Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wrach

wrach

Yn aml byddai ffermwyr yn clymu darn o'r pren i'r aradr neu'r chwip fel na allai'r un wrach witsio'r anifeiliaid.

Roedd hi'n dal i wneud y cabaret ar y pryd, a thro phedair blynedd yn ôl, cafodd gyfle i chwarae Ceridwen y wrach yn y panto Cymraeg Twm Sion Cati.

Oedd y wrach o'r diwedd wedi estyn ei dwylo gwyrdd, crafangus at y storiwr?

Os daw e ar draws yr afal, mae'n siŵr o fynd ag e oddi arnat ti, dyna'i addewid i'r hen wrach.

I mewn i'r fasged fawr yr aethon nhw i gyd i'w cario adra, ac mi 'u rhannwyd nhw wedyn, fel bod 'na ddigon i swpar yn Cae Hen a Nant-y Wrach.

Trodd Delwyn ati'n gyflym, 'Tasg bach iawn i unrhyw wrach gwerth 'i halen fydde gosod cynffon wrthi!' Gwyrodd y gwrachod eu pennau.

Yna'r cyhoeddiad araf: 'Stori'r Wrach o lyn y Wernddu...'

Gallai ei dychmygu'n awr, yn gorwedd yn ddu ar ochr y mynydd yn y fan acw, a niwl fel cap llwyd am ei phen, fel rhyw hen wrach yn gwneud hwyl am ei ben, ac yntau;'n ymbalfalu tuag ati ar foreau tywyll fel hyn, a dim gwaith i ddechrau arno yn oerni'r bore; dim ond mynd o gwmpas a'i ddwylo yn ei boced i fegera.

Pan ddaeth at y cyhuddion ynglŷn â glanhau caets y caneri, oedodd y wrach yn hwy nag oedd angen dros y gair caneri, a dyma Mini'n codi'i phen i edrych ar ei chwaer.