Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wres

wres

Roedd wedi sglefrio ar draws y gell ar ei fatres nes bwrw'i gorun yn erbyn pibell drwchus yr ychydig wres.

Mae'n ymddangos fy mod i'n bodoli i raddau helaeth ar wres, fel pry copyn newydd anedig, ac mae'r tegeiriannau'n esgus dros gael gwres.

Roedd yr Indiaid yn ddiolchgar i gael mynd ati hi i droi allan mwy o flawd ynghanol yr holl wres ofnadwy.

Rhaid wrth oleuni haul a'i wres os am gynnydd, ac y mae'r sawl sy'n gosod ei ddawn o dan lestr yn ei cholli.

Heddiw, mae'n wybyddus nad oes gan Mawrth ond odid atmosffer tenau o garbon deuocsid sydd yn gallu cadw neu ddal gafael mewn cyfran fechan o wres yr haul.

Gellir tynnu'r rhaffau allan trwy guro'r wy yn galed i wneud ewyn, bydd rhai o'r rhaffau yn cysylltu â'i gilydd ac fe ellir hybu hyn gydag ychydig o wres a gwneud meringue.

Bydd y dolennau heyrn yn seimlyd a thwym gan wres yr anifail, a byddwch yn ymdeimlo â meddalwch cynnes pêr ei gnawd wrth i chwi ymestyn i fachu'r aerwy ar yr hoelen yn y buddel.

A'r cyfarfod yn anterth ei wres, daeth cerbyd i'r fan, a neidiodd gŵr ohono a adwaenai pawb, a phed enwem ef, enwem ŵr y gŵyr Cymru gyfan amdano fel un o golofnau cadarnaf y mudiad hwn.

Yn yr Iwtopia Mawr fe gofiwch fod y rhai a weithiodd ddim ond un awr yn y winllan yn cael yr un cyflog yn union â'r rhai a weithiodd drwy wres y dydd am ddeuddeg awr.

Gwn fod y claf yn derbyn iachâd pan deimlaf wres mawr yn fy nghorff neu deimlad y gellir ei alw yn un trydanol.

Gafaelodd Elystan yn y pen bychan a'i droi oddi wrth wres y fflam.

Yr oedd maint y blaten yn cael effaith ar ei thymheredd; po fwyaf oedd arwynebedd y blaten, mwyaf oll o wres a gollai wrth ei gweithio.

Mae rhywfaint o'r goleuni, fodd bynnag, yn cael ei amsugno gan y dudalen a'i droi'n wres.

Mewn llanerch lle hidlai'r haul drwy'r brigau llenwodd ei phocedi â choncars a moch coed, a mwynhau'r ychydig wres tra cyfansoddai lythyr.

Ysgrifennodd wedyn am 'ymosodiadau o wres a oedd yn gwanychu rhywun gymaint fel nad oedd yn bosibl i un a ddioddefai ohonynt wneud diwrnod da o waith.' Yn ôl yr Athro Hugh Thomas, awdur hanes antur Suez, 'roedd Eden yn cymryd dognau helaeth o gyffuriau, yn enwedig bensednne, trwy'r cyfnod hwn, er mwyn ceisio cadw i fynd.

Roedd yn agor allan i rhyw fath o gyntedd oedd bron mor gynnes â phobty ar wres isel.