Clywyd pregethu huawdl, teimladol, miniog ac apelgar gan Biwritaiaid fel William Wroth, Walter Cradoc, Vavasor Powell a Stephen Hughes.
Pa fodd y rhowch chwi gyfrif am eich tenantiaid truain?" Yn yr un ysbryd, gadawodd Wroth elw tair acer o dir a brynasai ym mhlwyf Magwyr i fod yn rhodd flynyddol i ddeuddeg o dlodion Llanfaches.
Yr oedd yr asbri hwn yn cynganeddu'n berffaith ag angerdd efengylu William Wroth ei hun.
Dywedai cofiannydd Henry Jessey, y gwr a ddaeth i lawr o Lundain i helpu Wroth a Chradoc sylfaenu'r eglwys, ei bod yn "dra enwog am ei swyddogion, ei haelodau, ei threfn, a'i doniau% ac, fel y cawn grybwyll, yr oedd ei haelodau'n ei chael yn hawdd i ymarfer eu doniau ar led.
Iddo ef neges seml oedd yr Efengyl a gallai fod yn bur bigog ynglyn â diwinyddion a oedd yn sefyll yng ngoleuni gwrandawyr trwy hollti blew'n fympwyol."Take heed", meddai, "of sophisticating the Gospel." Fel y Ficer Prichard, credai Wroth fod gwerth mewn llunio penillion ar batrwm y cwndidau i wneud hanfodion y Ffydd yn gofiadwy i'w bobl.
Dyma sylfaen eciwmeniaeth efengylaidd Wroth, Cradoc, Llwyd, Henry Walter a'r gweddill ohonynt.
Soniwyd eisoes am y tyrfaoedd a ddeuai i wrando ar Wroth.
Pan fu esgob Llandaf yn ei holi, flynyddoedd cyn hyn, am fod ei waith yn tramgwyddo rheolau'r eglwys, dywedodd Wroth wrtho, "Mae eneidiau'n mynd i uffern, f'Arglwydd, yn eu pechodau; oni ddylem ymdrechu ym mhob modd posibl i achub eneidiau?" Ac yn ei lyfr, Glad Tydings, rhoes Cradoc fynegiant eithriadol ddeniadol i'r genadwri Gristionogol, mynegiant sy'n rhoi awgrym inni o'r ysbryd a oedd yn ysgogi'r gweithgarwch o dan Ddeddf y Taenu.