Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wrtha

wrtha

Peidiwch a dweud wrtha' i.

Yn ôl yr hyn mae pobl yn ei ddweud wrtha i, maen nhw'n clywed pob gair sy'n cael ei gario ar y gwynt.

A phan glywodd Rondol fod Pitar Wilias yn gwneud montibag ohono ar lwyfannau'r wlad, y cyfle cyntaf a gafodd fe ddwedodd wrtho, 'Weli di Pitar - ma'n nhw'n dweud wrtha i dy fod yn cymryd fy enw'n ofer am fy mod yn cymryd ambell i lasiad o gwrw, ac na fyddi byth yn son am dy ffrindia sy'n llyncu wisgi.

Wn i ddim faint o weithiau y dwedaist ti wrtha'i gymaint roedd hi wedi dy helpu di, mewn un ffordd neu'r llall.

'Wnewch chi ddweud stori yr Hywyn cyntaf un wrtha i eto hefyd?'

Fe wedodd Stephen wrtha i wedi'r gêm ma'r potio pell oedd wedi gwneud hi i fi ddoe - oedd e'n anhygoel, medde fe.

Rhaid i chi adrodd y freuddwyd wrtha i y funud yma.

Ond mae o wedi bod yn glên iawn wrtha i ù 'does gen i ddim isio bod yn anniolchgar.

A deud wrtha chdi am beidio'u maeddu nhw, ia?

Ma' nhw'n deud wrtha i na twyt ti tdim yn gall--ond dydw i ddim yn 'u coelio nhw'.

prifathro ata' i ar y diwedd hefyd a 'nghuro i ar fy nghefn a rhoi pat ar fy mhen i ac er bod taten boeth lond ei geg fe ddywedodd wrtha' i: 'We liked you most awfully but we thought your accent might militate againstyou in this type of establishment.

Cododd ei wrychyn yn arw, ac meddai, "Dydi o ddim wedi dweud wrtha i.

'Anodd deud, achan.' 'Wel, triwch graffu, bendith y nefoedd i chi.' 'Ifan Ifans?' 'Ia?' 'Ma' rwbath yn deud wrtha' i bod ni wedi pasio'r lle...

'Dwi'n deud wrtha chi rwan, isio'u ffrog- martsio nhw i gyd i'r ffrynt lein sy, i'r Jyrmans gal practis saethu.'

Ond yr oeddech chi'n anfoesgar wrtha i.' Gonest, nid anfoesgar.' Brathodd ei gwefus a bwrw cipolwg ar y llythyrau oedd heb eu hagor, yna edrych arno eto.

Tyd þan, mi gei di ddweud wrtha'i...'

Mi ddôth y dyn llyfr bach ata i ar ddiwedd yr oedfa bore Sul a dweud wrtha i yn blwmp ac yn blaen na chawn i byth fynd yno wedyn am fy mod i'n rhoi oel ar fy ngwallt.' O drugaredd, 'roedd gan y bachgen hwnnw gryn dipyn o synnwyr digrifwch ac fe ddaeth yn bregethwr poblogaidd iawn ac yn un o arweinwyr 'i enwad - er 'i fod o'n dal i roi od ar 'i wallt.

O'dd e wastad yn dweud wrtha i - ‘Mae Stephen Hendry wedi dy gâl di 'to.

Ac medda fo wrtha i, Wel, Mr Jones, neith o ddim llawar o gwahaniath be sy tu allan i'r llyfr, 'na..

'Dad ddeudodd wrtha i am ofyn i rywun os oeddwn i isio.

Roedd hi ryw natur bagio oddi wrtha i, a bagio wnaeth hi nes y cymerodd hi wib yn y diwadd am y cefn, a welais i byth mohoni hi.

Oddi wrtha' i, os lici di.' 'O'r gora.

`Never forget the wonder of it all', meddai'r gohebydd profiadol o Sais, Martin Bell wrtha i rhywdro, gan led-awgrymu fod amheuaeth reddfol y newyddiadurwr yn ei rwystro weithiau rhag gweld ambell ryfeddod.

A hithau'n dal i ddiferu ar ôl cymryd cawod o dan fwced dyllog, fe ddywedodd un wraig, Im Sarin, wrtha' i fod y prinder o ddynion yn gosod straen gynyddol ar wragedd sy' wedi diodde' cymaint yn barod.

.' Oedodd y capten a syllu i'r môr a'i dduwch: 'Dyna un o'r petha cynta ddeudodd o wrtha i pan fuo ni'n yfed rhyw noson .

Trefen berffeth, yn y tŷ - ac yn y bocs, gobeithio!' 'Taw son am drefen dy dŷ wrtha'i - mae Alun o hyd yn dannod hwnnw i fi!' 'Alun yn dannod fy nhŷ i ti!

'ONd os daw'r cawr ar dy draws di, dyna ddiwedd arnat ti!' 'Ond chi ddwedodd wrtha i am beidio byth â rhoi'r afal i neb - ddim hyd yn oed i chi eich hunan,' amddiffynnodd Idris ei safiad.

Roedd y cyfieithydd yn gwybod, ond roedd e'n gwrthod dweud wrtha'i!' Yn y diwedd, daeth cynrychiolwyr o lywodraeth Iran ac o fudiad y Red Crescent.

'Fy nhaid ddywedodd yr hanes wrtha i, fel rydw inna'n 'i ddweud wrthyt tithau.'

Mi fuasen well gen i pe byddai nhw wedi cwyno wrtha i yn hytrach na mynd at yr heddlu.

Fe 'wedodd hi wrtha' i am ddanfon llythyr at Pobol y Cwm i ofyn a oedd rhywbeth 'da nhw.

Roeddwn yn siarad hefo fo ar y lon ar y ffordd adra 'ma, ac roedd yntau'n dweud wrtha i fod Begw wedi marw a'i fod heb ddim i'w chladdu, ac mi rois chewugain iddo' 'Wel,wel, wedi'n trin ni' annuwiol.

Ac i feddwl na thrafferthon nhw ddim i ddod i ddweud wrtha i ei fod o wedi brifo.

'Chi oedd y ferch oedd mor haerllug â dweud wrtha i neithiwr fod y mawr yn ddrwg a'r bychan yn ddel!' Deifiodd y swyddfa â'i lygaid wrth edrych o gwmpas Mae'r bychan yn ddel, ydi o, Miss Richards?

Gan Catrin Owan y cawn frechdan wrth ddwad adra o Ysgol Llanrhuddlad, cyn wynebu'r tair milltir trwy'r caeau am Frynteg lle'r oeddem yn byw.A dyna fyddai Catrin Owan yn ei ddweud wrtha'i bob dydd, 'Tasat ti yma ddoe mi fasat wedi cael jam arni!'.

Be 'di hyn maen nhw'n 'i ddweud wrtha i - ti ac Elen yn cael 'ch dal lle na ddylech chi fod.

'Mae'n siwr y deudodd o'i stori wrtha chi?' Edrychodd Ibn arno'n hurt: 'Stori pan oedd o'n fach, pan roddodd 'i dad o ar ben y cwpwrdd?

Roedd y bechgyn yn dweud wrtha i drïo cofio a meddwl beth oedd yn digwydd - roedd e'n sbeshal.