Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wraidd

wraidd

Ei doniau hi fel dewines all fynd at wraidd y cyfan.

Dyna sydd wrth wraidd llawer iawn o'r anniddigrwydd a fynegir ar hyn o bryd ym mhob cwr o'r wlad.

Dydy hi ddim yn gyfrinach bod y clwb yn ei chael hi'n anodd denu cefnogwyr a'r cyfarwyddwr newydd Geoff Farrell sydd wrth wraidd y syniad.

Dreigiau sydd wrth wraidd dy ail broblem di yn ôl pob tebyg.

Fe sylweddolodd yn syth mai diffyg yr elfen hanfodol copr oedd wrth wraidd yr helynt.

Nid wyf yn ddigon ffôl i gredu mai drygioni ac anwybodaeth sydd wrth wraidd syniadau eraill, daliadau'r Adwaith, ond yr wyf yn hollol sicr yn fy meddwl fy hun fod y rhai sy'n synio felly yn camgymryd yn ddifrifol.

Nid wyf yn ddigon ffol i gredu mai drygioni sydd wrth wraidd y syniadau eraill, daliadau'r Adwaith, ond yr wyf yn hollol sicr yn fy meddwl fod y rhai sy'n synio felly yn camgymryd yn ddifrifol.

Mae'n werth dyfynnu'r paragraff hwn oherwydd mae'n dweud mwy am y gwir bryder ynglŷn ag addysg academaidd ac uwchradd nag y mae cyfeiriadau Iolo Caernarfon (er enghraifft) at y Cwrdd Misol yn haeru mai 'hunan a balchder oedd wrth wraidd' dymuniad Dr Owen Thomas i fynd i Brifysgol Edinburgh.

Ond ofn oedd wrth wraidd y cwbl.

Gair sy'n cwmpasu cymaint o'r hyn sydd wrth wraidd Cymdeithas yr Iaith.

gall seiliau hen draddodiad fod yn gyntefig iawn, ac i'm tyb i, egwyddorion cymdeithasau cyntefig sydd wrth wraidd pob crefydd.

All neb ei feio am hynny ond roedd ei gyflwyniad yn fler a'i afael ar y pynciau pwysig sydd wrth wraidd yr ornest yn ymddangos yn drawiadol o ansicr.

I fynd at wraidd y gwahaniaeth rhwng pobl a chenedl, y mae'n rhaid cofio yr edrychai Israel arni ei hun fel cymundod o deuluoedd.

Cyffuriau oedd wrth wraidd hyn unwaith eto.

An gwaredo os yw - mewn cyfnod pan yw'r ddiod wrth wraidd cymaint o drafferthion a helyntion cymdeithasol.

'Does dim modd mynd at wraidd y dirgelwch heb wylio, mae hynny'n bendant.

Yn yr adroddiad cyntaf hwnnw trawyd nodau y byddai adroddiadau diweddarach yn cydgordio â hwy: un oedd y ffaith - fel y gwelid pethau - nad tlodi oedd wrth wraidd y diffyg truenus yma o ysgolion neu gyfarpar.

Mewn cyfres o stori%au byrion, byrion, ffwrbwt weithiau, gyda thro yn y gynffon a rhyw islais o ddirgelwch yn gorwedd wrth wraidd nifer ohonyn nhw, mae'n edrych allan ar y byd, ambell waith yn chwyrn, ambell waith yn betrus, ond bob amser trwy lygaid unig ac ynysig un person sydd wedi ei charcharu yn ei chnawd a'i meidroldeb ei hunan.