Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wneuthum

wneuthum

Bu pwyso mawr arnaf i'w gadael ym Mangor, ond parhâu ar fy siwrnai'n dalog a'r cyfrolau dan fy mraich a wneuthum.

Ei weled fe cyn gweled y John arall a wneuthum i, a'i wir adnabod ar ôl methu clywed ei oslef arbennig ef yn llais y llall.

Ond ymlaen yr aeth y cynnig, a'i gario'n eithaf rhwydd: ùsiaradodd Gerallt Jones wrth ei gynnig, ond eilio'n ffurfiol a wneuthum i, gan fwriadu siarad yn ddiweddarach pe gwelwn fod angen ateb unrhyw ddadl: ond ni fu angen.

Y weithred yma, o dderbyn pum cant o gopi%au o lyfrau lliwgar, syml Collins, oedd yr un gymwynas fawr a wneuthum dros lyfrau Cymraeg yn ôl Wyn Burton, Llyfrgellydd Ysgolion ar y pryd.

'Y gweld cyntaf' a ddaeth iddo, fel yr esboniodd mewn llythyr at Mary Lewis, a oedd yn gyfrifol am y cynhyrchiad, oedd, 'nad oes ddianc rhag enbydrwydd arswydus economeg y gors.' Dyma sail yr athroniaeth feirniadol a fynegwyd yng Nghwm Glo: 'Gweld cefn gwlad yn dihoeni a wneuthum,' meddai ac o ganlyniad meithrin ymwybyddiaeth o'r graddau y dylanwedir ar fywyd yr unigolyn gan amgylchiadau sydd y tu hwnt i'w reolaeth ef.

Bu+m yn ystyried froeon ysgrifennu ato i ofyn iddo a fuasai'n barod i gydweithio ar hunangofiant, ond oherwydd galwadau eraill ni wneuthum hynny.

Fe wneuthum gwpanaid o goffi i mi fy hun tua'r un ar ddeg yma, hefo powdr llefrith.

Pa ryfedd iddo fynnu imi dorri gair cryfach o lawer allan o raglen a wneuthum ar dâp yng Nghwm Elan ddechrau'r chwedegau.

Bum yn meddwl droeon fy hunan am yr un peth, ond ni wneuthum ddim i ddyfod a'r bwriad i ben, gan na thybiwn fod y darllenwyr yn galw am hynny....Erbyn hyn, yr wyf wedi fy mherswadio fod gofyn ymhlith y darllenwyr am nodiadau golygyddol, a'm dyletswydd innau yw ufuddhau i'r alwad.