Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wreiddiau

wreiddiau

Hebryngwyd y broga a'r gelen o dan wreiddiau'r wemen at risiau a grymai dan berfeddion pydredig y boncyff.

Yn wir, yr oedd yr Academi Bresbyteraidd yn barhad di-dor o'r traddodiad y bu Samuel Jones, Brynllywarch, a'i debyg yn mwydo'i wreiddiau.

Mae calon barddoniaeth yn curo'r ymddangosiadol gryfach, ac wrth gwrs caiff y beirdd faeth o wreiddiau hen y traddodiad, a gellir son yn hyderus am adfywiad cynganeddol ac yn y blaen.

Ond daeth tro ar fyd Denzil pan gafodd gyfle i ddychwelyd at ei wreiddiau a chael swydd fel gofalwr amaethyddol yn y Plas.

Mae'n rhaid bod yr un hen wreiddiau yn eu bwydo.

Ei gyrru'n gynddeiriog a wnâi trwy rincian am ei wreiddiau a'i ddyletswydd o a hithau i wrthsefyll pobl ddwad yn mynnu eu hawliau a chodi eu lleisiau hyd yr arfordir.

O'r pedwar ban ac ar eingion amser y lluniwyd inni wreiddiau i brofi sut y meithrinwyd brogarwch, capelgarwch, ysgolgarwch a thylwythgarwch, a dysgu drwy brofiad sut y gwnaeth gwaed a gwead greu un gymdeithas ddi- ddosbarth er bod rhaniadau emosiynol ynddi, megis rhwng capel ac eglwys, llawr gwlad a'r mynydd.

a ni wn am un cwestiwn addysgol, gwleidyddol na chrefyddol nad oes ganddo wreiddiau dyfnion yn y pwnc hwnnw.

Ac wele, tua'r adeg yr oedd y Pabydd Polydore Vergil yn ymosod ar Sieffre am balu ei chwedlau celwyddog am wreiddiau'r Brytaniaid, yr oedd rhai o flaenoriaid y Brotestaniaeth wrth-Rufeinig a fabwysiadwyd gan y Saeson yn bwrw iddi i ail-lunio hen hanes yr ynys hon, yn y fath fodd ag i ddangos fod yma, ym Mhrydain Fore, eglwys apostolaidd bur, eglwys gyn-babaidd ddi-lwgr.

Dychwelodd y canwr opera rhyngwladol enwog, Bryn Terfel, i'w wreiddiau i roi anrheg Nadolig i'r gwylwyr yn Canrif o Gân lle canodd rai o ganeuon ei ieuenctid, gan gynnwys cerdd dant a fersiwn o Hen Feic Penny Farthing Fy Nhaid.

Cydfodolai'r ymchwil am wreiddiau dysg yn y traddodiad clasurol a grymoedd eraill: yr awydd am weld dysg debyg yn blodeuo yn eu hieithoedd eu hunain, a'r awydd hefyd am ledaenu dysg i'r cyffredin.

Efallai fod yswain yn ei ystyried ei hun yn fwy o fonheddwr yn ei dŷ yn y dref neu'r ddinas, ond yr oedd ei wreiddiau yn y wlad ar ei ystad ac, heb honno, nid oedd yn fonheddwr o gwbl.

Pa wedd bynnag am hynny, yr oedd rahid i bawb deallus gydnabod nad oedd Dafydd ap Gwilym yn sui generis yn llenyddiaeth Ewrop, hyd yn oed os oedd yn ymddangos fellyn yn llenyddiaeth Cymru, ond fel yr oeddid yn dod yn fwy hysbys yn llenyddiaeth y cyfnod a flaenorodd ei gyfnod ef, deuai'n fwyfwy tebygol fod rhai o wreiddiau barddoniaeth serch a barddoniaeth natur Dafydd ym marddoniaeth ei flaenorwyr, sef ym marddoniaeth y Gogynfeirdd neu Feirdd y Tywysogion, ac y gallai fod y dylanwadau cyfandirol y mae'n bosibl dadlau eu bod i'w gweld yng ngwaith Dafydd, mwen gwirionedd, yn rhai a effeithiodd ar farddoniaeth ei flaenorwyr.

Bydd hyn yn talu ar ei ganfed yn enwedig os llwyddir i ddileu'n llwyr bob darn o wreiddiau'r chwyn lluosflwydd.

Gan hynny y mae cymeriad ei gymdeithas, a'i wreiddiau ynddi, yn holl-bwysig i bawb dynol.

Tuedd y rhan fwyaf o lenorion Lloegr, hyd at yr Oes Ramantaidd, fu ystyried fod popeth Groeg a Rhufeinig yn rhwym o fod yn well na'r dulliau brodorol; ond yr oedd y Cymry, mewn cyferbyniad, yn dueddol o edrych ar farddoniaeth Gymraeg fel traddodiad clasurol arall, a oedd yn llawn mor hynafol yn ei wreiddiau, yn llawn mor gaeth a ffurfiol, an yn llawn mor deilwng o barch ac astudiaeth â'r traddodiad Groeg a Rhufeinig.

Ymhyfrydai yn ei wreiddiau ym Mhowys.

'Does neb yn sicr iawn pryd yn union y dechreuodd, gan fod ei wreiddiau mor bell yn ol mewn hanes cynnar iawn.

Fe fyddai bron â dotio ar y cwysi a drôi'r aradr, a theimlech ei fod yn rhan o'r cae, fod iddo wreiddiau yn anwylo'r âr yr oedd yn gwyro trosto.