"Rydym wedi cadw cymeriad y tai." Dywedodd, hefyd, fod y Cyngor yn falch o'r un math o waith adnewyddu a wnaethpwyd yn ardal Hirael, Bangor, lle roedd y tai yn edrych yn amrywiol, ac nid yn undonog o gwbl.
Deuthum i'r casgliad fod y cytundeb a wnaethpwyd yn Maastricht yn rhywbeth pur bwysig.
Is-bwyllgor Celf a Chrefft (Averill Thomas): Diolchodd Mrs Thomas i aelodau'r is-bwyllgor am y gwaith rhagorol a wnaethpwyd ar gyfer yr arddangosfa yng Nglynllifon.
Mae'n amhosibl yma olrhain yn fanwl y newidiadau a wnaethpwyd i lwybr Afon Cefni rhwng diwedd yr unfed ganrif ar bymtheg a chanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Wedi'r cwbl, y trefniant a wnaethpwyd efo'r cwmni oedd y buasai'r bws yn ôl yn y garej erbyn chwech.
Yn fynych iawn, un o'r pethau cyntaf a wnaethpwyd i fuwch a ddioddai o glwy'r llaeth oedd tynnu pedwar neu bum chwart o waed!
Diolchodd y Llywydd i bawb am eu cefnogaeth, cafwyd noson gymdeithasol hynod o lwyddiannus a bonws oedd yr elw sylweddol a wnaethpwyd.
Tra eich bod wrthi, sylwch hefyd fod darnau mawr o dywodfaen frown i'w gweld ar draws y traeth, a bod olion crychdonni'r Môr Triasig yn ogystal ac olion craciau a wnaethpwyd yn y mwd wrth iddo sychu dan yr haul Triasig tanbaid.
Iesu ydyw fy Nghreawdwr -Creawdwr uffern, dae'r a ne' Y cwbl hefyd oll a wnaethpwyd Er gogoniant iddo Fe; Ynddo'r cyfan sydd yn sefyll, Ei fysedd yn eu cynal sy; Fy enaid, dyma'r Un a hoeliwyd Draw ar fynydd Calfari.
Ond yr oedd o hyd un dewis hanfodol arall i'w wneuthur, a'r wythnos ddiwethaf wrth edrych trwy fy nodiadau, cefais hyd i nodyn a wnaethpwyd gennym mewn cyfarfod arall eto o'r grŵp yng Nghaergrawnt - wrth drafod a ddylai'r Blaid fod yn grŵp gwleidyddol ymwthiol neu'n blaid wleidyddol, ac y mae'r gwahaniaeth yn bwysig dros ben.
Nid oedd ei ddadl ond distylliad o ffeithiau ac opiniynau a gofyniadau a wnaethpwyd yn gyfarwydd yn yr holl gyhoeddiadau swyddogol a grybwyllwyd eisoes.
Bydd y sawl sy'n cymryd rhan yng ngwaith awdurdodau cyhoeddus a sefydliadau elusennol yn gyfarwydd â'r drefn o wneud amcangyfrif am y flwyddyn, ac un ffordd i edrych ar sefyllfa'r sefydliad ydyw drwy gymharu'r cyfrifon ar derfyn y nwyddyn â'r amcangyfrif a wnaethpwyd ymlaen llaw.
Yr oedd cynrychiolydd o'r pwyllgor addysg yn bresennol ymhob cyfarfod i roi cyfarwyddyd i'r rheolwyr ac ni wnaethpwyd dim nad oedd o fewn y canllawiau.
Mae hyn wedi arbed llawer o bentrefi rhag y difrod a wnaethpwyd i lefydd fel Harlech, Gaerwen a Dinbych yn y 1980au.
Negyddu'r ffaith hon a dilyn dull 'phrase-book' y ganrif ddiwethaf, a'i holl flerwch anhygoel, yw'r camgymeriad mwyaf a wnaethpwyd mewn datblygiadau diweddar wrth ddysgu ail iaith.
Ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf y mae'r swm sylweddol o ymchwil a wnaethpwyd gan nifer fawr o ysgolheigion wedi rhoi inni ddefnyddiau lawer i lunio barn gytbwys.