Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wrthbannau

wrthbannau

Roedd y pâr ifanc, fel y mwyafrif o blant dynion, yn bur dlodion, heb nemawr o ddodrefn na dillad, a chan fod y gaeaf yn nesu, penderfynodd y penteulu fyned i sale Hendre Llan, ran debyg y byddai yno le da i gael pâr o wrthbannau am bris rhesymol, yr hyn oedd arno fwyaf angen o ddim.

Modd bynnag, daeth y gwr adref gyda'r nos o'r Hendre gyda sachaid o sale ar ei gefn; a deuai ei wraig i'w gyfarfod gan ei gyfarch: 'Cawsoch wrthbannau, Dafydd?'