Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wreiddiol

wreiddiol

Trwy weddill y ganrif ddilynol aethpwyd ati i gymharu ieithoedd â'i gilydd er mwyn olrhain nodweddion y famiaith wreiddiol a cheisio adlunio'i ffurfiau.

Defnyddiodd yr hyn a enillodd o ddarllen a chyfieithu i gyfansoddi barddoniaeth wreiddiol.

Felly, nid oes angen fflachlamp mor nerthol ar y laser Nd:YAG ag ar yr un rhuddem, lle mae'n rhaid codi egni mwyafrif yr atomau cromiwm o'r lefel egni wreiddiol.

Dadfeilio y mae popeth o wneuthuriad dyn, a thyfiant naturiol yn adfeddiannu hynny sy'n weddill o'i diriogaeth wreiddiol ...

Hyn, wedyn, a'i harweiniodd yn ddiweddarach, fel y cyfeddyf, i ddileu'r llinell wreiddiol wan, 'Wyneb yn wyneb gyda'r graig' oherwydd, chwedl yntau, 'y mae i'r graig hithau ei dannedd'.

Ar Gors Ddyga newidiwyd llwybr yr afon yn sylweddol yn ystod y ddwy ganrif ddiwethaf, ac o ganlyniad mae ei thraeniad yn gwbl annhebyg i'r hyn ydoedd yn wreiddiol a naturiol.

Nofel wreiddiol yng Nghyfres Corryn yn trafod cyfnod yr Ail Ryfel Byd.

Byddai tarddu Arthur o Artorius yn rheolaidd yn ieithegol, ond os dyna ffurf wreiddiol ei enw ni chadwyd unrhyw gof am hynny.

Ac yno roedd cartref yr ail Siwsan - Siwsan Diek, yn wreiddiol o Borthmadog.

Adargraffiad o un o'r llyfrau mewn cyfres wreiddiol a doniol yn cyflwyno Rala Rwdins a Rwdlan.

Er bod y clybiau wedi cytuno i wneud hynny maen nhw'n anfodlon o hyd gyda'r strwythur sy'n golygu bod naw clwb o Gymru yn y cynghrair yn hytrach na'r wyth y cytunwyd arnyn nhw yn wreiddiol.

Ers 1967 mae'r Lolfa wedi bod yn cyhoeddi nofelau a'r ffuglen newydd mwyaf cyffrous, cerddoriaeth, barddoniaeth answyddogol a chyfresi o lyfrau cwbl wreiddiol i blant.

Er mwyn i'r laser weithio, rhaid bod mwy o atomau cromiwm yn y lefel uwch na'r un wreiddiol.

Dyna beth oedd brawddeg wreiddiol.

Dymar drydedd ffilm Dalmatians ond y mae llawer ohonom o'r farn nad oedd gwir alw am y fersiwn actorion-go-iawn yn 1996 gystled oedd y fersiwn animeiddiedig wreiddiol.

Yn olaf, fe ellir chwarae y rhaglen orffenedig yn ôl ar sawl sgrîn deledu yng ngolau dydd, a chyda llawer llai o draul ar y tâp nag a fyddai ar ffilm arferol, a byddai cynhyrchu copi%au o'r rhaglen wreiddiol yn hawdd ac yn rhad.

Dilynodd Yn ôl i Berlin Marion Loeftler (yn wreiddiol o Berlin ond bellach yn siarad Cymraeg yn rhugl ac yn gweithio yn Aberystwyth) ar daith ddadlennol yn ôl i'w dinas enedigol.

Bydd mor wreiddiol ag syn bosib, a phaid cymryd gormod o sylw o be mae pobol eraill yn ddweud yr wythnos hon.

Anfonwyd at y canghennau i'w hannog i sefyll mewn etholiadau lleol: nid anogaeth wreiddiol iawn, ond mae'r anogaeth yn llai pwysig na'r neges o'i blaen, sef bod y Tri yn y carchar am na wnaethai aelodau'r Blaid eu dyletswydd o ennill seddau ar y cynghorau lleol.

Ond yn wreiddiol, enw ar y planhigyn oedd y gair Lladin 'caulis', gan nad beth am 'brassica'.

Yr hyn â brofwyd oedd mai Lloegr ydy tîm gwana'r grwp - fel y tybiwyd yn wreiddiol.

Byddai'n beth da pe cadwesid y ffurf wreiddiol ar y dechrau neu'r diwedd.

Enw tafarn felly oedd Tafarn y Bwncath yn wreiddiol - tafarn a alwyd yn Boncath Inn mewn oes ddiweddarach.

Ffurf wreiddiol yr enw hwn oedd Llanddewi Nant Hoddni.

