Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wnai

wnai

Crwydro o gwmpas y ffair, felly, a wnai ef, arogli'r sŵn, a lled gyfarfod a hwn a'r llall, heb dorri'r un gair a neb yn iawn, megis mewn sioe amaethyddol.

Ond bu rhaid iddo gyfaddef wrtho'i hun, yn anewyllysgar ddigon, fod golwg eithaf difater ar bawb - hyd yn oed y plant - a oedd yn y cerbyd hir, a'i galon ef yn carlamu gan gyffro eiddgar: a pharhau i guro'n gyflym a wnai pan gyrhaeddodd Paddington.

Meddyliwch am y defnydd a wnai pobol anghyfrifol yr oes a chorn siarad ar ochr y Stryd Fawr yn Stiniog!

Dim ond dros dro, wrth gwrs; fe wyddai'r Brenin mai gohirio pethau yn unig a wnai hyn, a bod eisiau cynllun llawer gwell a llawer gwell a llawer mwy cyrhaeddgar i ddiogleu'r wnionyn.

Wnai ddarllen unrhyw beth.

Hwyrfrydig odiaeth fu Wil i fentro at y fath berson hyd yn oed o ran hwyl; ond wedi dod yno, ni wnai ef adweithio nac yn negyddol nac yn gadarnhaol iddi.

Dynoda'r pastwn ein bod mewn lle peryglus ac fe wnâi'r chwisl ein hatgoffa y byddai arnom, o bryd i'w gilydd, angen help," meddai yn gynnar yn y gyfrol.

Yn wir, yn amser yr Archesgob Laud, canmolwyd y sawl a wnai hyn fel dinesydd cyfrifol a Christion da.

Mentrodd ambell wylan atom i fegera, crawcian o'r uchelderau wnai'r gigfran.

Deffrowyd pawb yn y tŷ gan y sŵn a wnai Gwyll, a phan ddaeth y gweision yno gyda'u lampau gwelsant gorff Lowri Cadwaladr eu meistress yn gorwedd yn farw ar y gro o flaen y drws.

Gallasai fod wedi mynd efo ni yn y modur, ond buasai hynny'n golygu cyrraedd yn hwyr, yn fwy na thebyg, felly, cerdded wnai hi.

Doedd dim i'w wneud ond trio edrych yn eofn a doeth a gwneud yn union yr hyn a wnai Jan o Wrecsam a eisteddai ar y lifft o 'mlaen i.

Cydgyfranogai'r ddau o'r un nwydau dynol, bid sicr, ond yma eto eu trin a wnai'r naill ūr a'i drin ganddynt a gâi'r llall.

Dal ei dir a wnai'r cawr ond gyda'i wen yn crebachu'n gyflym.

Ond dal i sefyll fel plismon a wnai'r llefnyn.

'Doedd 'na ddim son yr oes honno am rai'n cysgu trwy'r dydd a ddim yn deffro nes ei bod yn amser mynd adra, a doedd 'na neb i roi help i rai na wnai neb arall eu helpu.

Ond nid dweud stori fel pawb arall a wnai hwn.

Ag yntau mewn coblyn o gyfyng-gyngor, daw Mona ato gyda'r bwcedaid o fadarch a brifiodd yn gnwd addawol a pherswadia'r llo a'r golwg 'Be wnai?' ar ei wep i fuddsoddi mewn rhagor o fwcedi a'u dodi i dyfu yn nhwllwch rhynllyd yr hen sinema wag.

Ond wnai ddim achos yr ydw i'n gorfod cyfarfod y bobol yma o bryd i'w gilydd.

Gwyddai mai cyfeillion a wnai hynny.

Dyna hefyd at ei gilydd a wnai cyfrolau cynnar Kate Roberts a DJ Williams, er fod lle'r unigolyn ynddyn nhw eisoes yn cryfhau.

Hwn oedd y tymor, yn anad yr un arall, a wnai i Ifor deimlo fod defaid yn cael hwyl iawn ar ei ben.

Cabbage moth yw ei enw, gwyfyn bresych wnai gyfieithiad derbyniol mae'n debyg.

Ond dywedodd Arglwydd Brecon ei hun ei bod hi'n drueni na wnâi'r ardaloedd Cymraeg fwy i gychwyn diwydiannau eu hunain yn hytrach na galw byth a beunydd am gymorth o'r tu allan.