Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wneid

wneid

(Profiad newydd tu hwnt a charlamus-gyffrous i ni oll, bid siŵr, fyddai hynny: O bydded i ni abersochio'r bur hoff bau oll - (a beth wedyn wneid i abersochio Abersoch ymhellach?

Roedd yn hanfodol fod y gwaith a wneid yn y grwpiau, a rhwng cyfarfodydd, yn cael ei ddyblygu, a chofnod yn cael ei gadw o'r penderfyniadau lu.

Golygai'r gwaith datrannu hwn ein bod yn digroeni braich yn llythrennol ond fe wneid hynny, wrth gwrs, â'r cyrff a roddasid at wasanaeth meddygon drwy ewyllysiau unigolion.

Er bod y byd amaeth yn cychwyn ar gyfnod o newid mawr, gyda'r defnydd a wneid o beriannau wedi lledaenu er mwyn lleihau'r angen i fewnforio bwyd yn ystod y Rhyfel, gan arwain yn anochel at leihau'r nifer o weision a weithiai ar ffermydd a pheri i'r Llywodraeth ddarparu prisiau sefydlog am gynnyrch fferm, cyflwyno portread eithaf rhamantaidd o fyd yr amaethwr a wnaeth Geraint Bowen.

Cyn dyfodiad y peiriannau sydd â rhan mor amlwg heddiw yng ngweithgarwch y ffarm, ymweliad brysiog yn unig a wneid â'r ffair a gynhelid yn fisol.

Cafwyd trafodaeth ar y materion canlynol - (i) Maes parcio gorsaf Porthmadog Datganodd swyddog o'r Rheilffyrdd Rhanbarthol bod maes parcio yr orsaf yn rhy fawr ar gyfer y defnydd a wneid ohono fel maes parcio ar gyfer pobl a ddefnyddiai'r tren.

Rhaid yw sôn amdano bellach yn y gorffennol gan fod dyfeisgarwch dyn wedi llunio pob math o beirianwaith i wneud y gwahanol fathau o drymwaith a wneid gynt gan y ceffyl.

Er y gellid yn hawdd bod yn ddigalon ynglŷn â sefyllfa'r Gymraeg heddiw a'r treialon sydd yn wynebu plant ac oedolion ifainc, y mae un peth yn sicr, y mae unrhyw fuddsoddiad a wneid i'w hybu a'u cynnal yn y Gymru sydd ohoni yn un o'r buddsoddiadau pwysicaf a mwyaf gwerthfawr.

Nid yw iaith yn bodoli mewn gwagle, felly mae unrhyw benderfyniadau neu bolisi%au a wneid yn y meysydd allweddol hyn yn effeithio ar ddyfodol y Gymraeg ac yn fwy na dim byd arall ar fywyd pob dydd pobl ifainc yr ardal.

Hysbysodd y Cadeirydd iddi ymweld a Chanolfannau Cynghori Tywyn, Blaenau a Bala ac iddi gael argraff dda iawn o'r gwaith a wneid yno.

Gan nad oedd yr elw a wneid o redeg y gwasanaeth tren yn dod yn agos at y gost o'i gynnal bydd y gwasanaeth yn dod i ben.