Mae'r llinellau o gerrig yn Karnag yn debyg i rengoedd o filwyr ac yn ôl un stori, byddin o filwyr paganaidd yn bygwth un o'r hen seintiau Celtaidd oeddent yn wreiddiol.

Lladin oedd iaith wreiddiol y bucheddau hyn, ond cyfieithwyd nifer ohonynt i'r Gymraeg yn y cyfnod canol.

Iaith Ryngwladol Cerdd Ar nodyn mwy dadleuol, fe ddatgelir bod Towyn Roberts o'r farn y dylid caniatau i gantorion sy'n cynnig am ei Ysgoloriaeth ganu eu caneuon yn yr iaith wreiddiol yn ogystal â'r Gymraeg.

Anifeiliaid a berthynai'n wreiddiol i diriogaethau o amgylch y Môr Canoldir yw cwningod, ond a gludwyd yma i Brydain gan y Normaniaid.

Rhaid i ni oedi i ystyried y ddogfen eithriadol hon, a cheisio dyfalu'r effaith a gafodd ar ei chynulleidfa wreiddiol.

Ond nid oes raid i'r lefel isaf o'r ddwy gyfateb i'r un wreiddiol.

Gwyddys hefyd fod canu baledi yn weithgarwch poblogaidd ymhlith rhai o drigolion y dyffryn, a'r rheini'n aml yn wŷr a brofodd ddyddiau gwell, megis Evan Nathaniel, brodor o'r Alltwen yn wreiddiol, a fu'n crwydro'r cymoedd yn canu a gwerthu baledi.

Iaith y canu oedd Profenseg neu la langue d'oc, dit aujourd'hui l'occitan, ond yr oedd ei diriogaeth wreiddiol yn ehangach na Phrofens, oblegid cynhwysai hefyd Languedoc, Aquitaine (gan gyfrif Limousin, Perigord, etc) ac Auvergne, a defnyddiwyd yr iaith fel cyfrwng canu gan y beirdd i'r deau o'r Pyrenees, gan y beirdd Catalanaidd ar y naill law a chan feirdd gogledd yr Eidal ar y llaw arall.

A thra mai sgert fer a nosweithiau hir yw natur Sheryl, pell iawn yw hyn o natur bywyd Lisa Victoria, sy'n wreiddiol o'r Rhondda ond bellach yn byw yng Nghaerdydd.

Eithriad mewn llongddrylliadau hen iawn yw i'r darnau o'r llong a welir yn awr adlewyrchu siâp y llong wreiddiol.

Er bod mics Steffan Cravos yr un mor sinistr â'r fersiwn wreiddiol, mae'r offerynnau pres yn chwarae rhan amlwg ar y trac cyntaf, ac maent yn ychwanegu llawer at effeithlonrwydd y gân.

Yn wreiddiol, ni chredid yr heintid merched na dynion nad oeddynt yn ymarfer rhyw gwrywgydiol.

Gan mai enw cyffredin oedd bala yn wreiddiol yna rhaid oedd gosod y fannod y o'i flaen mewn enw lle.

I gyfarfod â gofynion odl y daeth y gair 'cŵn' i'r gerdd yn wreiddiol, yn ôl cyffes y bardd ei hun.

Er mai dim ond 2,000 o gopiau a argraffwyd yn wreiddiol gwerthwyd 15,000,000 erbyn hyn ac y mae'r Misa Criolla gyda'i rhythmau gwerinol, i gyfeiliant gitars, charangos a bombas yn waith y mae parch a phoblogrwydd mawr iddo yn yr Ariannin.

Fe fydd cyhoeddiadau swyddogol y Senedd yn ddwyieithog, fe gyhoeddir testun y Bwletin Swyddogol (yr 'Hansard') mewn Basgeg a Sbaeneg, ac fe fydd y ddwy iaith yn cael eu hystyried yn wreiddiol.

Er fy mod yn gyfarwydd a'r gair nithlen - nithlan i mi - am sach wedi ei rwygo yn agored i greu cynfas ddwywaith arwynebedd y sach gwreiddiol ni wyddwn mai'r ystyr wreiddiol oedd "cynfas o sachlian a ddefnyddid i greu gwynt ar y llawr dyrnu i wahanu'r us oddi wrth y grawn" a'r bathiad yn gwbl resymol o weld mai'r enw am "un yn gwyntyllio... ar y llawr dyrnu" oedd nithiwr a'r enw ar y weithred yn nithio.

Fe;u cyhoeddwyd yn y cylchgrawn Cymru yn wreiddiol ac .yna'n gyfrol fechan yng Nghyfres y Fil, Capelulo, ac yn bennaf straeon sy'n darlunio'i ddawn ddweud mewn cyfarfod dirwest, wrth weddlo neu wrth roi rhyw gil-sylwadau wrth ddarUen o'r Beibl.

