Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wnaethon

wnaethon

"Wnaethon ni jest beidio'i ddefnyddio fo yn Llanrwst.

Er i Loegr fod ar y blaen 2 - 0 yn erbyn Portiwgal ymhen ychydig dros chwarter awr mynd rhagddynt i golli wnaethon 3 - 2 yn eu gêm gyntaf yn Euro 2000.

Mi wnaethon nhw ildio'r meddiant yng nghanol y cae, lloriodd y golwr Jason Jones Stepan Molokutsko a sgoriodd Molokutsko o'r smotyn.

Mae'r sŵn mor uchel nes bod pawb yn ei glywed, dim ots ble maen nhw na beth wnaethon nhw.

Roedd nifer o chwaraewyr ifanc ar y cae ac fe wnaethon nhw'n eitha da.

Fe wnaethon nhw ei gadael hi'n hwyr.

Wedyn, fe wnaethon nhw raglen cadw'n heini personol i bob un ohonom, ar gyfer ymarfer adre.'

Ond wnaethon nhw ddim.

'Wedyn, mi wnaethon ni esbonio be oeddan ni isio iddyn nhw neud, a'u rhybuddio y byddan nhw'n cael eu gosod mewn rhwymau i newynu, tasan nhw'n gwrthod, a'r benywod yn cael eu lladd.

'Pob cyfle gawson ni, fe wnaethon nhw eu blocio nhw neu fe wnaeth eu golwr nhw arbed.

A hyd yn oed pan ddaeth Tomos Bartley a Touchstone þ wnaethon nhw ddim gwahaniaeth i Nedw.

Wnaethon nhw ddim dweud mai eu rhestr Nhw oedd hi ond roedd Sam yn dweud ei bod hi'n eitha siwr mai dyna beth oedd hi.' Ar hyn tawelodd Dilwyn wrth weld Gary'n nesu tuag atynt ac yn eistedd ar y gadair wag yn ei ymyl.

Ond ar ôl newid label wnaethon ni ddim gwerthu cymaint.

Fe wnaethon ni ddioddef, ond roedd yr artaith yn werth y boen.

Llwyddodd Kilkenny i gyrraedd y ffeinal llynedd a'r flwyddyn gynt, ond colli wnaethon nhw.

Ar ôl hir gysidro holl beryglon mynd i Iwerddon, mynd wnaethon ni.

Gwebost Gwyn (yn absenoldeb Glyn) Fe wnaethon ni benderfynu ddydd Sadwrn bod yn rhaid mynd i Aberystwyth ar Llyfrgell Genedlaethol i weld Llythyr Pennal ar Arddangosfa Owain Glyndwr.

A sawl gwaith yn y ffilm dywedir wrthym - rhag ofn na wnaethon ni ddeall y tro cyntaf - mai'r hyn a wnaeth y Siapaneaid wrth fomio Pearl Harbour oedd deffro cawr cwsg y byddai ei ddialedd yn awr yn erchyll.

'Roedd pob chwaraewr yn gwbod beth oedd ei waith e - yn gwbod beth oedd e'n gorfod wneud -ac i fod yn hollol onest fe wnaethon nhw eu gwaith yn wych.

‘Da Gorky 5 wnaethon ni adael i'r arlunydd wneud beth oedd e ishie ond ‘da Barafundle mi wnaethon ni wneud awgrymiadau a gwenud darluniau ein hunain.

'A'r camgymeriad a wnaethon ni oedd meddwl ein bod ni wedi dianc trwy dwnnel yn y gofod yn ôl i'r ddaear,' meddai Mathew.

"Gobeithio eich bod chi wedi mwynhau'r cyngerdd heno gymaint ag a wnaethon ni," meddai Anthony Freud, y llefarydd ar ran y panel beirniaid, cyn cyhoeddi enw enillydd y noson.

Ond colli wnaethon nhw, 3 - 2, yn erbyn Preston.

Roedd yr hyn wnaethon nhw yn gampus achos o'n i'n erfyn sgôr ofnadwy yn erbyn Cymru.

Yn rhyfedd iawn, wnaethon nhw ddim dangos dim diddordeb yn y camerâu na'r recordydd tâp oedd gen i - roedd e fel do-it-yourself spy kit!

Ac os gwelir gwelliant gweddol, yna mae rhywun wrthin holi pan na wnaethon ni yn well.

Mi all yr Etholiad Cyffredinol gael ei gynnal mewn cyn lleied â chwe mis ac mae'r blaid yn gobeithio gwneud yn well na beth wnaethon nhw yn 1997 pan fethon nhw ag ennill yr un sedd.

'Un peth doeddan nhw ddim isio'i wneud oedd ildio gôl yn y munudau cynta - sef yr union beth wnaethon nhw.

Yn y cwpwl geme cynta, fel och chi'n gallu gweld wrth y sgôr, wnaethon ni ddim whare gydan gilydd - fe wnaeth unigolion wharen dda - wedyn wrth i ni whare gydan gilydd fwy a mwy fe wellodd pethe.

Mi wnaethon greu sawl cyfle da i sgorio.

Cerddad wnaethon ni i draeth y Foryd, i lawr drwy Bont a Llanfaglan, ac er ei bod hi'n reit oer pan gychwynnon ni, erbyn i ni gyrraedd Eglwys Llanfaglan mi oedd yr haul yn twnnu'n braf a minna'n gweld y môr ymhell o'n blaena' ni'n las, las, las.

Yna wnaethon ni gyfieithu i'r Gymraeg i gael gigs Cymdeithas yr Iaith a bod ar Radio Cymru.

Priodi wnaethon nhw ac mi fuon nhw'n briod am ddeuddeng mlynedd.