fyd-enwog, a dysgu Anatomeg a wnaeth ar hyd ei oes.

Nodwedd arall a berthynai i'w gymeriad a'i gynnyrch oedd cadernid a phendantrwydd, a hyn a wnaeth ei olygyddiaeth, fel ei weinidogaeth, yn rymus ac effeithiol.

Roedd yn un o hyrwyddwyr cynnar Mudiad Cymru Fydd, ac yn un o'r bobl hynny a wnaeth Lloyd George yn bosibl.

Wrth gwrs cynyddu wnaeth y fasnach yn yr harbwr fel y daeth pobl i wybod amdano.

Wnaeth Williams fawr o'i le ond roedd y niwed wedi'i wneud gyda Higgins ar y blaen o saith ffrâm i ddwy.

'Wyt ti'n siŵr na wnaeth o fawr o'i le?'

fe wnaeth betty parker gamgymeriad felly, " meddai hi.

Mae'n rhaid mai nhw wnaeth.

Bwrw gwa~rd ar awgrym yr undcbau ar.~ gynnal cyfarfod rhyngddynt hwy a'r cwmniau a wnaeth Granet hefyd:

Colli wnaeth Abertawe, 1 - 0, yn Port Vale ddoe.

Wnaeth yr un ohonon nhw erioed awgrymu y dylwn ddefnyddio cadair olwyn.

Ar y dechrau ymgolli yn y digonedd a'r moethau a wnaeth y pedwar, gan feddwl meddiannu'r cyfan eu hunain.

O ran hynny mi wnaeth y cawg anfon cardyn i minnau yn ymddiheuro am y pen.

Er mai prin oedd y stori%au Nadolig hefyd, gan ein bod ni yng Ngorllewin Beirut yn yr ardal Foslemaidd, mi ddigwyddodd un peth a wnaeth imi deimlo'n freintiedig fy mod i yno.

Fe wnaeth Lloegr whare'n well yn erbyn Portiwgal - a cholli.

Fe wnaeth ef y rhain yn ieirll ar y Gororau nid yn unig er mwyn iddynt amddiffyn ei deyrnas ef ei hun rhag y Cymru ond hefyd er mwyn iddynt filwrio yn erbyn y Cymry a thrawsfeddiannu cymaint o'u tir ag a ddymunent neu ag a allent.

Enillodd Cymru bob un o'r pum gêm ac fe wnaeth nifer o chwaraewyr argraff.

Beth wnaeth i chi ysgrifennu'r ddrama?

Yn ei waith fel amaethwr - y cofiwn Y cyfaill di-gynnwr'; Fel cloc rowndio'r stoc heb stwr A wnaeth nes methu neithiwr.

Ond mae Ifan yn edifar iawn am be wnaeth o, Mrs bach, neith o'm digwydd eto.

Ond gwrthod unrhyw feirniadaeth a wnaeth y Cynghorydd Davies.

(Pe bawn i yn anghywir, buasai Mr Hulse wedi sgrifennu i gywiro'r gwall: ni wnaeth hynny, felly mae'n rhaid fy mod i'n iawn.)

Ond ysgwyd eu pennau a wnaeth y tri arall ac edrych i lawr ar gefnau eu ceffylau.

(Os darllenir y llinellau hyn gan rywun, diamau yr ystyrir fi yn ffôl yn cofnodi pethau mor wirion.) Yr oeddwn yn gobeithio yr eisteddasai Dafydd yn hen gadair ddwyfraich Abel; ond ni wnaeth hynny, a chymerodd y gadair yr arferai efe eistedd arni pan oedd Abel yn fyw.

Rydym yma'n talu gwrogaeth i'r talentau aml-ddoniog yng Nghymru, Lloegr a Rwsia a wnaeth y gamp hon yn bosibl.

Ym Mhrydain gwnaed camau ymlaen ond ar raddfa lai (gweler gwaith megis yr hyn a wnaeth McKee, Martin a Wignal) ond tueddent i adlewyrchu y problemau a godai yn nyfroedd Prydain sydd fel arfer yn oer eu tymheredd ac yn anodd gweld ynddynt.

Gweld hysbyseb mewn papur newydd wnaeth hi, am swydd mewn ysgol i'r deillion yn Jerusalem.

"Wnaeth neb drafod y pwnc 'da fi - wyddwn i ddim a oeddwn i'n gyfrifol mewn rhyw ffordd am yr hyn oedd wedi digwydd iddi ac am eu bod hi'n mynd i ffwrdd," meddai.

Fel y gŵr drwg ei hun." "Cychwyn i'r lle chwech wnaeth hi," meddai Mam, "ond welson ni ddim golwg ohoni wedyn.

Tra oedd yr hyn a gafodd ei alw'n 'drafodaeth lloches' yn mynd rhagddi yn y Bundestag, parhau a wnaeth ymosodiadau'r Neo-Natsi%aid.

A dyna a wnaeth o ag un sgŵd ddiamwys.

Pwysleisiodd yn ei ddatganiad fod gan John Hollins ddwy flynedd arall o gytundeb fel rheolwr - mi wnaeth o arwyddo'r cytundeb yn gynharach yn y tymor - a bod cwmni Ninth Floor, perchnogion presennol y clwb yn bwriadu parchu'r cytundeb hwnnw.

A'r diwrnod gwaith ar ben, a'r gof, yn ŵr lluddedig, wedi rhoi o'r neilltu ei ffedog ledr, eto, 'roedd un gorchwyl yn ei aros, sef rhoi i lawr yn ei lyfr cownt fanylion am bopeth a wnaeth i'w gwsmeriaid yn ystod y dydd.

Mewn gwirionedd, yr hyn wnaeth e oedd dangos effaith cyfalafiaeth - cydymdeimlo'n llwyr â'r glowr yr oedd e." Roedd y darlun yn Cwmglo yn un cwbl gywir yn ôl un o ffrindiau Kitchener Davies o'r Rhondda, y nofelydd a'r bardd Rhydwen Williams, un o'r ychydig prin sydd wedi sgrifennu'n blaen am fywyd y cymoedd glo.

Un o'r pethau cyntaf a wnaeth y pwyllgor oedd cyhoeddi ffurflen y Ddeiseb.

Y flwyddyn ganlynol yn Ysgol Haf y Weinidogaeth Iacha/ u yn Aberystwyth, cymerais fendith dros ferch bedair ar ddeg oed a fu'n dioddef ers rhyw ddeng mlynedd gan ffurf ar y cryd cymalau a enwir ar ôl Syr George Frederic Still - y gŵr a wnaeth ymchwil yn y maes hwn - yn Salwch Still.

Nid fi oedd yr unig un a wnaeth hynny yng Nghaerffili yn ystod yr etholiad hwnnw.

Hi wnaeth ei marc yn Un Nos Ola Leuad.

Ond wrth droi hanes ei theulu'n ffuglen (a chymryd ei bod hi'i hun yn cyfateb i Owen), fe wnaeth rai newidiadau digon diddorol.