Fel llawer o'r straeon gwerin cyfoes, mae lle i amau mai stori o America ydi hi'n wreiddiol - er bod y sawl sy'n ei hadrodd yn taeru'r du yn wyn i'r hyn a ganlyn "ddigwydd i ffrind"...

Un o Bwllheli'n wreiddiol, y llall o Borthmadog, a'r ddwy wedi byw yn Israel ers blynyddoedd.

Er enghraifft, gall lluniau sy'n dangos datblygiadau yng nghynlluniau amaethyddol De-Ddwyrain Asia gael eu dangos mewn rhaglenni a chynyrchiadau cwbl wahanol i'r ni wreiddiol.

Cyfieithiad o'r Mabinogion a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 1948.

Mae'n bosibl mai bwncath oedd ffurf wreiddiol yr enw a mai'r un bwn a geir yma ag yn aderyn y bwn 'bittern'.

Oddi yma gallant ddisgyn i'r lefel wreiddiol drwy ollwng goleuni.

Teulu o Drecastell ydynt yn wreiddiol, ac yno bu Tom Davies yn ffermio nes iddo ymddeol.

Ger Edern ar arfordir gogleddol Llŷn saif fferm o'r enw Cwmistir, ond dengys hen ffurfiau o'r enw mai Cemeistir oedd y ffurf wreiddiol - cyfuniad o'r elfennau cemais a tir.

Ei henw hi oedd Catrin ferch George ac o Groesoswallt y deuai'n wreiddiol, yn ferch i rieni tlawd ond parchus, yn ôl Morgan.

Mae carfan pêl-droed Cymru yn ymarfer yn La Manga yn Sbaen ond mae'r rheolwr Mark Hughes heb naw o'r garfan wnaeth e ddewis yn wreiddiol.

Adargraffiad o'r chweched llyfr yn y gyfres wreiddiol a doniol am Rala Rwdins a Rwdlan.

Yno hefyd roedd Joan Ruddoch, cyn-lywydd CND sydd bellach yn Aelon Seneddol dros Lewisham, ond yn wreiddiol o Gaerdydd.

Os cofiwch chi, mi roedd tipyn o strach ynglŷn â'r ffilm wreiddiol (gyda Hywel Bennett yn y brif rhan) oherwydd bod trigolion yr Aber(ystwyth) go iawn yn poeni y byddai twristiaid yn ofni dod i'r dre o'i herwydd.

Bydd yr atomau Nd yn gollwng goleuni laser drwy ddisgyn i lefel egni ychydig uwchlaw'r gwreiddiol, yna'n disgyn ar unwaith i'r lefel wreiddiol heb ollwng goleuni.

Felly, er mwyn ceisio'u paratoi hwythau i allu hyfforddi eu praidd bu raid cyfieithu i'w mamiaith ar eu cyfer lawer o lenyddiaeth grefyddol yr oes a ysgrifenasid yn Lladin yn wreiddiol.

Trwy ymdebygu i'w 'gwell' yr oedd profi eu gallu, nid trwy lenydda'n 'wreiddiol' neu'n feiddgar am brofiadau'r gweithwyr," meddai.

'Rwyn credu y bydd seiciatryddion, yn enwedig seicdreiddwyr, ac yn fwyaf arbennig rhai Jungaidd, yn siŵr o gael budd o ddarllen y llyfr yma, a'r chwedl wreiddiol.

Nofel ysgafn, wreiddiol i blant 8-12 oed.

Y FELINHELI - DYHEAD: Consyrn am eraill sydd wedi arwain Rebecca, merch Mr a Mrs Vernon Pierce, Cae Siddi, Llanddeiniolen (ond yn wreiddiol o'r Felinheli) ar daith i Moscow, Murmansk a St.

Mae'r dyfyniad o Hanes Rhyw Gymro yn dilyn yr orgraff wreiddiol ar wahân i'r priflythrennau ar ddechrau'r llinellau.

Yr oedd tri ateb derbyniol i gwestiwn 5 : Y bardd, Gwyndaf, gyfansoddodd y geiriau yr ias yng Ngruddiau'r Rhosyn yn wreiddiol, mabwysiadwyd y geiriau yn deitl i'w nofel gan Gwyn Llywelyn a'r cymeriad yn y nofel a deimlodd yr ias oedd Alun Edward Lloyd.

Cyfres wreiddiol a doniol yn cyflwyno Rala Rwdins a Rwdlan.

Y mae yna rai sydd wedi derbyn graddau prifysgol am lawer iawn llai nag a gyflawnwyd gan Huw Jones - bachgen o Fôn yn wreiddiol a fu am ddeng mlynedd yn was ffarm cyn troi at y weinidogaeth.

Eifionydd yn wreiddiol.

Tad a mam Miss Lloyd oedd ceidwaid y capel yn wreiddiol.

Oes yr orsaf yn wreiddiol oedd 33 mlynedd ond mae swyddogion BNFL yn gobeithio y gall hwnnw ymestyn i 50 mlynedd.

Yn ei cherdd Cusan Hances, sy'n un o ddwy gerdd o deyrnged i'r diweddar RS Thomas, mae Menna Elfyn yn pwysleisio'r gred mai pontio ieithoedd - ac felly pobloedd - mae cyfieithu ac nid difetha'r farddoniaeth wreiddiol.

Mae'r rhain gan April Bowen o Gwm Cynon, Joanne Pate a Mary Moylett, yn wreiddiol o Loegr, ond yn byw ac wedi dysgu Cymraeg yn Aberystwyth.

Llai na chant o'r gynulleidfa wreiddiol sydd ar ôl erbyn hyn wedi eu lapio'n dyn mewn cotiau trwchus rhag oerni unarddeg y nos.

O baratoi'r 'Hansard', gyda'r cyfraniad yn yr iaith wreiddiol ar chwith y dudalen, a'r cyfieithiad i'r iaith arall ar y dde, fe fydd yr Hansard ei hun yn ddwyieithog ac fe fydd modd gweld pa iaith a ddefnyddiwyd gan y siaradwr.

Gyda golwg ar foesoldeb yr holl fater, nid wyf am ddywedyd dim, nes caf weled vm mha ffurf y gyrrwyd hi i'r wasg yn wreiddiol.

Ar y cyfan, maen nhw mewn ardaloedd poblog ac wedi eu sefydlu yn wreiddiol i ateb gofynion cymdeithasol ac nid addysgol.

Nofel a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 1880, am un o wþr ifanc Terfysg Beca.

Gorffennaf 7 oedd y dyddiad gafodd ei nodi'n wreiddiol.

I raddau helaeth ymateb i argymhellion y llywodraeth 'roedd y ffermwr unigol - datblygwyd peirianwaith eang o grantiau a chyngor ac o addysg, yn wreiddiol dan adain Llundain, ac yn ddiweddarach o dan ddylanwad Brwsel a'r Polisi Amaeth Cyffredin (PAC/CAP).

Adargraffiad o stori wreiddiol a doniol am Rala Rwdins a Rwdlan.

Yn wreiddiol, roedd y Palesteiniaid wedi sôn am gael 2,000 o filwyr y Cenhedloedd Unedig i gadw'r heddwch ar y Lan Orllewinol a Llain Gaza.

Nid oes yna unrhyw dinc o gerddoriaeth y grwpiau yma yn eu cerddoriaeth ac mae'r aelodau yn mynnu dweud eu bod yn hollol wreiddiol.

Mae'n stori wreiddiol sy'n llawn digwyddiadau wedi eu gosod ar dudalennau lliwgar efo lluniau trawiadol.

Gwnaethpwyd hyn yn wreiddiol er mwyn sicrhau ffynhonell ddibynadwy o fwyd yn sgil y profiad, yn ystod ac ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Mae ei chyfansoddi yn wreiddiol ac yn bwerus: cyfoes, ie, ond eto'n hen-ffasiwn; neis.

Nid yw'r rhain yn yr orgraff wreiddiol er bod y cyfeiriad at Gweithiau M.

Aberglasney: A Garden Lost in Time - William Wilkins Gwelwyd ffrwyth y ddaear o wahanol fath yn Aberglasney: A Garden Lost in Time, cyfres ardderchog a baratowyd yn wreiddiol ar gyfer BBC Cymru a ddangoswyd hefyd ar y rhwydwaith.

Mae BBC CHOICE Wales wedi cynnig cyfle i dimau cynhyrchu fod yn wreiddiol, yn ffres ac yn greadigol.

Fodd bynnag nid Cefnfaes oedd ffurf wreiddiol yr enw Cemais fel yr awgrymodd rhai a nid oes a wnelo'r enw a'r gair maes.

Penderfynodd Steffan sefydlu bragdy yng Nghwmderi er mwyn cael achos i aros yn y pentre ac yn wreiddiol 'roedd am fynd i bartneriaeth gyda Reg - yna daeth Reg i wybod am berthynas gudd Steffan a Rhian a thynnodd allan o'r fenter.

Cyhoeddwyd yr argraffiad hwn yn 1961 yn wreiddiol.

Casgliad godidog o ganeuon syn gyffrous, yn wreiddiol ac syn ehangur sîn gerddoriaeth yng Nghymru.

Crewyd y broblem yn wreiddiol gan driniaeth ddifeddwl Pwyll o Wawl fab Clud.